Pêl-droed

RSS Icon
12 Rhagfyr 2016

Noson i ddringo’r graig yn wynebu Aberystwyth

I ffwrdd â ni am chwech o gêmau yr wythnos hon a’r gyntaf yn dechrau yn Rhosymedre y nos Wener yma.

Aberystwyth sy’n ymweld â Derwyddon Cefn a hwythau heb chwarae ers pythefnos.

Roedd Bangor i fod yn Aber wythnos yn ôl ond mi gawson nhw alwad i Don Pentre a chael mwd yn lle rhew ar yr ail gynnig llwyddiannus yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.

Fydd dim cae mwdlyd yn wynebu Aberystwyth yn y Rock. Mae’r Derwyddon, fel hwythau, wedi cael cae newydd ac wedi curo Llanilltud Fawr yno yn y Cwpan y Sadwrn diwethaf. 

Fydd hi ddim yr un math o gêm yn erbyn Aber a chan fod y ddau glwb yng ngwaelodion y tabl mae ganddyn nhw rhywbeth i’w brofi.

Dyw Aber ddim wedi ennill yr un o’u tair gêm ddiwethaf.

Yn eu gêm gartref bythefnos yn ôl mi enillodd y Derwyddon yn erbyn y Drenewydd.  

Maen nhw’n medru chwarae pêl-droed da a chyflym ac mi ddylien fod yn ormod o gowdal i dîm y glannau os na fyddan nhw wedi gwella cryn dipyn. 

Mae’r ddau yn awyddus iawn i ennill rhagor o bwyntiau ac mi fyddai tri yn help mawr i unrhyw un o’r ddau dîm.

Y Sadwrn hwn y mae gweddill y gêmau.  Mae Sgorio wedi dewis yr ornest ar y brig, sydd ddim yn ornest o gwbl. Yn wir, mae’r ail glwb yn croesawu’r cyntaf yn y tabl ond mae cymaint o fwlch rhyngddyn nhw o ran pwyntiau fyddai ddim gwahaniaeth petai Gap Cei Connah yn ennill.

Does neb am daflu’r Seintiau Newydd oddi ar eu clwyd ddiogel y tymor hwn.

Er i Met Caerdydd eu cadw’n weddol dawel yn Park Hall y Sadwrn diwethaf doedd gan y myfyrwyr mo’r allwedd i roi cweir iddyn nhw.

Mi gadwon nhw hi’n gyfartal am sbel ond roedd cryfder a gallu’r Seintiau yn ormod yn y diwedd ac mi gwnaethon hi yn 3-1, Adrian Cieslewicz yn cael y drydedd yn ei gêm gynta yn ôl wedi’r anaf cas yn Llandudno.  A thîm Craig Harrison yn ennill yr undeg seithfed gêm o’r bron.

Digon prin y bydd gan y Cei yr ateb y tro hwn ‘chwaith ar eu cae eu hunain.
Roedd hi’n agos iawn yng Nghwpan y Cynghrair yno y mis diwethaf a dim ond 0-1 oedd y sgôr.  

Mi fydd yn rhaid i Andy Morrison dynnu rhywbeth arbennig iawn o’r het os yw am weld ei dîm yn curo’r Seintiau. Ond mi fyddwn yn barod am y clodfori ar Sgorio os llwyddan nhw.

Mae’r Rhyl ar daith i Gaerfyrddin a bechgyn Mark Aizlewood yn cael aros gartref am y tro cyntaf mewn tair wythnos. Caerfyrddin a enillodd yn y Belle Vue y mis diwethaf ac mae’n bosib iawn y gwnan nhw eto y Sadwrn hwn.

Er iddyn nhw golli yn Llandudno, a Chaernarfon yn y Cwpan, mi enillon nhw ym Mangor bythefnos ynghynt.

Gartref i Landudno y mae’r Bala sy’n drydydd digon solet yn y tabl.  

Am fod criw Colin Caton wedi cael gafael yn eu gêm erbyn hyn mi fydd yn bnawn anodd i Landudno gael pwyntiau. 

Os cân nhw un mi fyddan nhw’n ffodus iawn, a’r un mor lwcus i gadw’u lle yn hanner uchaf y tabl.

Gêmau eraill:  Bangor v Airbus a’r Drenewydd v Met Caerdydd.

Rhannu |