Pêl-droed

RSS Icon
18 Chwefror 2011
Androw Bennett

Brathu sodlau


GYDA chlwstwr o glybiau’n dynn wrth sodlau’r Adar Gleision yn agos at frig y Bencampwriaeth erbyn bore echddoe, parhau mae’r cyffro wrth i’r ddau glwb o Dde Cymru geisio am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Byddid yn meddwl y byddai hyder Caerdydd wedi cynyddu’n dilyn eu llwyddiant yn y gêm ddarbi bythefnos yn ôl ond dim ond gyda thipyn o drafferth y gorchfygwyd Scunthorpe o 1-0 ddydd Sadwrn diwethaf a doedd eu perfformiad yn y gêm gyfartal (1-1) yn erbyn Burnley nos Fawrth ddim yn argyhoeddi’n llwyr chwaith.

Er gwaetha rhybuddion Dave Jones cyn y gêm yn erbyn Scunthorpe, aeth cefnogwyr Caerdydd i’r Stadiwm yn disgwyl toreth o gôliau’n erbyn clwb a oedd wedi ennill ond un o’u 13 gornest blaenorol.

Prin oedd amynedd y Cymry ymhlith y dorf wrth i’r munudau ddiflannu, gyda llawer yn dechre disgwyl dim gwell na gêm gyfartal i amharu ar ymdrech yr Adar Gleision i gwrso QPR ar frig y tabl.

Am yr eildro’n olynol, fodd bynnag, sgoriodd Caerdydd ar 85 munud i gipio’r triphwynt, er nad oedd gôl Seyi Olonfinjano o’r un safon ag un Craig Bellamy yn Abertawe wythnos ynghynt.

Doedd y cefnogwyr ddim yn becso dim am ansawdd y gôl wrth weld Olofinjana’n llwyddo, gydag ychydig o lwc, i gyfeirio’r bêl â’i ben i gôl Scunthorpe.

Er y siom taw dim ond un gôl a sgoriwyd, roedd y triphwynt yn rhai gwerthfawr i Gaerdydd, yn arbennig o weld Abertawe, Norwich a Leeds yn ennill ar yr un pryd a Nottingham Forest yn sicrhau pwynt o gêm gyfartal yn QPR bnawn Sul.

Doedd ’na ddim prinder gôliau yng ngêm Abertawe lan ym Middlesborough, gyda’r Elyrch yn ennill gornest syfrdanol o 4-3 ar ôl iddyn nhw fod 3-1 lawr wedi 53 munud.

Edrychai’n ddu ar garfan Brendan Rodgers gyda Marvin Emnes wedi agor y sgôr yn erbyn ei hen gyfeillion o Dde Cymru a gôl Nathan Dyer ar 14 munud yn unig ymateb yr ymwelwyr cyn i Scott Sinclair sgorio o’r smotyn ar yr awr i godi gobeithion ei dîm.

Rhyw annibendod o gôl gan Ashley Williams ddaeth â’r sgôr yn gyfartal wyth munud yn ddiweddarach a bu raid aros tan eiliadau ola’r munudau ychwanegol cyn i ergyd wych Craig Beattie sicrhau’r fuddugoliaeth i Abertawe a’u cadw’n y ras am ddyrchafiad.

Gyda Chaerdydd yn yr ail safle nos Sadwrn, mawr oedd y gobaith am fuddugoliaeth yn erbyn Burnley yn Stadiwm y Brifddinas nos Fawrth, yn arbennig o sylweddoli fod Forest eu hunain yn chwarae yn Scunthorpe echnos.

Yn anffodus i gefnogwyr yr Adar Gleision, er i Michael Chopra’u rhoi ar y blaen yn eiliadau ola’r hanner cyntaf, rhaid oedd bodloni ar bwynt yn unig o gêm gyfartal wrth i gyn-ffefryn ar Barc Ninian, Steven Thompson sgorio i’r ymwelwyr ychydig funudau cyn y diwedd.

Gyda Chaerdydd (2ail) yn ymweld â Nottingham Forest (4ydd cyn echnos) a Leeds (6ed) yn croesawu Norwich (3ydd) bnawn yfory, mae’n benwythnos mawr ar frig y Bencampwriaeth wrth i’r clybiau hyn frathu’i gilydd yn ddidrugaredd.

Yn y cyfamser, Doncaster sy’n dod i’r Liberty yfory, a’r ymwelwyr wedi ildio 6 gôl i Ipswich nos Fawrth ar eu tomen eu hunain yn Stadiwm Keepmoat.

Dylai fod yn fuddugoliaeth i Rodgers a’i garfan, er y byddai’n annoeth i’r cefnogwyr fod yn rhy obeithiol am doreth o gôliau.

Byddai gôl debyg i un Olofinjana dros yr Adar Gleision wythnos diwethaf yn ddigon i blesio os sicrhau’r triphwynt.

Rhannu |