Pêl-droed

RSS Icon
23 Tachwedd 2016

Cic allan i’r Cymro Andy Legg a throi am y gororau i gael olynydd

Chafodd Andy Legg mo’r sac am golli un gêm yn drwm i fyfyrwyr Caerdydd.  Roedd amryw yn meddwl fod rhywbeth ar y cardiau beth bynnag am nad oedd y rheolwr wedi arwyddo cytundeb. Erbyn hyn mae’n bosib iawn fod perchnogion Bangor wedi penodi rhywun yn ei le.

Fydd hwnnw ddim wedi chwarae i Gymru yn ôl pob tebyg ac o ochrau’r gororau y daw.

Dibynnu ar y pen hwnnw i’r byd y mae clwb Bangor bellach a’u golygon ar weld y Dinasyddion yn codi yn y byd a throi’n Seintiau Newydd o glwb.

Mae’n drueni i’r Uwch Gynghrair fod Andy Legg wedi gorfod mynd. O leia’ roedd yn Gymro ac yn gwybod beth oedd Uwch Gynghrair Cymru oherwydd ei brofiad helaeth gyda Llanelli. O ymateb y gwefannau cymdeithasol i’r symudiad mae’r perchnogion wedi pechu yn eu herbyn wrth gael gwared â’r dyn oedd wedi rhoi ysbryd newydd yn y tîm a’r cefnogwyr – tan y Sadwrn diwethaf.

Aeth rhywbeth mawr o’i le.  Efallai fod Andy Legg wedi synhwyro fod y newydd am dorri yr wythnos hon a bod hynny wedi treiddio i’r chwaraewyr. Ond roedd yn anarferol iddyn nhw golli cyn drymed o dano.  Caerfyrddin sydd ym Mangor y Sadwrn hwn.  Mae bechgyn y Waun Dew wedi cael hwyl arni ym Mangor cyn hyn ac efallai y bydd tîm heb reolwr yn fantais iddyn nhw eto.

Y nos Wener yma y mae pedair o’r gêmau. Mae Aberystwyth yn medru chwarae gartref er gwaethaf y difod a achosodd y corwynt.  Y Bala sy’n ymweld yn syth ar ôl eu buddugoliaeth yn Llandudno sydd wedi eu gosod yn drydydd yn y tabl.  Roedd y ffaith i Bangor golli yn y brifddinas yr un pryd yn help iddyn nhw adfer eu hen safle am y tro cyntaf y tymor hwn.

Oherwydd i gêm Aberystwyth gael ei gohirio wythnos yn ôl maen nhw wedi cael ychydig o orffwys.  A fydd hynny’n ddigon iddyn nhw wneud iawn am yr hyn a ddigwyddodd ym Maes Tegid bythefnos yn ôl?  Mae’n amheus!  Gan fod y Bala wedi dod o hyd i’r gôl erbyn hyn mae hi am fod yn her i Aber ddygymod â nhw.  Os na fydd lwc o blaid tîm Matthew Bishop ychydig iawn o obaith sydd gan glwb Coedlan y Parc i ennill hon.

Derwyddon Cefn oedd y clwb arall a gafodd orffwys nos Wener diwethaf.  Gartref y maen nhw y nos Wener yma yn erbyn y Drenewydd, a wnaeth eu marc y Sadwrn diwethaf yn curo Gap Cei Connah a chodi o waelod y tabl.  Dyw’r Drenewydd ddim yn dîm gwael ac roedden nhw’n haeddu gwell lwc.

Mae hi’n hwyr yn y tymor erbyn hyn i fedru codi’n uchel yn y tabl ond efallai fod y Sadwrn diwethaf wedi rhoi hwb iddyn nhw anelu’n uwch.  Mi fydd y frwydr yn dechrau yn Rhosymedre ac mae tîm Chris Hughes yn ddigon da i guro Derwyddon Cefn.
Airbus sydd wedi cyrraedd gwaelod y tabl a’r nos Wener yma maen nhw’n gorfod wynebu’r ceiliogod ar y brig. Mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd record Bangor o ennill pymtheg gêm mewn tymor heb golli.  Pwy fyddai’n amau y byddan nhw’n ei gwneud hi yn un ar bymtheg yr wythnos hon?  Druan o dîm Brychdyn.  Mae’r holl newid sydd wedi bod yno yn dangos ei ôl a does ganddyn nhw ddim gobaith o gyrraedd Ewrop y tymor hwn.

Y Rhyl a roddodd y farwol iddyn nhw wythnos yn ôl yng ngolwg yr awyrennau.  Fydd hi ddim mor hawdd iddyn nhw yn erbyn Gap Cei Connah, er eu bod yn chwarae gartref. Petaen nhw’n cael gêm gyfartal mi fyddai’n bwynt gwerthfawr i’r Claerwynion sydd yn yr wythfed safle gyda’r un nifer o bwyntiau â Chaerfyrddin.

Llandudno sydd yn ymweld â Met Caerdydd y tro hwn a gêm dydd Sul yw hon. A fydd tîm Alan Morgan yn medru dod yn ôl heb golli yn erbyn coesau ifanc y myfyrwyr?

?  Ennill o un gôl yn erbyn Gap Cei Connah a wnaeth y Seintiau yng Nghwpan y Gynghrair. Mi fyddan nhw’n chwarae’r Barri yn y ffeinal, enw o orffennol UGC.

Rhannu |