Pêl-droed

RSS Icon
09 Ionawr 2017

'Safon Uwch Gynghrair Cymru wedi gwella ers i glybiau osod caeau 3G' – Malcolm Allen

Mae safon y chwarae yn yr Uwch Gynghrair Cymru Dafabet wedi codi ers i glybiau ddechrau gosod caeau 3G, meddai’r cyn chwaraewr Cymru a sylwebydd Sgorio Malcolm Allen.

Mae’r cyn ymosodwr, a chwaraeodd dros Watford, Norwich a Newcastle United yn ei yrfa, wedi bod yn rhan o dîm Sgorio ers i’r gyfres boblogaidd ddechrau dangos gemau o’r gynghrair genedlaethol yn 2008.

Bydd Sgorio yn dychwelyd i'r sgrin ddydd Sadwrn 14 Ionawr, wrth ddangos gêm Derwyddon Cefn v Caerfyrddin yn fyw o’r Graig, gêm allweddol yn y ras am le yn y chwech uchaf ar gyfer ail hanner y tymor.

Gallwch hefyd ddilyn holl ganlyniadau’r diwrnod a chael rhagolwg i’r gêm, wrth wylio gwasanaeth ar-lein Sgorio am 4.30 ar s4c.cymru/sgorio.

Dywedodd Malcolm Allen, sy'n hanu o Ddeiniolen: "Mae caeau 3G wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r gynghrair.

"Mae’r gemau yn cael eu chwarae ar dempo uwch ac yn fwy cyffrous, ac mae’r academi yn cael defnydd allan ohonyn nhw hefyd.

"O’r blaen, roedd gemau yn cael eu gohirio, ond erbyn rŵan dyw hynny ddim yn digwydd cymaint.

“Y ddau gam dw i’n edrych ymlaen at eu gweld nesaf, ydi tîm yn cyrraedd rownd y grwpiau yn Ewrop - dw i’n meddwl fod hyn yn fater o amser wrth i’r gynghrair gryfhau – a gweld clybiau yn cyflogi rheolwyr yn llawn amser, i helpu dod â’r clwb yn agosach at y gymuned a’r academi.”

Mae Allen yn credu dylai fod fwy yn cael ei wneud i atal clybiau mawr Lloegr rhag denu chwaraewyr ifanc o Gymru.

“Efo’r strwythur academi sydd gyda’r clybiau, dw i’n gobeithio bydden ni’n cynhyrchu mwy o chwaraewyr ifanc yn y blynyddoedd nesa’.

"Swn i’n cael fy ffordd fyddai chwaraewyr academi ddim yn cael gadael Cymru nes bod nhw’n troi’n 18, oherwydd ar y funud mae clybiau o Loegr yn arwyddo nhw’n ifanc.

"Mae rhai ohonyn nhw’n cael eu rhyddhau gan y clybiau yn 18 neu 19 oed, ac mae rhai yn rhoi’r gorau i bêl-droed achos fod nhw ddim yn meddwl bod nhw’n ddigon da.

“Ond rŵan, mae gennym ni gynghrair efo meddylfryd proffesiynol, o ran hyfforddiant, ac mae gan y chwaraewyr ifanc gyfle i chwarae dros glybiau’r Uwch Gynghrair.

"Mae’n waith rhan amser ond yn ennill arian da. Fyddai hynny wedyn yn helpu codi safon y gynghrair unwaith eto.”

Nid yn unig y mae’r safon yn codi ar y meysydd, ond oddi arnynt hefyd, yn ôl Malcolm.

“Mae Sgorio wedi bod yn dangos gemau’n fyw ers 2008, ac un bob wythnos am y pum mlynedd diwethaf, ac mae hynny wedi bod yn hwb fawr.

"Mae’n codi proffil y gynghrair ac yn gwneud iddo edrych yn broffesiynol, felly mae mwy o bobl yn trin y gynghrair yn fwy o ddifri.

"Mae gennyt ti bobl fel Owain Tudur Jones, Osian Roberts a Dai Davies, sydd wedi chwarae a hyfforddi ar y lefel ryngwladol, i ddadansoddi’r gemau. ‘Da ni byth yn sefyll yn llonydd yn Sgorio, da ni wastad yn ceisio dysgu mwy a gwella.”  

Sgorio
Bob Dydd Sadwrn, 5.00, a bob Dydd Llun, 6.30             
Rhaglen canlyniadau ar-lein ar www.s4c.cymru/sgorio, bob dydd Sadwrn, 4.30
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Isdeitlau a Sylwebaeth Saesneg
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |