Pêl-droed
Albanwyr yn cael blas o ddawn y tîm o Groesoswallt
Does dim posibl atal y Seintiau Newydd y tymor hwn. Maen nhw ar ben tabl yr Uwch Gynghrair ers dechrau’r tymor ac mewn tri chwpan o hyd, un ohonyn nhw yn yr Alban. Mi aethon nhw i Livingston heb fod yn bell o Gaeredin dydd Sul i chwarae yng nghwpan Irn-Bru a rhoi gwers i’r clwb Albanaidd sut i sgorio tair gôl.
A dyma’r clwb o Groesoswallt yn rownd gyn-derfynol y cwpan hwnnw yn erbyn St Mirren. Mi fydd yr Albanwyr yn gwybod am eu gallu i ennill ac am wneud yn siŵr nad oes neb o’r tu allan i’r wlad honno yn bachu eu cwpan.
Pan ddaethon nhw’n ôl i Gymru i chwarae yn erbyn Gap Cei Connah yng nghwpan y Gynghrair nos Fawrth doedden nhw ddim yn gwneud cystal. Ar yr egwyl roedden nhw’n colli 2-1. Ond mi ddaethon nhw’n ôl a phan oedd yn 2-2 bu’n rhaid rhoi’r gorau iddi oherwydd niwl!
Maen nhw allan eto y nos Wener yma ac yn teithio i Gaerfyrddin. Os bu siawns erioed i glwb yr Hen Aur roi stop arnyn nhw dyma’u cyfle. Mi fydd yr Alban dydd Sul a gêm nos Fawrth wedi dweud arnyn nhw ac mi all Caerfyrddin fanteisio ar hynny.
Yn anffodus wnaethon nhw ddim yn erbyn Derwyddon Cefn dydd Sul. Roedd tîm Huw Griffiths heb eu golwr arferol ac wedi tynnu chwaraewr canol cae i’r gôl. Ond mi gawson nhw gêm gyfartal 2-2 yn y Waun Dew sy’n dangos diffygion Caerfyrddin a rhywfaint o ruddin y Derwyddon.
Y neges yw fod yn rhaid i Mark Aizlewood a’i dîm fod ar eu gorau os ydyn nhw am roi stop ar Craig Harrison a’i fechgyn rhag ennill eu pymthegfed gêm yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Oddi cartref yn Aberystwyth y mae’r Derwyddon y nos Wener yma. Fel y byddai rhywun wedi disgwyl mi gafodd Aber noson ddychrynllyd yn y Bala wythnos yn ôl gan ildio gôl gynnar a aeth yn bedair cyn y diwedd, heb ymateb ond cerdyn coch i Ricky Watts.
Maen nhw’n well ar eu carped eu hunain. Mi allan fod yn gadarnach yn erbyn y Derwyddon a mynd â hi, ond fydd tîm Huw Griffiths ddim yn rhoi’r gorau i gael pwynt neu dri ohoni ‘chwaith.
Am unwaith mae gweddill y gêmau ar y Sadwrn y tro yma. Mae Gap Cei Connah a Bangor, sy’n ail a thrydydd yn y tabl, oddi cartref ac felly’r Bala sy’n gwasgu ar eu sodlau. Yn y Drenewydd y mae tîm Andy Morrison yn fuan wedi eu gêm yn Llandudno dydd Sul pan enillon nhw 0-2. Bangor oedd yn y Drenewydd dydd Sul ac wedi mynd ar ei hôl hi’n gynnar mi gawson nhw fuddugoliaeth 1-2.
Fydd hi ddim mor hawdd i fechgyn Andy Legg yng Nghaerdydd yn erbyn myfyrwyr y Met. Mae’r bechgyn ifanc wedi cryfhau wrth i’r tymor fynd yn ei flaen ac maen nhw yn y pumed safle.
Diwrnod y gogledd ddwyrain yw hi ym Mrychdyn wrth i’r Rhyl ymweld. Mi fydd y Claerwynion yn credu fod ganddyn nhw obaith ennill hon. Wedi’r adrefnu yn Airbus maen nhw un safle o waelod y tabl ac yn chwilio am wyrth i’w harwain yn ôl i hanner cyntaf y tabl.