Pêl-droed
Gŵyl San Steffan – gemau i geisio chwyddo’r torfeydd gwan
UN peth y mae’r clybiau yn gobeithio y daw’r Nadolig iddyn nhw yw gwell giât.
Wrth edrych ar nifer y dorf ymhob gêm y tymor hwn mae’r ffigurau’n siomedig tu hwnt.
Fydd Gwyn Derfel, ysgrifennydd yr Uwch Gynghrair ddim yn hapus â hynny nag unrhyw un arall sy’n ymwneud â hi, na’r 12 clwb sydd ynddi.
Roedd y Rhyl yn arfer codi’r ffigurau i wneud iawn am lefydd llwm fel Park Hall a Brychdyn. Erbyn hyn mae’r gefnogaeth i’r Claerwynion wedi dirywio i rhyw dri chant ar y mwyaf. Ychydig flynyddoedd yn ôl roedden nhw’n cael torf well na neb oedd yn anelu am y 1,000.
Mae’r clwb arall oedd yn denu – Bangor – wedi colli cefnogwyr yn arw y tymor yma.
Roedd 600 yn arfer bod yn dorf arferol. Y Sadwrn diwethaf roedd dan 400 ac ychydig dros hynny yw hi wedi bod yn ddiweddar. Er bod y tîm yn gwneud yn well eleni i lawr yr aeth y gefnogaeth. Nosweithiau Gwener yn unig sy’n achub y ffigurau yma ac acw erbyn hyn, ac agor y caeau carped.
Cafodd torfeydd gweddol dda eu denu i’r Bala ac Aberystwyth y noson gyntaf i’r timau chwarae ar y 3G.
A fydd Gŵyl San Steffan yn rhyw fath o achubiaeth iddyn nhw ar ddiwedd blwyddyn fel yma? Darbis lleol yw’r gêmau dydd Llun, a dydd Calan, os yw’n bosib galw Caerfyrddin yn erbyn Met Caerdydd yn ‘lleol’. Hon yw’r gêm lle mae’r timau bellaf oddi wrth ei gilydd. Mae’n un sy’n addo’n dda hefyd.
Yn un peth dydyn nhw ddim wedi cyfarfod o’r blaen yn yr Uwch Gynghrair. A’r peth arall yw eu bod yn bumed a chweched yn y tabl, Met bedwar pwynt ar y blaen i’r Hen Aur.
Mi enillodd y ddau glwb y Sadwrn diwethaf, Caerfyrddin yn rhoi cweir 5-0 i’r Rhyl a Met Caerdydd yn teithio i’r Drenewydd i’w curo 0-1.
Allai neb ddymuno gwell wrth feddwl am y gêm dydd Llun, dau dîm sydd ar i fyny ac sy’n awchu i fod yn hanner uchaf y tabl pan ddaw’r gwahanu y mis nesaf. Mi ddylai Met ennill hon.
Y nhw yw Llandudno y tymor yma, y newydd-ddyfodiaid sy’n gwneud argraff.
Dyw’r ail dymor ddim wedi bod cystal i dîm Brenhines y Glannau. Colli 3-0 a wnaethon nhw ym Maes Tegid y Sadwrn diwethaf, wedi colli yn eu herbyn gartref y mis diwethaf.
Mi gawson nhw’r gorau ar Gaerfyrddin sydd un pwynt ar y blaen iddyn nhw erbyn hyn, ond yn y seithfed safle y maen nhw.
Ym Mangor y byddan nhw ddydd Llun. Yr adeg yma y llynedd mi enillson nhw yn Nantporth wedi colli yn eu cartref eu hunain.
Er mai cael a chael i guro Airbus a wnaeth Bangor gartref y Sadwrn diwethaf mi fydd Llandudno yn fwy o gowlad iddyn nhw.
Mi all tîm Alan Morgan ei gwneud hi eto ym Mangor, beth bynnag a ddigwydd yn Llandudno ar ddydd Calan.
Gan Derwyddon Cefn y mae’r gwaith mwyaf anniolchgar – mynd i Park Hall a’r rheiny wedi curo’u 19 gêm hyd yma y tymor hwn.
Cadw’r sgôr mor isel ag y gallan nhw fydd tasg tîm Huw Griffiths a gobeithio y bydd y pwdin Dolig wedi effeithio mwy ar chwaraewyr Craig Harrison nag ar fechgyn y Derwyddon.
Gêmau eraill Gŵyl San Steffan: Aberystwyth v Y Drenewydd; Airbus v Gap Cei Connah; Y Bala v Y Rhyl, i gyd am 2.30.