Pêl-droed

RSS Icon
21 Hydref 2016

Craig arall i’r Derwyddon ei dringo yn erbyn y Bala

Wedi cael eu sgubo o’r neilltu yng Nghaerdydd mae Derwyddon Cefn yn wynebu tasg yr un mor galed y nos Wener yma. Roedd yn gwrbins go iawn yn erbyn Met Caerdydd y Sul diwethaf a thîm Huw Griffiths yn colli 5-0.

Mae clwb hynaf Cymru, fel maen nhw’n hoffi cael eu galw, yn chwarae gartref am y tro cyntaf y tymor yma yn Uwch Gynghrair Cymru.  Mi wnaethon nhw fedyddio eu cae 3G yr wythnos ddiwethaf wrth golli yn erbyn Bangor yng Nghwpan Nathaniel, cwpan y gynghrair.  A thîm o gae newydd Maes Tegid sydd yn eu herbyn yn yr ail gêm ar y carped.

Mi gododd y Bala yn eu holau dydd Sul wedi bod 1-3 ar ei hôl hi ar un adeg yn erbyn Airbus. Roedd hi’n edrych ychydig yn fwy parchus ar y diwedd pan wnaethon nhw hi yn 3-3 yn y munud olaf.  Doedd dim gôl o gwbl i’r Derwyddon yng Nghaerdydd a’r myfyrwyr yn eu helfen yn sgorio pump.

Sut y bydd hi arnyn nhw yn erbyn y Bala? Mi fydd yn dipyn o graig i’w dringo yn Rhodymedre os na fydd y Derwyddon wedi cael ailwynt o rywle ers y Sul.

Mae Airbus yn croesawu Caerfyrddin y Sadwrn hwn.  Mi fyddan yn gwybod fod yr Hen Aur wedi cadw’r Drenewydd yn solet ar waelod y tabl y Sadwrn diwethaf wrth ennill 3-1.

Dyw’r awyrenwyr ddim mor gadarn gartref: maen nhw wedi colli tair gêm ar eu tomen eu hunain y tymor hwn. Mae’r maes yn llydan i Gaerfyrddin fod y pedwerydd i fanteisio ar eu haelioni. Yn barod mae tîm Mark Aizlewood wedi eu curo gartref ar ddechrau’r tymor.

Gêm y diwrnod yw honno fydd i’w gweld ar Sgorio – Bangor yn erbyn yr hen elyn, y Rhyl. Mi lwyddodd y Claerwynion i guro Bangor yn y Belle Vue y mis diwethaf pan gafodd y Rhyl adfywiad ysbryd. Peidio â gadael i’r Dinasyddion wneud yr un peth ag Aberystwyth wythnos yn ôl fydd tasg Neil McGuinness a’i dîm ar eu hymweliad â Nantporth a cholli am y pedwerydd tro yn olynol.

Mi allai Bangor gael pwynt neu dri yn ôl y tro yma. Yn fwy na hynny, gobeithio y bydd graen ar y gêm er mwyn y gynulleidfa deledu.

Yn Aberystwyth mi brofodd agor y cae newydd yn llwyddiant i’r clwb o ran ennill ac o safbwynt y dorf. Mi gafodd 1,168, y dorf fwyaf ers pymtheng mlynedd, eu denu i Goedlan y Parc i weld y Rhyl yn colli 4-0.  A golwr Aber, Chris Mullock yn llwyddo i sgorio gôl o gic rydd 70 llath i ffwrdd.  Hon fydd gôl y tymor, meddai rhai. O leiaf, mae Aber wedi dangos eu bod nhw’n medru cael eu traed danyn ar y carped newydd.

Dynion carped Llandudno sydd arno ddydd Sul. Fydd hi ddim yn gêm mor hawdd y tro hwn gan fod Llandudno yn dipyn o giamstars oddi cartref, os nad ydyn nhw’n digwydd ymweld â Park Hall. Oedd, roedd y 5-0 yn eitha cweir nos Sadwrn diwethaf a’r Seintiau yn cael sgôr fawr arall ac yn edrych yn amhosibl eu tynnu oddi ar eu pedastl ar ben y tabl cyn diwedd y tymor.
Gêmau eraill y Sul: Gap Cei Connah v Met Caerdydd, a’r Seintiau yn erbyn y Drenewydd. Y ddwy am 3.00 pm.

Rhannu |