Pêl-droed

RSS Icon
02 Rhagfyr 2016

Y Seintiau’n chwalu record ac yn mynd eto am Gwpan Cymru

Y rhyfeddod pennaf oedd fod y gêm nos Fawrth yn y Rhyl wedi ei gohirio, oherwydd y rhew. Pwy fyddai’n credu fod y tywydd oer yn effeithio cymaint ar y glannau ond dyna oedd y penderfyniad ganol pnawn cyn i’r Seintiau Newydd gyrraedd yno.

Chawson ni ddim gweld sut y byddai’r Claerwynion yn dygymod â thrên y Seintiau sydd wedi teithio drwy holl gêmau’r tymor heb golli’r un. Mi lwyddon nhw i dorri record Bangor wythnos yn ôl pan oedden nhw gartref i Airbus. Un deg chwech o gemau a neb wedi eu curo, dyna’r record newydd. Mi allai fod wedi bod yn un deg seithfed yr wythnos hon, ond mi gân nhw eu cyfle eto.

A hwythau ar waelod y tabl wnaeth bechgyn Brychdyn ddim cynddrwg â’r Rhyl yn gynharach yn y tymor. Dim ond colli o 4-0 a wnaethon nhw. Mae pawb yn cofio’r sgôr pan aeth y Rhyl yno – 10-0. Mae bechgyn Niall McGuinness wedi dod dros y gweir honno ac wedi cael buddugoliaethau cofiadwy ar ôl hynny ac yn wythfed yn y tabl.

Roedd llygaid amryw byd ar Fangor y Sadwrn diwethaf. Sut y bydden nhw’n gwneud wedi colli Andy Legg yn erbyn yr Hen Aur? Doedd hi ddim yn wylio cyffyrddus i’r rheolwr newydd, Ian Dawes. Cael cweir a wnaeth ei dîm, ddim am y tro cyntaf yn erbyn Caerfyrddin rhaid dweud, ond roedd y rheolwr yn siomedig eu bod wedi gwneud cyn waethed. Dim siap yn y cefn nac yn y blaen a dylai Caerfyrddin fod wedi sgorio rhagor o goliau.

Trydedd rownd Cwpan Cymru JD sy’n wynebu clybiau’r Uwch Gynghrair y Sadwrn hwn. Yn y rownd yma y maen nhw’n ymuno yn y cwpan a dau ohonyn nhw yn wynebu’i gilydd. Yn y Drenewydd mae’r deiliaid yn chwarae, popeth yn mynd o blaid y Seintiau y tymor yma, hyd yn oed y teithio yng Nghwpan Cymru.

Er bod Gap Cei Connah wedi baglu ym Mharc Latham bythefnos yn ôl mae’n amheus iawn a fydd y Seintiau yn disgyn i’r un fagl. Cael aros gartref y mae’r Cei a Goytre Utd sy’n gorfod teithio’n i bellafoedd Sir y Fflint o Aberafan.

Gartref hefyd y mae Llandudno, Y Bala, Derwyddon Cefn, Y Rhyl, Met Caerdydd ac Aberystwyth. Goytre arall sy’n teithio i Landudno – Goytre FC o Penperlleni, Sir Fynwy. Un o glybiau eraill y sir honno, Caldicot fydd yn y Bala; Llanilltyd Faerdref sydd yn ymweld â Rhostyllen i wynebu Derwyddon Cefn; i Gaerdydd mae Porthmadog yn mynd er mwyn chwarae yn erbyn Met Caerdydd. Cael diwrnod yn y Rhyl y mae Penrhyncoch a Treffynnon yn Aberystwyth. Mi fydd y bysiau’n pasio’i gilydd ar y ffordd!

Mae’r gweddill oddi cartref – Caerfyrddin yn cael taith arall i Wynedd o fewn wythnos, i herio Caernarfon. Taith ymhell i’r de sydd gan Airbus i weld sut y gallan nhw ddygymond â Phenybont (Pen-y-bont ar Ogwr) a dydd Sul yn y Rhondda y bydd Bangor yn ymgodymu â Ton Pentre. Mae hon i’w gweld ‘yn fyw’ ar Sgorio.

Y gobaith oedd y byddai Andy Legg yn wynebu tîm ei gyn-gapten Lee Phillips pan oedd yn rheoli Llanelli adeg yr enillodd Gwpan Cymru. Ond bydd yn rhaid i’r sylwebwyr ddod o hyd i rhyw gysylltiad arall i sôn amdano erbyn y Sul.


 

Rhannu |