Pêl-droed

RSS Icon
01 Medi 2016

Awydd i droi’n broffesiynol yn Nantporth - Rheolwr Bangor Andy Legg

DIM ond gair Andy Legg sydd gynnon ni am hyn, ond Bangor am fynd yn glwb llawn amser y tymor nesaf? Cyn dechrau cropian mae’r perchnogion newydd am gerdded ymhell tua Nantporth, os ydan ni i goelio yr hyn oedd gan y rheolwr i’w ddweud ar Sgorio y Sadwrn diwethaf.

Sut mae gan y perchnogion hyn arian i’w wario yw’r cwestiwn amlycaf. Mi ddaethon nhw i mewn i Fangor o ardal Caer am fod y clwb mewn trafferthion ariannol. Gan gymryd fod hynny’n iawn, mae’n rhaid clirio hwnnw a chwilio am ragor i roi’r clwb ar sylfaen gadarn. Mi allan nhw ei gwneud hi os bydd yn clwb yn cael sawl gêm yn Ewrop, siŵr o fod, ond pa mor sicr yw llwybr Bangor at yr entrychion y tymor yma?

Yr wythnos yma maen nhw’n wynebu Aberystwyth ar ôl croesawu’r Drenewydd nos Fercher. Do, mi roeson nhw’r Bala yn eu lle wythnos yn ôl ond wnaeth y Bala ddim chwarae’n dda, mwy nag a wnaethon nhw yn y ddwy gêm gyntaf y tro yma. Yn y Drenewydd nos Fawrth doedd yr un gôl – yno roedden nhw’n chwarae am nad yw eu carped yn barod ym Maes Tegid – er i’r Bala wneud pob dim ond sgorio yn erbyn Caerfyrddin.

Roedd Aberystwyth yn y Rhyl nos Fercher, wedi bod yn Llandudno y Sadwrn diwethaf, ac yn ôl i Fangor y Sadwrn hwn. Efallai y gall hyn roi mantais i Fangor yn eu pumed gêm gartref ar ddechrau’r tymor.

Codi’r ysbryd ar ôl nos Fercher a’r gweir a gawson nhw yn Park Hall y Sul diwethaf yw tasg y Rhyl. Mi lawiodd goliau yn eu herbyn yng Nghroesoswallt a’r Seintiau’n pledu deg i mewn heb ddim ymateb gan y Claerwynion, oedd yn gwisgo dillad twllach a mwy gweddus i’r amgylchiadau.

Mi allai fod wedi bod yn waeth oni bai am ambell arbediad gan Owen Evans yn y gôl. O leiaf fydd wynebu Met Caerdydd ddim cymaint o ddychryn iddyn nhw. Gyda bechgyn y coleg wedi cael pwynt yn erbyn Derwyddon Cefn maen nhw wedi dechrau dangos eu gallu. Mi fydd yn rhaid i’r Rhyl fod yn wyliadwrus iawn yn eu herbyn, yn arbennig yn yr ail hanner. Mae coesau Met fel petaen nhw’n ystwytho cyn diwedd y gêmau.

Mae Airbus gartref y tro hwn yn erbyn y Seintiau Newydd. Yr wythnos yma maen nhw wedi cael chwaraewr newydd arall yng Nghroesowallt. Un arall o’r Alban yw Wes Fletcher, wedi ei ryddhau o Motherwell ddiwedd y tymor, a daw i Uwch Gynghrair Cymru i fod yn flaenwr i’r Seintiau. Mae arian y clwb yma yn ddiderfyn ac mi fydd Bangor yn siŵr o fod yn gwylio a rhyfeddu sut maen nhw’n medru cyflogi cynifer o chwaraewyr amser llawn.

Wedi colli yn Llandudno nos Fawrth, a Chaerfyrddin cyn hynny, mae lle i ofni am eu hynt yn erbyn y Seintiau. O leiaf mae Llandudon wedi ennill gêm erbyn hyn ac wedi camu’n uwch yn y tabl. Taith i Gaerfyrddin sydd ganddyn nhw fory a all fod yn anodd iddyn nhw eto.

• Gêmau eraill: Gap Cei Connah v Y Bala, sydd ar Sgorio yfory; dydd Sul: Y Drenewydd v Derwyddon Cefn

Rhannu |