Pêl-droed

RSS Icon
15 Medi 2016

Cyfle i’r Bala ddangos i Fangor sut mae herio’r Seintiau

Does dim wedi newid yn hanes Bangor mae’n amlwg. Wedi ennill pedair o’u pum gêm roedd pob gobaith y gallen nhw fynd i Park Hall a bod yn wrol yn erbyn y pencampwyr oedd dri phwynt ar y blaen iddyn nhw. Dim gobaith. Doedd y gallu ddim gan chwaraewyr newydd Bangor i wneud argraff.

Mewn gwirionedd mi wnaethon nhw’n salach yn erbyn y Seintiau na’r tymor diwethaf o dan Neville Powell. Yn eu dwy gêm bryd hynny mi lwyddon nhw i gadw bechgyn Craig Harrison i 2-0 gartref ac oddi cartref. Dan Andy Legg dyblwyd y sgôr i 4-0.

Wrth gwrs roedd Legg yn siomedig, yn fwy felly gyda’r ffordd y chwaraeson nhw. Doeddan nhw ddim wedi dangos yr awch i fynd amdanyn nhw, meddai’r rheolwr ar ôl y gêm. Mae tipyn o waith o hyd gan yr ysgub newydd i godi’r safon i fod cystal â thîm Croesoswallt.

Un peth a ddangosodd y gweir hon yw nad yw’r clybiau eraill a fu ym Mangor ddechrau’r tymor yn ddigon da chwaith, ac eithro Gap Cei Connah a gurodd Bangor ac sydd bellach yn ail yn y tabl.

Y pencampwyr sydd ar Sgorio yr wythnos hon a’r Bala yn ymweld â Park Hall. Mi lwyddodd tîm Maes Tegid yn erbyn Derwyddon Cefn dydd Sul ar gae y Rhyl i ennill eu hail gêm y tymor hwn. Dydyn nhw ddim wedi cael dechrau cystal y tro yma ac maen nhw wedi bod yn hir yn cael gafael arni. Efallai y bydd ennill y Sul diwethaf yn rhoi tipyn o sbardun iddyn nhw.

Yr anhawster yw mai’r Seintiau maen nhw’n chwarae. Serch hynny, mae’r Bala wedi bod yn fwy llwyddiannus nag amryw glybiau yn eu herbyn yn ddiweddar gan gael sawl gêm gyfartal, gartref ac oddi cartref. Os gallan nhw lefelu’r sgôr eto y tro hwn mi fydd hynny’n rhoi arwydd o ddifri fod clwb Maes Tegid ar ei ffordd i fyny’r tabl.

Mi ddangosodd Caerfyrddin fod tipyn o ruddin ynddyn nhw yn erbyn Aberystwyth y Sadwrn diwethaf. Roedd Aber wedi colli eu dwy gêm cyn hynny a dyma golli 0-3 eto y tro hwn. Mae gan Matthew Bishop, eu rheolwr newydd, dipyn o waith yn gosod ei fysedd yn nhyllau’r argae.

Gartref y mae Caerfyrddin yr wythnos hon a Bangor sy’n ymweld. Dyw’r Waun Dew ddim wedi bod yn lle rhy amhleserus i Fangor ar sawl achlysur yn y gorffennol ond gall brofi’n anodd eto y tro hwn. Does dim dau nad oes raid i fechgyn Andy Legg wneud yn well nag a wnaethon nhw ddydd Sul. Yng ngoleuni hynny mi fyddai gêm gyfartal yn codi calon y Dinasyddion.

Mae’r Rhyl wedi camu i’r goleuni ers y gweir 10-0 yn erbyn y Seintiau. Wedi ennill pedair o’u gêmau diwethaf (yn cynnwys Caernarfon oddi cartref yng Nghwpan y Gynghrair 1-5) yn y Drenewydd y maen nhw y tro hwn a gobaith eto o wneud eu marc. Mae eu rheolwr ifanc, Niall McGuinness, i’w longyfarch am roi sgrytiad go dda i’w dîm i’w codi i’r pedwerydd safle yn y tabl.

Gêmau dydd Sul: Airbus v Derwyddon Cefn; Gap Cei Connah v Aberystwyth; Llandudno v Met Caerdydd. (i gyd am 3.00 pm)

Rhannu |