Pêl-droed

RSS Icon
26 Hydref 2016

Bangor yn cael cyfle arall i guro Derwyddon Cefn

Y ddau dîm i sgorio’r nifer mwyaf o goliau wythnos yn ôl sy’n cystadlu y nos Wener yma.

Mi welwyd wyth gôl yn y Rock yn Rhosymedre, eu hanner nhw gan y tîm lleol a’r gweddill gan y Bala.

Roedd hwn yn dipyn o newid i Derwyddon Cefn wedi iddyn nhw golli’n drwm 5-0 yng Nghaerdydd yr wythnos cynt.

Doedd y Bala ddim am ei gwneud yn hawdd iddyn nhw drwy gael gêm gyfartal arall i ddilyn y 3-3 yn erbyn Airbus ym Maes Tegid.

Mi allai fod wedi bod yn gêm debyg ym Mangor y Sadwrn diwethaf ond wedi dod yn ôl i 2-2 yn erbyn y Rhyl mi sgoriodd y Dinasyddion un arall o ben Henry Jones, a gafodd wobr chwaraewyr y gêm gan Malcolm Allen am ei waith gydol y gêm.

Roedd hi’n dipyn o gêm rhwng yr hen elynion.

Efallai nad oes cymaint o draddodiad yn hanes y chwarae rhwng y Derwyddon a Bangor ond mi fydd hon eto’n gêm galed i’r ddau glwb.

Mi gafodd y Gleision y gorau ar dîm Huw Griffiths yng Nghwpan Nathaniel bythefnos yn ôl ac mi fydd y ddau dîm yn cofio hynny wrth fynd am y pwyntiau.

Mi gafodd Bangor gêm arall yn y cwpan hwnnw nos Fawrth yn erbyn y Seintiau Newydd ac mi all hynny effeithio ar eu perfformiad y nos Wener yma.

Gêmau cyfartal oedd pedair o’r chwe gêm yr wythnos diwethaf ac mae gêm Sgorio y tro hwn yn cynnwys dau o’r timau wnaeth fethu ennill.

 Aberystwyth sy’n croesawu’r camerau i erchwyn y carped newydd ac Airbus sy’n ymweld.

Doedd ‘na ddim gôl ar gae Coedlan y Parc ddydd Sul pan oedd Llandudno yn chwarae.

Mi gafodd Airbus gôl ar eu cae eu hunain yn erbyn Caerfyrddin ond mi sgoriodd yr Hen Aur hefyd i’w gwneud yn 1-1.

Mi enillodd Aber ar eu hymweliad â Brychdyn ddechrau’r tymor ond doedden nhw ddim wedi eu curo yn eu dwy gêm y llynedd.

Mae’r ddau glwb wedi newid tipyn ar eu chwaraewyr ers hynny ac mae’n anodd rhagweld a fydd un o’r ddau dîm yn rhagori y tro hwn.

Digon posibl mai gêm gyfartal arall fydd hi.

Gêm arall yfory yw honno yn y Waun Dew pan fydd y Bala ar grwydr. Dyma dimau eraill a fu mewn gêmau cyfartal wythnos yn ôl.

Doedd yr un gôl yn y gêm ddiwethaf iddyn nhw ei chwarae yn erbyn ei gilydd.

Gyda’r Bala wedi sgorio saith yn eu dwy gêm ddiwethaf mae’n fwy na phosibl y gallan nhw sgorio rhagor yng Nghaerfyrddin.

Ond wnan nhw ennill yw’r cwestiwn?

Trydedd gêm y Sadwrn hwn yw honno yn y Drenewydd.

Llandudno yw’r ymwelwyr, yn chwilio am gôl yr wythnos hon.

Mae’n anodd dygymod a thîm Chris Hughes ar waelod y tabl ond yno y maen nhw, er iddyn nhw a bron â’i gwneud hi yn Park Hall y Sul diwethaf.

Mi wnaethon nhw’n well na’r timau eraill sydd wedi bod yn chwarae yn erbyn y Seintiau y tymor hwn, eu dal tan y diwedd un cyn iddyn nhw sgorio.

Wedi perfformio mor dda pwy all ragweld yr hyn sydd am ddigwydd y Sadwrn hwn?

A fydd Llandudno yn ormod iddyn nhw ar eu cae eu hunain?

Dwy gêm sydd dydd Sul: Met Caerdydd v Y Rhyl a’r Seintiau Newydd yn erbyn Gap Cei Connah.

Rhannu |