Pêl-droed

RSS Icon
14 Hydref 2016

Y Rhyl yw prawf cyntaf Aberystwyth ar eu cae newydd

DOD yn ôl i’r patrwm arferol y mae pethau yr wythnos hon.  Mae’r gêm gyntaf heno rhwng Aberystwyth a’r Rhyl ac mae hi’n noson nodedig yn hanes clwb Coedlan y Parc. Hon yw’r gêm sy’n dynodi agoriad swyddogol cae 3G Aber a’u bod yn chwarae’r gêm gartref gyntaf ar eu tomen eu hunain y tymor hwn.

Wrth fod gartref oddi cartref mae hi wedi bod yn dymor chwithig i’r Aberwyr. Yn eu dwy gêm ddiwethaf ym Mharc Latham yn y Drenewydd maen nhw wedi colli’n rhacs, 0-3 yn erbyn Caerfyrddin ac 1-5 wrth i’r Seintiau Newydd eu chwalu’n ddarnau.

Yr unig lygedyn o obaith iddyn nhw yw eu bod wedi mynd oddi cartref dair gwaith a churo, yn drwm iawn yn erbyn Caerfyrddin 0-5.  Mae ‘na dîm yna yn rhywle sy’n medru chwarae dan eu rheolwr newydd, Matthew Bishop ond prin y maen nhw’n dod i’r wyneb i wneud hynny.

Mi fydd yn rhaid iddyn nhw lwyddo ar eu carped newydd yn erbyn y Rhyl.  Maen nhw’n gwybod fod y Claerwynion wedi cael bywyd newydd dan eu rheolwr Neil McGuinness ac wedi codi o farw’n fyw fel petai wedi’r golled erchyll 10-0 yn erbyn y Seintiau Newydd. Wnaethon nhw ddim edrych yn ôl am rai wythnosau wedi’r ergyd honno ac Aberystwyth oedd y cyntaf i golli yn eu herbyn ar y Belle Vue. Wedyn y daeth eu canlyniadau da tan y ddwy gêm ddiwethaf.

Y canlyniad yw fod y Rhyl yn bedwerydd yn y tabl ac Aberystwyth un o’r gwaelod. Mi fydd yn rhaid i dîm Matthew Bishop ennill y tro hwn er mwyn adfer hunanbarch, ond cael a chael fydd hi.

Yn y ddwy gêm y Sadwrn hwn mae Caerfyrddin yn dychwelyd i’r Drenewydd lle collson nhw yn eu herbyn 4-2 ar ddechrau’r tymor, a churo Aberystwyth 0-3 ar yr un cae yn fuan wedyn.  Dydyn nhw ond dau bwynt ar y blaen i’r Drenewydd, fodd bynnag, a thîm Chris Hughes yn soled ar waelod y tabl.

Mae’n anodd credu eu bod yn y safle hwnnw gan fod y Drenewydd wedi bod yn dîm deheuig yn ystod y tymhorau diwethaf ac wedi cyrraedd Ewrop. Ond y tymor hwn dyw pethau ddim wedi bod mor addawol ac mae ganddyn nhw waith mawr i adfer y gallu i ennill gêmau.  Mi fydd hon yn gêm galed iddyn nhw, er mi allan nhw ei gwneud hi yn erbyn bechgyn Mark Aizlewood.

Mi ellir gweld y gêm arall ar Sgorio, y Seintiau Newydd, unwaith eto, yn erbyn Llandudno.  Os bydd tîm Alan Morgan yn chwarae cystal ag y gwnaethon nhw yn erbyn Airbus, a welwyd ar S4C bythefnos yn ôl, yna mi fydd yn gêm gwerth ei gweld.  Petaen nhw’n medru arafu rhywfaint ar rediad y Seintiau mi fyddai’n llesol iawn i’r clybiau eraill yn yr Uwch Gynghrair.

Y Seintiau yw’r unig glwb o’r gynghrair sydd ar ôl yng Nghwpan Irn Bru. Mi aethon nhw i’r Alban a churo Forfar Athletic 1-3.  Stori wahanol oedd hi yn y Bala pan gollson nhw 2-4 yn erbyn Allowa Athletic (Alo Wa chwedl Dylan Jones Ar y Marc!).  Doedd hi ddim yn edrych yn addawol y byddai bechgyn Colin Caton yn cael yr un gôl ond roedd y sgôr derfynol yn edrych fymryn yn fwy parchus na’r addewid ar y dechrau.
Gêmau’r Sul:  Y Bala v Airbus; Met Caerdydd v Derwyddon Cefn a Gap Cei Connah yn erbyn Bangor, i gyd am 3.00 pm.

Rhannu |