Pêl-droed

RSS Icon
28 Rhagfyr 2016

Abertawe yn diswyddo Bradley

Abertawe …… 1        West   Ham ……. 4

YN fuan wedi’r egwyl yn Stadiwm Liberty prynhawn dydd Llun, trodd yr awyrgylch yn wenwynig wrth i’r Elyrch ildio ail gôl a nifer sylweddol o gefnogwyr yn galw am y cyfle i ailfeddiannu “ein clwb”.

Neges hollol ddi-flewyn-ar-dafod i’r perchnogion newydd o’r UDA oedd y floedd yn taranu o gwmpas yr eisteddleoedd a rhai yn galw am weld y cadeirydd, Huw Jenkins, yn gadael a throsglwyddo’r swydd i rywun arall na fyddai am elwa’n bersonol.

Doedd hi ddim yn rhyfeddod, felly, pan gyhoeddwyd nos Fawrth bod Abertawe wedi diswyddo Bob Bradley wedi ond 85 diwrnod fel rheolwr a chronni 8 pwynt yn unig o’r 33 posib yn ystod ei deyrnasiad.

Y cwestiwn amlwg i’w ofyn nawr yw: Pam ar y ddaear y perswadiwyd Jenkins i gydsynio gyda pherchnogion newydd y mwyafrif o gyfranddaliadau’r clwb, Jason Levien a Steve Kaplan, i apwyntio’u cyd-Americanwr yn rheolwr?

Mae’n rhaid cydnabod y gwaith ardderchog a gyflawnodd Jenkins a’i gyd-gyfarwyddwyr dros y dwsin o flynyddoedd diweddar, yn codi’r clwb o waelodion y cynghreiriau i entrychion Uwch Gynghrair Lloegr a gosod esiampl i eraill wrth gadarnhau lle ymhlith mawrion y gamp.

Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’n amlwg bod yr adeiladwaith cadarn yn fregus ac mewn perygl o ddymchwel hyd yn oed ar ôl cydnabod y camsyniad o apwyntio Bradley i swydd a oedd y tu hwnt i’w allu a’i brofiad

Yn sgîl dyfodiad y ddau “fuddsoddwr” newydd, dydy clwb pêl droed Abertawe ddim wedi datblygu yn y modd y byddai’r cefnogwyr wedi gobeithio a’r teimlad yn eu plith yw bod Jenkins a’i gyd-gyfarwyddwyr wedi bradychu’r ethos fu’n rhan o’u strwythur dros y blynyddoedd diweddar.

Yn ddiamau, mae’r safonau chwarae wedi gostwng wrth werthu chwaraewyr dawnus cyn y methiant i ddenu chwaraewyr da yn eu lle i Dde Orllewin Cymru, ac mae “dull Abertawe” o chwarae wedi diflannu yn dilyn y cyfnod mwyaf llewyrchus yn eu hanes.

Ar ôl ildio 25 gôl yn eu 10 gornest ers i Bradley gymryd at yr awenau, roedd hi’n amlwg fod `na rhywbeth mawr o’i le, naill ai yng ngallu’r rheolwr i drwytho’r chwaraewyr mewn dull effeithiol o amddiffyn neu mae’r chwaraewyr eu hunain yn anobeithiol o wael.

Yn ôl yr hyn a welwyd yn erbyn West Ham, mae `na ddiffygion amlwg i’w gweld ymhlith y mwyafrif o chwaraewyr Abertawe ac roedd methiant y rheolwr i weld y diffygion ac i’w dileu yn arwain yn anochel at gredu bod cyfnod y clwb yn yr Uwch Gynghrair yn dirwyn i ben.

Oes, mae rhaid cydnabod i’r unig chwaraewr o wir safon uchel gyda’r clwb, Gylfi Sigurðsson, ddod yn agos at sgorio ddwywaith ac, oni bai am arbediad amserol gan golwr y Morthwylion, Darren Randolph, byddai cic rydd y chwaraewr o Ynys yr Iâ wedi dod â’r sgôr yn gyfartal cyn yr egwyl.

Yn anffodus, sgoriodd cyn-chwaraewr yr Elyrch, André Ayew, o fewn y chwarter awr cyntaf yn dilyn sawl methiant ar ran yr amddiffynwyr a’r cyfan y gallai Lukasz Fabianski ei wneud oedd llawio’r bêl at draed chwaraewr rhyngwladol Ghana.

Methiant llwyr fu cyfarwyddyd Bradley yn ystod yr egwyl, wrth i West Ham ddyblu eu mantais o fewn pum munud i’r ailgychwyn a llawer yn y dorf wedi eu synnu o weld Fernando Llorente a Jefferson Montero yn ymddangos ar ddechrau’r ail hanner ar ôl treulio’r 45 munud cyntaf ar fainc yr eilyddion.

Rhoddwyd y ffugenw “tinkerman” ar Claudio Ranieri pan yn rheolwr ar Chelsea rai blynyddoedd yn ôl am iddo newid y tîm mor aml; roedd hi’n ymddangos bod Bradley yn cuddio’i lygaid gyda mwgwd a sticio pin yn rhywle yn rhestr y chwaraewyr a gobeithio am y gorau wrth ddewis ei dîm.

Erbyn i Llorente sgorio gôl gysur ar 88 munud, roedd Winston Reid wedi hen ddyblu sgôr West Ham a Michail Antonio wedi ychwanegu trydedd ac, yn ôl ei arfer, sgoriodd Andy Carroll funud wedi unig gyfraniad yr Elyrch.

Roedd hi’n anochel yn dilyn y fath ganlyniad y byddai Bradley yn gadael a’r gobaith nawr yw y gall Alan Curtis a Paul Williams arwain y tîm at lwyddiant yn erbyn Bournemouth ddydd Sadwrn.

Os na ddaw triphwynt i godi calonnau’r cefnogwyr, bydd yr awyrgylch ar lan yr Afon Tawe yn fwy gwenwynig fyth, nid yn erbyn y ddau hyfforddwr, ond yn erbyn Jenkins a’i gamgymeriad yn denu’r Americanwyr i’r clwb.

Llun: Bob Bradley

Rhannu |