Pêl-droed

RSS Icon
16 Ionawr 2017

Gôl Jamie Price yn y rhwyd a’r llyfrau hanes

CYN mynd am eu cwpan cyntaf eleni mi gafodd y Seintiau Newydd siglad i’w gofio.  Yn y gêm olaf cyn y rhaniad, a thîm Craig Harrison wedi hwylio mor ddeheuig drwy bob gornest hyd yma, mi ddaeth un o glybiau’r gwaelod i’w hatal.

Wnaeth y Drenewydd mo’i curo ym Mharc Latham ond mi ddaethon nhw’n gyfartal yn eiliad olaf y gêm.  Jamie Price a’i gwnaeth hi’n 3-3 ac mi fydd ei enw yn mynd i lawr yn y llyfrau hanes am rwystro’r Seintiau Newydd rhag ennill 28 o gêmau heb golli, er bod eu henw yn llyfr Recordiau Guinness wedi cyflawni’r gamp o guro 27 o weithiau.

Canolwr 29 oed yw Jamie Price yn chwarae yn gefnwr chwith. Roedd hi’n 94 munud ar y cloc pan gawson nhw gic rydd bum llath ar hugain o’r gôl. I mewn â hi cyn i’r chwiban fynd a Jamie a phawb arall ond carfan y Seintiau wedi gwirioni. Mae o wedi digwydd ddigon o weithiau i ni y tymor yma, meddai’r sgoriwr, ac mae’n braf ei weld yn digwydd i TNS.

Wedi dechrau ei yrfa yn Cheltenham mae’r Cymro wedi chwarae i Birmingham City a chwarae i dimau Cymru dan wahanol oed.  Yn 2015 daeth yn ôl i’r Drenewydd wedi ymuno â nhw gyntaf yn 2011.  Ei droed chwith, fel y profwyd, yw ei arf gorau.

Er iddyn nhw gael gystal gêm, a hwythau 1-3 i lawr wyth munud o’r diwedd, dyw’r 3-3 ddim yn golygu eu bod wedi codi’n uwch yn y tabl.  Mae’r Drenewydd yn dal yn ail o’r gwaelod am fod Derwyddon Cefn wedi cadw Caerfyrddin i gêm gyfartal ddi-sgôr, ac yn cael pwynt fel tîm Chris Hughes.

Mi fydd hanner nesaf y tymor yn help i’r ddau glwb gael gwell gafael ar bethau.  Mae’r ddau yn medru chwarae’n dda ac fel Airbus, sydd ar waelod y tabl, mi ddylen gystadlu yn erbyn unrhyw un o’r chwech isaf.

Caerfyrddin a’i gwnaeth hi i’r hanner uchaf gan i Landudno fethu cael y gorau ar y Rhyl a gadwodd y sgôr yn 2-2.  Tîm Alan Morgan sydd ar ben ail hanner y tabl ac Aberystwyth dri phwynt ar eu holau wedi colli gartref i Met Caerdydd 0-2.  Roedd Aber wedi colli un chwaraewr y Sadwrn cynt pan ddaeth yr heddlu i nôl Lee Healy a mynd â’r gŵr oedd newydd ymuno â nhw o Dreffynnon i’r carchar. Roedd wedi torri amodau’r llys yn erbyn cyn-bartner.

Doedd dim amheuaeth y byddai Bangor yn cadw’u lle yn yr hanner uchaf ond mi aethon nhw i Frychdyn a chael cweir 4-2 gan y tîm sydd ar waelod y tabl.  Mae angen i’r Dinasyddion wella os ydyn nhw am fynd am Ewrop. Gap Cei Connah sy’n dal yn ail a’r Bala’n drydydd wedi gêm ddi-sgôr.

Y Sadwrn hwn yr unig gêm yw honno yn ffeinal Cwpan y Cynghrair, neu Cwpan Nathaniel fel mae’n cael ei galw eleni.  Y Seintiau Newydd sydd wrthi yn erbyn y Barri, un o glybiau llwyddiannus Uwch Gynghrair Cymru am rai blynyddoedd.

Hwn fydd y tro cyntaf er 2003 iddyn nhw fod mewn ffeinal cwpan genedlaethol.

Fyddan nhw ddim yn gorfod teithio’n bell oherwydd ei bod yn cael ei chynnal ar faes Met Caerdydd yng Nghyncoed. Mae hi’w gweld ar Sgorio.

Mi fyddai’n braf eu gweld yn cael eu henwau ar y cwpan. Am newid.

Rhannu |