Pêl-droed

RSS Icon
04 Tachwedd 2016

Llandudno yn gobeithio y daw gôl neu ddwy yn y Graig

Un gêm heno, nos Wener, a phump ar y Sadwrn yw’r drefn yr wythnos hon. A Derwyddon Cefn yn chwarae eto yr wythnos hon ar y nos Wener. Llandudno sydd yn Rhosymedre y tro hwn, y tîm sy’n methu sgorio goliau ar hyn o bryd.

Ar y llaw arall mae’r Derwyddon wedi sgorio saith yn eu dwy gêm ddiwethaf a sut mae tîm Alan Morgan am eu rhwystro y tro hwn? Roedd Bangor yn methu wythnos yn ôl er iddyn nhw guro’r gêm gyda gôl yn y munud olaf. Bechgyn Huw Griffiths a sgoriodd gyntaf a’r Dinasyddion yn taro’n ôl a mynd ar y blaen nes i’r Derwyddon ei gwneud yn gyfartal. Mi fyddai rhai wedi dweud eu bod yn anlwcus i golli.

Dyw Llandudno ddim wedi sgorio ers 1 Hydref. Yn eu dwy gêm ddiwethaf maen nhw wedi cael gêmau cyfartal di-sgôr. Cyn hynny mi gollson nhw 5-0 yn erbyn y pencampwyr. Y tro diwethaf iddyn nhw gael y bêl yn y rhwyd mi sgorion nhw dair yn erbyn Airbus a’r gêm honno ar Sgorio.

Mi allen nhw weld bwlch yn amddiffyn y Derwyddon ond os llwyddan nhw mae’n bosib y bydd gan griw y Rock ateb iddyn nhw yn y pen arall.

Gêm Sgorio yr wythnos hon yw honno rhwng Bangor a’r Seintiau Newydd. A oes raid gofyn pwy fydd yn ennill hon? Wedi chwarae 16 o gêmau i gyd y tymor hwn dydyn nhw ddim wedi colli o gwbl ac wedi ennill eu 13 gêm yn yr Uwch Gynghrair. Mae’n amhosibl eu dal.

Mi gadwodd Bangor nhw i 0-2 yng Nghwpan Nathaniel yr wythnos diwethaf a fyddai’r Bangoriad ffyddlonaf ddim yn credu y gall tîm Andy Legg eu curo y tro hwn ‘chwaith. Cadw’r sgôr yn isel fydd eu nod y tro yma eto a dangos ei bod yn bosibl sgorio yn eu herbyn.

Aberystwyth oedd ar Sgorio nos Sadwrn diwethaf ac mi fu Airbus yn ddigon hael iddyn nhw gael tair yn eu herbyn. Clwb arall o Sir y Fflint sy’n ymweld â Choedlan y Parc eto y Sadwrn hwn. Mi fydd gan Aber fwy o waith amddiffyn yn erbyn tîm Andy Morrison ac mi fydd yn anoddach iddyn nhw sgorio. Mi brofodd y Seintiau hynny y Sul diwethaf ac roedd hi ymhell yn yr ail hanner cyn iddyn nhw fedru cael agoriad heibio Gap Cei Connah i ennill yn weddol rhwydd o 3-0 yn y diwedd.

Cau llygaid a gobeithio’r gorau yw’r unig beth y gall Matthew Bishop a’i dîm ei wneud. Ai hwn fydd y tro cyntaf iddyn nhw golli ar eu cae newydd?

Mi fydd yn ddydd o brysur bwyso ar y Bala hefyd. Met Caerdydd sydd ym Maes Tegid. Hwn yw’r tîm sydd wedi sgorio naw gôl yn eu dwy gêm gartref ddiwethaf ac wedi cadw Gap Cei Connah i 0-0 yn y Cei. Oedd, roedden nhw’n araf yn dechrau’r tymor ond maen nhw wedi cryfhau’n arw erbyn hyn.

Fydd hi ddim yn gêm hawdd i’r Bala ac mi fydd yn rhaid i rai o ‘hen ddynion’ Colin Caton fod ar eu gorau yn erbyn y llafnau ifanc os ydyn nhw am gadw i’r pedwerydd safle yn y tabl.

Gêmau eraill: Airbus v Y Drenewydd a’r Rhyl yn erbyn Caerfyrddin.

Rhannu |