Pêl-droed
Maes Tegid yn denu ond dau glwb arall heb gae o hyd
Wrth agor cae sydd wedi cael wyneb newydd 3G mi allwch ddenu torf o 857. Felly y digwyddodd hi yn y Bala wythnos yn ôl gyda rhai o gylch eang wedi cyrraedd Maes Tegid i weld y carped newydd, criw da o Fangor. Digon prin y byddan nhw’n denu cymaint o bobl dydd Sul pan fydd y Drenewydd yn cael y fraint o’u herio ar y gwyrddni artiffisial.
Cyn hynny mae un gêm y nos Wener yma a dwy yfory. Am nad yw carped Derwyddon Cefn yn barod maen nhw’n chwarae eu gêm yn erbyn y Rhyl ar gae Park Hall. Lle dychrynllyd i’r Rhyl fynd iddo ar ôl colli 10-0 yn erbyn y Seintiau ddiwedd y mis diwethaf.
Yr unig beth o’u plaid yw gwybod fod hynny wedi rhoi ysgytwad fawr iddyn nhw a than dydd Sul roedden nhw wedi ennill pob gêm wedi hynny. Roedd Gap Cei Connah yn rhy gryf iddyn nhw a cholli 2-0 oedd eu hanes. Maen nhw’n cofio hefyd iddyn nhw golli eu gêm gartref yn erbyn Derwyddon Cefn y mis diwethaf, ond yn wahanol i’r Rhyl dydyn nhw ddim wedi ennill gêm ar ôl hynny.
Colli neu gêmau cyfatal yw hi wedi bod y mis yma i’r Derwyddon a dyna pam y mae’r newydd-ddyfodiaid i’r gynghrair, ar ôl blwyddyn allan, yn ail o waelod y tabl.
Mae’r Rhyl yn bedwerydd a phwy fyddai wedi credu hynny rai wythnosau’n ôl. Efallai y gallan nhw gael y gorau ar y Derwyddon y tro hwn er mwyn talu’r pwyth yn ôl wedi iddyn nhw golli iddyn nhw y mis diwethaf.
Un o gêmau’r Sadwrn sydd ar Sgorio, honno rhwng Airbus a Llandudno. Mi aeth yr awyrenwyr i’r Drenewydd y Sadwrn diwethaf a sodro tîm Chris Hughes 2-4. Hwn oedd y newydd gorau y gallai Andy Thomas, rheolwr Airbus, ei gael er mwyn eu codi i’r seithfed safle yn y tabl. Mae ganddyn nhw yr un faint o bwyntiau â Llandudno erbyn hyn, clwb sydd heb ddechrau hanner cystal â’r llynedd.
Yn ôl y perfformiadau diweddar mae hi’n edrych fel petai’r awyrenwyr yn medru cipio hon a dringo ymhellach yn y tabl. Yr unig beth yw fod tîm Alan Morgan yn gallu sgorio’n well oddi cartref. Hyd yma dydyn nhw ddim wedi sgorio un gôl ym Mharc Maesdu.
Dal i fynd i’r Drenewydd i chwarae gartref y mae Aberystwyth. A phwy sydd ganddyn nhw y Sadwrn hwn? Y Seintiau Newydd! Pob lwc iddyn nhw yn erbyn yr anffaeledigion. Dim ond gobeithio y medran nhw adfer rhywfaint o ysbryd y gêm yng Nghaerfyrddin pan enillson nhw 0-5. Wnaethon nhw ddim yn Met Caerdydd y Sadwrn diwethaf. 1-0 oedd hi i’r myfyrwyr.
Ar y Sul y mae’r Met yn chwarae y tro yma, yn teithio i Fangor i wynebu tîm Andy Legg.
Mae pethau’n edrych yn llawer gwell ar dîm y myfyrwyr erbyn hyn, wedi ennill tair gêm yn olynol. Beth all roi fwy o hyder iddyn nhw wrth gyrraedd Nantporth? Mae’n dibynnu’n llwyr pa dîm Bangor fydd ar y cae, mi allan nhw ei chael yn anodd yn erbyn y myfyrwyr.
Gêm arall y Sul yw Gap Cei Connah yn erbyn Caerfyrddin a gadwodd y Seintiau i 2-1, yn llawer gwell na thimau eraill y tymor hwn.