Pêl-droed
Maes Tegid am fod yn dalcen caled i fechgyn Aberystwyth
Ers iddyn nhw fod yn ôl ym Maes Tegid ddiwedd Medi dyw’r Bala ddim wedi colli gêm ar eu cae newydd. Ychydig fyddai’n dweud y bydd eu record yn cael ei thorri y nos Wener yma wrth i Aberystwyth ymweld. Iawn, mae hi wedi bod yn agos ddwywaith ar y carped yn y Bala ond dydyn nhw ddim wedi colli’r holl bwyntiau.
Ar y llaw arall mi gollodd Aber y Sadwrn diwethaf am y tro cyntaf ar eu cae newydd nhw yn erbyn Gap Cei Connah. Mi gawson nhw ddechrau rhyfeddol o dda drwy Chris Jones yn sgorio yn y tri munud cyntaf. Ond roedd y Cei yn pwyso gormod yn yr ail hanner a bu raid i dîm Matthew Bishop ildio tair.
Wrth edrych ar gêm yr wythnos hon yn oeraidd o’r tu allan mae’n rhaid dod i’r casgliad mai dringo mynydd go serth y bydd Aberystwyth ym Maes Tegid. Mae bechgyn Colin Caton yn ôl i gyd erbyn hyn ac maen nhw wedi medru fforddio rhoi benthyg Ryan Edwards i Airbus. Gwir fod myfyrwyr Caerdydd wedi rhoi gêm digon caled iddyn nhw y Sadwrn diwethaf ac mai dim ond o un gôl yr enillson nhw’r gêm mi ddylai fod yn haws yn erbyn Aber. Mi sgorian nhw fwy nag un gôl y tro hwn.
Ddydd Sul y mae gweddill gêmau’r gynghrair, ac eithrio’r Seintiau a’r Rhyl sy’n cael gorffwys. Gartref y mae Met Caerdydd i Airbus, un clwb wedi gwella’n dda yn ystod y tymor a’r llall wedi gwaethygu ac yn isaf ond un yn y tabl. Mi gollson nhw gartref i’r Drenewydd y Sadwrn diwethaf.
Prin y bydd Met yn colli’r gêm hon gan eu bod wedi llwyddo i fod yn feistri’n ddiweddar yn eu cae eu hunain. Oherwydd hynny maen nhw’n chweched yn y tabl oedd yn annhebygol iawn ar un adeg. Ond gan mai myfyrwyr ydyn nhw gyda hyfforddwr o safon yn Dr Christian Edwards maen nhw wedi dysgu sut i ddygymod â thimau cydnabyddedig Uwch Gynghrair Cymru.
Caerfyrddin sydd un lle yn is na nhw yn y tabl wedi iddyn nhw drechu’r Rhyl 0-1 y Sadwrn diwethaf. Gartref i Derwyddon Cefn y mae tîm Mark Aizlewood y Sul hwn. Wedi gweld canlyniadau cartref tîm hynaf Cymru yn y pythefnos diwethaf mi fydd yr Hen Aur yn weddol ffyddiog y gallan nhw ennill hon. Er mi wnaeth y Derwyddon hefyd guro’r Rhyl ym mis Medi.
Y diwethaf i drechu tîm Huw Griffiths yw Llandudno. Mi wnaethon nhw’n well na Bangor yn Rhosymedre y nos Wener cynt a’i gwneud yn 1-3 o’i gymharu a 2-3. Gap Cei Connah sydd yn Llandudno ddydd Sul. Gêm gyfartal oedd hi yn y Cei yn gynharach yn y tymor, 1-1. Tybed a allan nhw guro tim Andy Morrison y tro hwn? Fydd hi ddim yn hawdd iddyn nhw gan nad yw eu gêm yn llifo fel yr oedd hi y tymor diwethaf.
Wedi methu atal y Seintiau Newydd nos Sadwrn diwethaf, yn y Drenewydd y mae Bangor. Mi ddylien nhw ddod oddi yno gyda thri phwynt. Does dim amheuaeth eu bod yn ddigon abl i wneud hynny gan eu bod wedi cadw’r Seintiau’n dawel am gyfnodau o’r gêm. Petae ganddyn nhw flaenwr a throed gryfach mi allen nhw fod wedi ennill hon.