Pêl-droed

RSS Icon
05 Hydref 2016

Pnawn caled yn disgwyl y Bala yn erbyn Alloa Athletic

Gornest hanesyddol y mae S4C yn ei galw. Am y tro cyntaf mae timau o Gymru a Gogledd Iwerddon yn cael ymuno yng Nghwpan Her yr Alban, yr In Bru, a dyna pam mai Alloa Athletic sy’n chwarae ym Maes Tegid y Sadwrn hwn. Mae’r amser yn wahanol – 1.00 o’r gloch – ac mae’r sianel yn ei dangos ‘yn fyw’.

Y Bala a’r Seintiau Newydd yw cynrychiolwyr Uwch Gynghrair Cymru yn y cwpan hwn. Maen nhw’n ymuno yn y bedwaredd rownd a thra mae’r Bala gartref mae pencampwyr Park Hall ar eu taith bell i Forfar.

O leiaf dyw’r Bala ddim wedi colli yn eu dwy gêm ddiwethaf yn yr Uwch Gynghrair.  Wedi cadw Bangor i gêm gyfartal 1-1 yn y noson gyntaf ar eu cae newydd mi gawson nhw fuddugoliaeth dros y Drenewydd y Sul diwethaf. O flaen torf sylweddol is na’r nos Wener cynt mi lwyddon nhw i fynd un gôl ar y blaen drwy esgid y dychweledig Lee Hunt.

Mae Alloa yn agos i frig Adran Gyntaf yr Alban sy’n awgrymu y bydd tîm Colin Caton yn cael pnawn go galed ar  y carped newydd. Yn y rownd ddiwethaf mi enillodd Alloa gartref 3-0 yn erbyn East Fife ac mewn cwpan arall yn fuan wedyn dim ond colli 2-0 a wnaethon nhw yn erbyn Celtic. Mi fydd hi fel rownd ragbrofol Cwpan Europa unwaith eto i’r Bala, dim ond eu bod nhw’n cael chwarae ar eu tomen eu hunain y tro yma.

Mi enillodd Alloa y cwpan ymhell yn ôl yn 1999 a chyrraedd y rownd defynol y llynedd ar ôl curo Rangers yn y rownd gynderfynol.  Digon i goesau chwaraewyr y Bala ddechrau crynu o bosibl a does ond gobeithio y medran nhw wneud sioe go dda ohoni er gwaethaf y bygythiad.

Am dri o’r gloch y bydd gêm y Seintiau yn Forfar, y clwb sydd ar frig ail gynghrair yr Alban. Maen nhw’n amlwg wedi sylwi fod tîm Craig Harrison wedi curo’u degfed gêm y tymor yma oherwydd i Forfar Athletic golli gêm gyntaf eu tymor nhw yn erbyn Montrose 1-3 y Sadwrn diwethaf. Newyddion calonogol i griw Croesoswallt sydd wedi arfer wynebu timau cystal os nad gwell yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Mi gafodd y Seintiau afael arni eto yn y Drenewydd y Sadwrn diwethaf pan oedd Aberystwyth yno yn chwarae eu gêm gartref. Mi sgoriodd Greg Draper dair o’r pump gôl a gawson nhw ond mi lwyddodd Aber i gael gôl o’r smotyn cyn y diwedd.  

Ar ymweliad a Chei Connah yr oedd yr Hen Aur ddydd Sul ac mi bwyson nhw ddigon i gadw’r sgôr yn 1-0 i dîm Andy Morrison. Gap Cei Connah sy’n dal yn ail yn y tabl er eu bod wyth pwynt yn brin o gyfanswm y Seintiau. Bangor sy’n dal yn y trydydd safle wedi iddyn nhw ennill 2-1 yn erbyn Met Caerdydd dydd Sul.

Dwy gêm orau’r penwythnos mae’n siŵr oedd Derwyddon Cefn yn erbyn y Rhyl a Llandudno yn Airbus.  Yn Park Hall yr oedd y Derwyddon yn chwarae’r Rhyl ac wedi dechrau addawol a mynd 3-1 ar y blaen mi darodd bechgyn Neil McGuinness yn ôl a’i gwneud yn 3-3, nes i’r Derwyddon sgorio’r bedwaredd.

Mi gafodd Llandudno hwyl arni ym Mrychdyn gan fynd ar y blaen yn gynnar a churo 2-3 yn y diwedd. Mae’n bosibl mai gol Lewis Buckley fydd gôl y mis y tro hwn. Mi fydd yn anodd curo ei ymdrech o bell i fynd dros ben y golwr.

Rhannu |