Pêl-droed

RSS Icon
09 Rhagfyr 2016

Taith arall i’r Hen Aur i brofi Llandudno gartref

Patrwm fymryn yn wahanol sydd ‘na yr wythnos hon – pedair gêm y Sadwrn hwn yn unig. Yn un o’r rheiny mae Caerfyrddin yn teithio i’r gogledd am y trydydd Sadwrn yn olynol. Wynebu Llandudno y maen nhw y tro hwn, o flaen camerau Sgorio.

Dyma ddau o glybiau Uwch Gynghrair Cymru gafodd eu taflu allan o Gwpan Cymru gan ddau glwb o gynghreiriau is. O leia’ roedd gan Mark Aizlewood a’i dîm esgus am y golled yng Nghaernarfon: dyma’r ail wythnos iddyn nhw deithio i Wynedd.

Roedd hi’n stori wahanol iawn rhwng un Sadwrn a’r llall. Mi aethon nhw’n ôl yn fuddugoliaethus am Gaerfyrddin wedi trechu Bangor 2-1 yn yr Uwch Gynghrair. Doedd dim cymaint o hwyl wrth fynd am adref y Sadwrn diwethaf wedi colli 3-1 yn yr Oval. Mae Caernarfon wedi cael hwyl yn erbyn timau’r Uwch Gynghrair o’r blaen. Mi guron nhw Fangor mewn cwpan arall y llynedd ac mi gawson nhw gêm gofiadwy yn erbyn y Seintiau Newydd yng Nghwpan Cymru ddau dymor yn ôl a dim ond colli 2-3.

Does gan Landudno ddim hanes anrhydeddus iawn yn y Cwpan ers iddyn nhw godi i’r Uwch Gynghrair. Allan ar y cynnig cyntaf yr aethon nhw y tro yma eto, yn erbyn Goytre o Sir Fynwy, a cholli 0-2. Hanes gweddol galonogol sydd iddyn nhw yn erbyn Caerfyrddin. Y tymor diwethaf – tymor cyntaf Llandudno yn yr haen uchaf – mi enillodd yr Hen Aur 1-2 ym Mharc Maesdu ond Llandudno yn ennill yn yr ail gêm yn y Waun Dew 2-4. A nhw enillodd eto yno yn gynharach y tymor hwn 0-1.

A chofio sut mae hi wedi bod gartref ar Landudno ers dechrau’r tymor mi all Caerfyrddin godi eu calonnau. Maen nhw wedi colli chwech o’u gêmau ym Mharc Maesdu, felly mae’n lle addawol i Mark Aizlewood. A fyddan nhw’n medru gwneud y Bangor arnyn nhw, neu ai diwrnod Caernarfon fydd hi ar eu trydedd daith i’r gogledd mewn pythefnos?

Draw i gyfeiriad y dwyrain mi fydd Airbus yn croesawu’r Bala. Mi gollodd bechgyn Brychdyn 4-1 yn erbyn Pen-y-bont yng Nghwpan Cymru, tîm Rhys Griffiths, y dyn y mae dilynwyr UGCymru yn gyfarwydd iawn â’i enw. Mi wnaeth y Bala yn llawer gwell yn erbyn Caldicot – ennill 6-1. Dyna’r gwahaniaeth rhwng clwb sy’n drydydd ac un sy’n olaf yn y tabl.

Gan gofio ei bod yn ddydd o brysur bwyso ar reolwr Airbus, Andy Thomas mae’n amhosib credu eu bod am ennill yn erbyn y Bala na hyd yn oed gael gêm gyfartal.

Mae diddordeb arbennig yn y gêm sy’n digwydd ger Croesoswallt. Yno y Sadwrn hwn y mae tîm llawn amser arall – fwy neu lai, am eu bod yn fyfyrwyr. Os oes unrhyw dîm sydd wedi datblygu y tymor hwn, Met Caerdydd yw hwnnw. Mi ddylai hon fod yn gêm werth chweil gyda’r gobaith am unwaith y gall hi fod yn ddiwrnod caled i’r Seintiau Newydd.

A oes gobaith iddyn nhw arafu eu cam a’u rhwystro rhag ennill yr undeg seithfed gêm o’r bron heb golli? Braf fyddai credu fod meistr ar feistr Mostyn!

Y Drenewydd sy’n ymweld â’r Rhyl, y clwb fydd yn chwarae yng Nghaernarfon ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru. Dim Penrhyncoch yw’r Drenewydd ac mi fyddan yn rhoi llawer gwell gêm iddyn nhw yn y Belle Vue y Sadwrn hwn.

Cafodd gêm Aberystwyth yn erbyn Bangor ei gohirio am fod Bangor am fynd i Don Pentre i weld a yw’r cae wedi dadmer.


 

Rhannu |