Pêl-droed

RSS Icon
21 Hydref 2016
Gan GLYN GRIFFITHS

Sefydlu cynghrair newydd?

TRA mae’r Bala a’r Seintiau Newydd wedi gweld eu hunain yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth newydd eleni sy’n cyfuno timau o Ogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, mae yna drafodaeth yn cael ei chynnal rhwng timau eraill o’r Alban, a Denmarc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Norwy a Sweden ynglŷn â sefydlu cynghrair newydd Ewropeaid a fyddai yn gweld y timau yn torri i ffwrdd oddi wrth eu cynghreiriau domestig. 

Yr enw sydd yn cael ei gynnig ar y fenter yma ydi’r Gynghrair Iwerydd (Atlantic League).

Mae hyn yn cael ei ystyried oherwydd newidiadau sydd ar droed o fewn UEFA i gyfyngu aelodaeth o Gynghrair Pencampwyr Ewrop, i dimau mwyaf y cyfandir, ac yn ôl Bayern Munich, i wahodd timau i’r gystadleuaeth yn hytrach nac ar sail cyflawniadau o fewn eu cynghreiriau domestig fel sy’n bod ar hyn o bryd.

Mae llawer o’r timau mwyaf yn gweld Cynghrair y Pencampwyr fel modd i greu mwy a mwy o elw iddynt eu hunain, a tydi gweld timau, sydd yn eu barn hwy, yn ddim mwy na thimau israddol, yn gwneud dim lles i’w hymdrech i greu elw iddynt eu hunain.

Felly, fel ymateb i ryw sefyllfa nad sydd yn rhoi fawr o groeso i dimau o wledydd fel yr Alban, Gwlad Belg neu’r Iseldiroedd, y syniad ydi cynnal cynghrair eu hunain sef Cynghrair yr Iwerydd a fyddai yn rhoi gwell sylw, ac yn sgil hyn creu elw iddynt eu hunain.

Mae’n deg dweud hefyd fod y gwledydd yma, fel yng Nghymru, yn tueddu o weld yr un tîm yn dominyddu ar eraill ac yn ennill eu cynghreiriau cenedlaethol yn rheolaidd.

O ganlyniad, mae’r timau sydd â’u llygaid ar y datblygiad yma yn credu y gall cystadleuaeth o’r fath godi safon a chynnig mwy o gysondeb ar draws y gynghrair newydd nag a geir o fewn eu cynghreiriau cenedlaethol o fewn eu gwledydd  ar hyn o bryd.

Hwyrach ei bod yn rhy fuan i feddwl am gael tîm o Gymru o fewn y drefn yma, a does dim amheuaeth mai’r Seintiau Newydd fyddai hwnnw petai’r cyfle yn codi eleni.

Ond tybed, yn y dyfodol y byddai cynnig arall yn codi i sefydlu rhyw fath o drydydd cynghrair, siawns na fyddai hyn yn dod â thîm o Gymru i ystyriaeth!

 

Rhannu |