Pêl-droed

RSS Icon
07 Medi 2016
Gan ANDROW BENNETT

Cenhedlaeth euraid Cymru?

Cymru 4 (Vokes 38, Allen 44, Bale 50, 90+5 [o’r smotyn]) Moldofa 0

Mwy na thebyg ei bod yn rhy gynnar o lawer i ddisgrifio aelodau presennol tîm pêl droed Cymru fel “cenhedlaeth euraid” ond roedd y modd y sicrhawyd y fuddugoliaeth hon yng ngêm gyntaf ein tîm cenedlaethol yng nghymal rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn berfformiad sy’n haeddu pob clod.

Bu tipyn o ofidio ymlaen llaw y byddai `na dipyn o salwch ar ôl y ffair yn dilyn y gorfoledd ddeilliodd o’r llwyddiant syfrdanol yn Ewro 2016 ychydig wythnosau prin yn ôl, ond doedd `na ddim angen gofidio’n ormodol wrth i’r to cyfoes o chwaraewyr argyhoeddi unwaith eto.

Gorfodwyd y dorf o 31,731 i fod yn amyneddgar ar hyd y rhan fwyf o’r hanner cyntaf wrth i’r ddau dîm deimlo’u ffordd i mewn i ornest lle roedd hi’n amlwg o’r cychwyn cyntaf nad oedd carfan Chris Coleman wedi colli dim o’r hwyl a’r hyder a’u cariodd drwy’r ymgyrch yn Ffrainc.

Tîm corfforol yw Moldofa ar hyn o bryd, heb lawer o chwarae celfydd a gwelwyd ambell dacl ffyrnig a pheryglus, gyda Joe Allen a Gareth Bale yn derbyn y driniaeth mwyaf hallt wrth i’r ddau dalismon serennu yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun.

Er i’r dyfarnwr o Israel, Liran Liany, roi ambell gic rydd o bryd i’w gilydd, synnwyd y dorf na welwyd fwy o gardiau melyn na’r un a ddyfarnwyd i Alexandru Dedov.

Ta waeth am hynny, llwyddodd Ashley Williams a’i griw i gadw’u pennau gyda chefnogaeth amyneddgar y cefnogwyr tan i Bale (pwy arall?) groesi’n wych a Sam Vokes yn codi’n uwch na’r amddiffynwyr i benio’r gôl gyntaf ar 38 munud i godi’r hwyl o gwmpas yr eisteddleoedd.

Ni fu rhaid bod mor amyneddgar cyn i Joe Allen ddyblu’r sgôr ychydig cyn yr egwyl wrth iddo fanteisio ar fethiant golwr Moldofa, Ilie Cebanu, i glirio’r bêl yn effeithiol gyda’i ddwrn o gic cornel Joe Ledley o’r chwith.

Gydag Allen yn aros tu allan i’r cwrt, syrthiodd y bêl yn gyfleus iddo ergydio gyda hanner-foli trwy goedwig o goesau’r amddiffynwyr ac o dan gorff y golwr i greu’r cyfle i ddathlu gôl gyntaf y chwaraewr o Sir Benfro dros Gymru.

Goruchafiaeth, felly, o 2-0 erbyn diwedd yr hanner cyntaf ac ambell un o’r selogion Cymreig yn Lecwydd yn dechrau breuddwydio am hanner dwsin neu fwy o goliau a chanlyniad ryfeddol o unochrog.

Er na wireddwyd y freuddwyd honno yn llwyr, llwyddwyd i adeiladu ar y 45 munud cyntaf, a thipyn o hynny diolch i haelioni a methiannau chwaraewyr Moldofa.

Ymdrech wan Ion Jardan i basio nôl i gyd-amddiffynnwr roes y cyfle i Bale ychwanegu at y sgôr yn gynnar yn yr ail hanner wrth i chwaraewr Real Madrid gymryd mantais ar y fath flerwch i guro’r golwr.

Cododd y gôl gyfanswm Bale dros ei wlad i 23, un yn uwch na Dean Saunders ac yn gyfartal gyda dau chwaraewr y mae gen i gof o’u gweld yn chwarae, sef Trevor Ford ac Ivor Allchurch.

Deiliad y record am y nifer o goliau dros Gymru, wrth gwrs, yw Ian Rush a bu yntau’n darogan y bydd Bale yn curo’r record yn fuan, yn sicr yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018.

Er i Bale a ffyddloniaid y Ddraig Goch orfod aros i weld ychwanegiad pellach at y sgôr nos Lun, daeth y cyfle yn eiliadau olaf yr amser ychwanegol ar ddiwedd yr ornest pan faglwyd ef yn y cwrt wrth i Gymru lansio un ymdrech olaf.

Siwrne gwnaeth y dyfarnwr ei benderfyniad i roi cic o’r smotyn i Gymru, dim ond un chwaraewr oedd i’w chymryd, gyda Bale erbyn hynny wedi cymryd at ddyletswyddau’r capten yn dilyn eilyddio Williams gan James Collins.

Bu ond y dim i’r bêl ddod i lwybr Collins yn gynharach oddi wrth groesiad gan eilydd arall, Hal Robson-Kanu, cyn i amddiffynnwr ei hatal rhag cyrraedd chwaraewr West Ham a’r gôl yn wag o’i flaen.

Byddai’r gôl honno wedi bod yn achos i ddathlu wrth i Collins ennill eu 50ed cap dros Gymru ac fe fyddai wedi hoffi cymryd y gic o’r smotyn, ond cyfle Bale i godi ei gyfanswm i 24 oedd hi a dim ond Rush yn meddu ar fwy nag ef bellach.

Sgôr terfynol boddhaol iawn, felly, ar noson fydd yn aros yn y cof i lawer o blant a phobl ifanc na ddylai orfod aros cyhyd â bu rhaid i gynifer o’m cyfoedion innau aros i weld llwyddiant Cymreig.

Daeth y fuddugoliaeth yn gyfforddus ddigon er gwaetha absenoldeb Aaron Ramsey a chanol y cae yn gweithredu fel wats dan reolaeth Allen (ddylai fod wedi cael ei enwebu’n seren y gêm yn hytrach na Bale), Andy King a Ledley.

Gyda’r triawd o amddiffynwyr cadarn, Williams, yr anhygoel James Chester a Ben Davies yn cadw’r peryglon rhag trafferthu’r golwr, Wayne Hennessey, tra’n rhyddhau Gunter a Neil Taylor i fygwth Moldofa ar y ddwy ystlys, doedd `na ond ambell obaith gwan i’r ymwelwyr sgorio.

Ar y llaw arall, roedd y bygythiad i gôl Moldofa yn un cyson, bron yn barhaol ac roedd Coleman yn llygad ei le wrth honni y gallai’r sgôr terfynol fod wedi cyrraedd yr uchelfannau gydag ychydig bach o lwc dros y 90 munud.

Er i nos Lun fod yn gyfle i barhau gyda’r dathlu wedi’r llwyddiant yn Ffrainc ddeufis yn ôl, ni ddylid cyfri’r cywion cyn eu deor o ran cyrraedd Rwsia gyda sawl rhwystr posib yn wynebu Cymru dros y 14 mis nesaf.

Oes, mae `na fantais yn deillio o chwarae tair o’r pedair gêm cyntaf yma yng Nghymru, gyda’r awyrgylch a’r gefnogaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn sbardun aruthrol fydd yn anodd i wrthwynebwyr ddygymod ag e.

Ymweliad i Fienna i herio Awstria ar 6 Hydref yw gorchwyl nesaf Cymru a bydd Osian Roberts yn barod wedi dechrau ar y broses o ddadansoddi sut y gall y genhedlaeth bresennol o chwaraewyr geisio ennill y disgrifiad “euraid” os am barhau i adeiladu ar gychwyn ardderchog i’r ymgyrch newydd.

Tîm Cymru: Wayne Hennessey, Chris Gunter, James Chester, Ashley Williams [Capten] (eilydd: James Collins 82), Ben Davies, Neil Taylor, Joe Allen, Andy King, Joe Ledley (Emyr Huws 67), Gareth Bale, Sam Vokes (Hal Robson-Kanu 75)


 

Rhannu |