Pêl-droed
Roedd Mel Charles yn gawr go iawn
Trist oedd clywed am farwolaeth Mel Charles y penwythnos diwethaf, yn 81 mlynedd oed.
I unrhyw un a gafodd ei fagu ar bêl droed Porthmadog yn y chwedegau, roedd Mel yn arwr.
Hogia Mel, a hogia ni oedd hi ar y Traeth y dyddiau hynny a doedd na neb mor enwog erioed wedi dod i chware i dîm Port.
O dan reolaeth Ifor Roberts, roedd Mel yn gawr ar y Traeth a gosododd y safonau a welodd tîm Port yn ennill Cynghrair Gogledd Cymru (doedd ‘na ddim cynghrair cenedlaethol yr adeg hynny) am rai blynyddoedd i ddod.
Mae’n debyg y dylwn gyffesu yma fy mod braidd yn genfigennus o'r hyn a ddigwyddodd, a hefyd wedi pwdu ychydig gan fod y mewnlifiad o chwaraewyr o dde Cymru a hefyd ardal y Potteries yn Lloegr wedi golygu ei bod yn fwy anodd i chwaraewyr ifanc fel fi gael ein lle yn nhîm Port.
Ond dyna ni, roeddem i gyd yn meddwl ein bod yn well nac oeddem y dyddiau hynny ond roeddem yn gallu ymarfer gyda thîm Port a chael ein hergwd gan Mel i bob cyfeiriad!
Fodd bynnag, fe gefais y cyfle i ymuno â chlwb y Bermo yng Nghynghrair Canolbarth Cymru, ac ar bnawn hyfryd o fis Ionawr 1967 gallwch ddychmygu fy nghynnwrf wrth chwarae i'r Bermo yn erbyn Port gan gynnwys Mel a phawb arall, ar y Traeth mewn gêm gwpan.
Dwi ddim y cofio llawer, ond 2-1 i Port oedd y sgôr, ac ia, mi roedd Mel yn gawr go iawn a finnau’n olwr yn mesur ddim mwy na phum troedfedd wyth modfedd.
Cychwynnodd Mel ei yrfa broffesiynol gydag Abertawe (ar ôl cyfnod byr yn Leeds United) yn 1952.
Treuliodd saith mlynedd yn yr Ail Adran gyda'r Elyrch, cyn symud am £42,750 i Arsenal yn 1959.
Arhosodd yno am dri thymor, ond cafodd ei amser yno ei amharu gan nifer o anafiadau ac ym mis Chwefror 1962 cafodd ei werthu i Ddinas Caerdydd am ffi o £28,500.
Treuliodd dair blynedd gyda Chaerdydd, ble’r enillodd Gwpan Cymru ym 1964 (ei unig anrhydedd yn y cartref) cyn iddo ymuno â thîm Porthmadog yn 1965 ble, yn ôl hunan gofiant Mel, y derbyniodd gyflog a oedd yn fwy nag a dalwyd iddo gan Arsenal a Chaerdydd!
Er i Mel fwynhau ei amser yng ngogledd Cymru, penderfynodd na allai wrthod cynnig i ddychwelyd i'r Gynghrair Bêl-droed gan Port Vale, a oedd o dan reolaeth Stanley Matthews.
Talwyd ffi o £1,250 i Port a chwaraeodd Mel ei gêm gyntaf, yn ôl yng nghynghrair Lloegr, yn erbyn Crewe Alexandra ar y 3ydd o Chwefror 1967.
Yna, parhaodd y teithiau, ymlaen i Groesoswallt ym Mai 1967 cyn symud i Hwlffordd flwyddyn yn ddiweddarach.
Mwynhaodd ei amser yn Sir Benfro ac aeth ymlaen i chwarae yn agos at 200 o gemau i Hwlffordd, yn bennaf fel canolwr.
Gadawodd y clwb yn 1972 i ddychwelyd i'r Cwmbwrla yn ardal Abertawe, ble y sefydlodd tîm amatur Cwmfelin.
Yn ogystal â’i yrfa gyda nifer o glybiau, bu Mel yn gapten ar dîm cenedlaethol Cymru ac fel ei frawd John, roedd yn aelod o dîm Cymru yn ffeinal Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958.
Chwaraeodd mewn wyth Pencampwriaeth Gwledydd Prydain, ac mae’n un o ddim ond tri Chymro i sgorio pedair gôl mewn gêm pan sgoriodd yr holl goliau mewn buddugoliaeth o 4-0 dros Ogledd Iwerddon.
Enillodd 31 o gapiau rhyngwladol yn ogystal ag un ymddangosiad i'r tîm o dan 23 oed, a sgoriodd chwe gôl ryngwladol.
Diolch Mel am yr atgofion a diolch am ddangos safon a roddodd ysbardun gwelliant inni, ar ddyddiau melys, hiraethus ar y Traeth mor bell yn ôl.
Diolch Mel. Cwsg yn dawel.