Pêl-droed

RSS Icon
31 Awst 2016
Gan ANDROW BENNETT

Cymru v Moldofa - Y cam cyntaf

 minnau bellach wedi bod yn dyst i gamau cyntaf wyrion iach, mae’r atgof yn un melys wrth eu gweld yn tyfu ac yn ffynnu wrth gamu ymlaen i gymalau newydd eu bywydau.

Fe fyddan nhw, yn y pen draw wrth gwrs, yn aeddfedu ac yn cymryd fy lle innau yn y byd a, gobeithio, yn ennill llawryfon o fath am eu llwyddiannau personol hwythau a gwneud yn well na minnau, er gwaetha holl drycinoedd bywyd fydd yn rhaid eu goroesi.

Felly hefyd ym myd y campau, gyda cham newydd i’w gymryd o bryd i’w gilydd wrth i gystadleuaeth arall ymddangos dros y gorwel a gorfodi’r chwaraewyr i roi digwyddiadau diweddar, boed yn llwyddiannau neu fethiannau, nôl mewn bocs wrth droi’r sylw at her arall.

Nos Lun nesaf, yn Stadiwm Dinas Caerdydd, daw’r cam cyntaf i dîm pêl droed Cymru yn y broses o geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Moldofa yw’r gwrthwynebwyr cyntaf yn yr ymgyrch newydd hon ac, o weld eu bod yn 165ed yn rhestr detholion FIFA ar hyn o bryd tra bod Cymru yn 154 safle yn uwch na nhw, dylai nos Lun fod yn agoriad llewyrchus i garfan Chris Coleman.

Yn anffodus, wrth gwrs, mae `na groen banana llithrig ym mhob twll a chornel yn y byd, fel y sylweddolodd f’wyrion innau a phlant ifanc ym mhobman ar hyd y cenedlaethau a bydd rhaid i’r chwaraewyr fod yn ofalus rhag baglu’r tro hwn.

Llwyddwyd i oroesi Andorra oddi cartref yng ngêm gyntaf y cymal rhagbrofol ar gyfer Ewro 2016 i osod sylfaen go gadarn ar gyfer gweddill yr ymgyrch a dyna yw’r gobaith y tro hwn eto wrth geisio adeiladu ar y momentwm a grëwyd dros y ddwy flynedd diwethaf.

Yn anffodus, ni fydd Aaron Ramsey yn chwarae nos Lun oherwydd anaf ac roedd gorfod bod hebddo yn y gêm yn erbyn Portiwgal yn rownd gynderfynol Ewro 2016 yn golled enfawr.

Gyda Jonny Williams yn absennol hefyd gydag anaf a David Vaughan newydd gyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl droed rhyngwladol, mae `na gyfle i’r cefnwr, Paul Dummett, ac i’r chwaraewyr canol cae, Emyr Huws a Tom Lawrence, i geisio adeiladu ar yr hyn ddysgwyd dros y blynyddoedd diweddar.

Er gorfod bod heb chwaraewr canol cae dylanwadol Arsenal yn erbyn Moldofa, dylai gweddill y garfan elwodd ar y profiad yn Ffrainc fod yn rhy gryf i’r ymwelwyr, ond mae `na obaith cadarn na fydd angen goliau Gareth Bale yn unig yn yr ymgyrch hon wedi iddo chwarae rhan mor allweddol yn y llwyddiant o gyrraedd Ffrainc eleni.

Carfan Cymru sy’n paratoi i wynebu Moldofa nos Lun, 5 Medi:
Golwyr: Wayne Hennessy, Danny Ward, Owain Fôn Williams.
Amddiffynwyr: Ben Davies, James Chester, James Collins, Chris Gunter, Ashley Williams, Ashley Richards, Paul Dummett, Neil Taylor.
Canol cae: Joe Allen, David Edwards, Andy King, Joe Ledley, Emyr Huws, Tom Lawrence, George Williams.
Blaenwyr: Gareth Bale, Simon Church, Hal Robson-Kanu, David Cotterill, Sam Vokes.

Rhannu |