Pêl-droed
Cymru yw'r tîm i'w ofni yn eu grŵp ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd
Cymru yw'r tîm i'w ofni yn eu grŵp ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn ôl cyflwynydd Sgorio, Dylan Ebenezer.
Ar ôl i dîm Chris Coleman gyrraedd y rowndiau cynderfynol ym Mhencampwriaeth UEFA Euro 2016 dros yr haf eleni, fe gychwynnodd y tîm eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 FIFA gyda buddugoliaeth 4-0 gyfforddus dros Moldofa ym mis Medi.
Ar ddechrau Hydref, mae gan Gymru ddwy gêm ragbrofol i'w chwarae mewn pedwar diwrnod, oddi cartref yn erbyn Awstria ar nos Iau, 6 Hydref, ac yna gêm gartref yn erbyn Georgia ar ddydd Sul, 9 Hydref.
Bydd Sgorio yn dangos uchafbwyntiau o'r gemau am 10.30 ar y nosweithiau hynny, gyda Dylan Ebenezer yn y stiwdio yng nghwmni cyn chwaraewyr Cymru, Owain Tudur Jones a Dai Davies.
Nic Parry a chyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, fydd yn sylwebu ar y chwarae.
Dywedodd Dylan Ebenezer: "Mae'r feel-good factor yn anhygoel ar hyn o bryd.
"Roedd gêm Moldofa yn teimlo fel aduniad ysgol ac roedd pawb yn gwenu.
"Mae pobl yn dal i stopio fi ar y stryd i siarad am yr Euros.
"Mae'n teimlo fel oes newydd yn hanes y tîm cenedlaethol.
"Ac er bod Ffrainc wedi gwireddu breuddwyd y tîm, maen nhw'n edrych yn barod i wneud yr un peth eto.
"Wedi eu buddugoliaeth dros Moldofa yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf, mae Cymru wedi dringo i 10 uchaf Detholion FIFA, uwchben Lloegr, Sbaen a'r Eidal.
"Ni yw'r tîm i'w ofni'r dyddiau yma," ychwanega Dylan.
"Mae gan Awstria chwaraewyr da fel David Alaba a Marko Arnautovic, ond pan dwi'n edrych ar ein tîm ni a gweld enwau fel Gareth Bale a Joe Allen, dwi'n poeni llai am y gwrthwynebwyr.
"Mae cyrraedd Cwpan y Byd yn lot anoddach na chyrraedd yr Euros.
"Mae'r pedair gêm gyntaf yn bwysig gan fod tri ohonyn nhw gartref.
"Ond dwi'n meddwl byddai pwynt oddi cartref yn erbyn Awstria yn ganlyniad gwych.
"Yng Nghaerdydd, rydyn ni eisoes wedi trechu Moldofa, ac os rydyn ni'n gallu ennill yn erbyn Georgia a Serbia ym mis Tachwedd, fyddai hynny'n rhoi ni mewn safle gwych yn yr ymdrech i gyrraedd Rwsia."
Sgorio: Awstria v Cymru
Nos Iau 6 Hydref 10.30, S4C
Sgorio: Cymru v Georgia
Nos Sul 9 Hydref 10.30, S4C
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C