Pêl-droed

RSS Icon
04 Hydref 2016
Gan GLYN GRIFFITHS

Glyn Griffiths yn dwyn i gof y diwrnod y cafodd ef ei lwgrwobrwyo

GYDAG ychydig ond mwy na mis wedi ei chwarae yn y tymor pêl-droed newydd, mae helynt sydd wedi rhoi ysgytwad i’r gêm wedi codi.

67 o ddyddiau yn unig y parhaodd Sam Allardyce fel rheolwr Lloegr cyn cael ei ddal allan yn ymddwyn mewn ffordd annerbyniol, ac mae digon wedi ei ddweud am hyn dros y dyddiau diweddar.

Yn sgil yr honiadau yma o fewn y byd pêl-droed, mae cyfeiriadau am lwgrwobrwyo wedi, ac yn parhau i gael ei gwneud.

“Bungs” ydi’r gair sydd yn cael ei ddefnyddio, sef honni fod pobol o fewn y gêm yn derbyn tâl anghyfreithiol am arwyddo chwaraewyr drwy gydweithio gydag asiant.

Tydi hyn yn ddim byd newydd a hwyrach mai dyma’r amser imi gyfaddef fy mod innau hefyd yn fy amser, wedi bod yn euog o dderbyn ”bung”.

Mae’n beth amser ers y digwyddiad ac mae’n mynd yn ôl i’r adeg pan oeddwn yn hyfforddi timau pêl-droed bechgyn ysgolion Sir y Fflint, o dan 15 oed.

Yr adeg honno, doedd yna ddim academïau pêl-droed ar gael, ac felly roedd y sgowtiaid yn mynychu gemau er mwyn cael blas ar y dalent a oedd ar gael, cyn gwahodd y gorau i gyfres o sesiynau ymarfer, neu ‘trials’ gyda’u clybiau yn ystod gwyliau’r ysgol.

Drwy hyn fe ddaeth pawb a oedd yn cynnal timau o’r fath yma i adnabod y sgowtiaid yn dda gyda hwythau yn holi am gefndir y chwaraewyr ac oes oedd eu rhieni yn bresennol yn y gêm.

Gwaith hawdd oedd ateb eu cwestiynau neu eu hanfon at fam a thad a oedd yn dangos diddordeb yn natblygiad eu mab.

Felly ar fore braf yn yr Hydref, aeth hogiau Sir y Fflint draw i chwarae i Amlwch yn erbyn tîm ysgolion Ynys Môn, ac yn ôl yr arfer, yno roedd y sgowtiaid.

Ar ôl ychydig o gyfarchion “Sut mae?”, ac yn y blaen, daeth un o’r cynrychiolwyr ataf, yn cario bag papur brown yn ofalus yn ei law.

Yn ddistaw iawn, ac yn annibynnol o’r sgowtiaid eraill, daeth un ataf yn llawn parch a diolch gan fy hebrwng yn ddistaw i’r ochor.

“Rhywbeth bach i chi am eich trafferth,” meddai. “Da chi di bod mor dda yn fy helpu, cymrwch hwn fel gwerthfawrogiad,” ac fe wthiodd y bag papur brown i’m llaw gan symud yn sydyn i gyfeiriad rhieni rhyw chwaraewr a oedd yn ei lygadu.

A dyna fi, efo bag papur brown yn fy llaw, a rhywbeth am fy nhrafferth i mewn ynddo!

Bung! Be nesa? Cyffesu i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, yr awdurdodau addysg, neu’r heddlu fy mod wedi cael fy llwgrwobrwyo?

Ond, cyn gwneud unrhyw beth o’r fath, gwell fyddai edrych faint oeddwn wedi cael fy nhalu!

Dychmygwch fy syndod wrth weld mai chwe wy ffres oedd yn y bag, ac roedd yn amlwg fod y cyfaill yn cadw ieir adre a bod y wyau yma wedi cael eu dodwy’r bore hwnnw!

Stori wir, a thra mae Sam Allardyce wedi cael ei adael gydag ôl wy ar ei wyneb yn sgil yr honiadau diweddar am ei ymddygiad, fe lwyddais i i fwyta’r dystiolaeth heb unrhyw gynrychiolydd cudd o’r wasg na’r cyfryngau fod yn bresennol!

Dyna ni ‘bung’ ydi ‘bung’, ond does gen i ddim gofid fydd yr awdurdodau yn dod ar fy ôl i fy nghosbi am fynd i gymaint o drafferth i helpu swyddogion timau pêl-droed Lloegr yn yr oes a fu!     

Rhannu |