Pêl-droed

RSS Icon
05 Medi 2016

Brwydr galed arall i’r tîm sydd gartref oddi cartref

Dau glwb sydd heb ennill eu dwy gêm ddiwethaf sydd wrthi ddydd Sadwrn. A fydd hi ddim yn gêm gartref i un ohonyn nhw er mai ei henw nhw sydd gyntaf ar y rhestr. Oherwydd fod Aberystwyth yn cael carped fedran nhw ddim chwarae yng Nghoedlan y Parc tan 14 Hydref. I’r Drenewydd â nhw yfory i wynebu clwb sydd eisoes wedi bod yno i chwarae’r Bala am nad yw Maes Tegid yn barod.

Mae Aberystwyth wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf, a’u gwrthwynebwyr, Caerfyrddin, wedi methu ennill, er iddyn nhw gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn y Bala. Ond mi gollson nhw gartref i Landudno wedyn gan eu gadael heb ond un gêm lwyddiannus hyd yma, yn erbyn Airbus.

Ar y ffordd mi gollodd Aberystwyth eu dwy gêm, yn y Rhyl ac ym Mangor, er iddyn nhw ennill yn Llandudno ac ym Mrychdyn cyn hynny. Roedd enw da y Claerwynion yn y fantol pan aeth Aber i’r Belle Vue ganol yr wythnos wedi i’r Rhyl golli 10-0 yn erbyn y Seintiau Newydd. Anodd gwybod beth a ddywedodd Niall McGuinness wrth ei dîm ond curo wnaethon nhw yn erbyn Aber o 3-1.

Yna i’r gogledd eto yr aeth Aber y Sadwrn diwethaf a cholli 4-0 ym Mangor. Fydd hi ddim mor bell i’r Drenewydd yfory a’r gobaith yw y gallan nhw wneud mymryn yn well yn erbyn yr Hen Aur. Pwynt yn unig ydyn nhw ar y blaen i Aber yn y tabl, felly does fawr ynddi er bod Aberystwyth wedi ennill dwy gêm hyd yma i un Caerfyrddin. Ond mi fydd yn gêm galed.

Tra mae Aber v Caerfyrddin ym Mharc Latham mae’r Drenewydd i ffwrdd yn Llandudno. Yn annisgwyl dim ond un gêm mae tîm Chris Hughes wedi ei hennill hyd yma ac mae hanes Alan Morgan a’i chwaraewyr yn edrych dipyn iachach erbyn hyn. Mi gawson nhw lwyddiant yn erbyn Airbus i godi eu hwyliau cyn eu hymweliad â’r Waun Dew. Gan eu bod wedi torri’r garw mi fydd hi’n anos i’r Drenewydd grafu buddugoliaeth ym Mharc Maesdu.

Gêm Sgorio y tro hwn yw honno rhwng y Rhyl ac Airbus a’r Claerwynion wedi neidio dipyn yn uwch nag Airbus yn y tabl wedi curo Met Caerdydd y Sul diwethaf i’w rhoi nhw yn ôl ar waelod y tabl eto. Un gôl oedd ynddi ond roedd yn ddigon. Mi aeth Airbus ar y blaen yn erbyn y Seintiau Newydd ym Mrychdyn ond yn yr ail hanner mi sgoriodd y bechgyn llawn amser bedair gôl a’r un hen stori oedd hi nad yw tîm Craig Harrison wedi colli hyd yma.

Wedi gorfod ailwampio’u tîm yn arw ac Andy Preece wedi mynd mae hi’n edrych yn ddrwg ar Airbus y tymor yma. Mae pethau’n wahanol iawn ym Mangor sy’n ail i’r Seintiau yn y tabl ac yn Park Hall ddydd Sul i gael eu profi o ddifri, ac i Andy Legg weld a yw ei dîm newydd yn ddigon da i wneud argraff ar y clwb o Groesoswallt. Er eu bod wedi ennill pedair o’u gêmau, a cholli i Gap Cei Connah yn unig, mae’n anodd credu y gallan nhw gael y gorau ar fechgyn Craig Harrison. Mi fyddai gêm gyfartal yn fuddugoliaeth yn eu hanes.

Y gêmau eraill dydd Sul: Met Caerdydd v Gap Cei Connah; Y Bala v Derwyddon Cefn (yn y Rhyl).

Rhannu |