Pêl-droed

RSS Icon
24 Awst 2016

Gêm arall i brofi pa mor dda yw’r Bangor newydd

Y gêm sy’n cael y prif sylw y tro hwn yw honno rhwng Bangor a’r Bala.  Mae’r gemau’n rhannu rhwng y Sadwrn a’r Sul eto a’r gêm yn Nantporth yw dewis Sgorio yn hwyr bnawn yfory.  A dim ond gobeithio y bydd llai o wynt ar lannau’r Fenai nag oedd yn agos i’r môr yn Llandudno'r wythnos diwethaf.

O leia’ mi gawson nhw goliau wedi gêm gyntaf hesb yr wythnos cynt. Mi ddylen ni weld rhywfaint o goliau hefyd y Sadwrn hwn gan fod Bangor wedi profi eu bod yn llac yn y cefn yn eu hail gêm yn erbyn Gap Cei Connah.  Mi ddechreuodd Andy Legg, y rheolwr newydd ym Mangor, gyda triphwynt ar gorn Derwyddon Cefn, ond gwahanol iawn oedd hi yn erbyn bechgyn Andy Morrison y Sul diwethaf.

Mi welodd Andy Legg fod ganddo dipyn o waith perffeithio ar ei dîm a gollodd 0-2, ac mi allai fod wedi bod yn rhagor hefyd.  Wnaeth Bangor ddim cadw at y cynllun oedd ganddyn nhw cyn dechrau’r gêm, meddai’r rheolwr, ac mi aeth pethau ar chwâl yn fuan.

Thâl hynny ddim yn erbyn y Bala a phawb o’r cefnogwyr yn gwybod fod y Bala wedi bod yn dîm anodd i Fangor eu trechu ers tro.

Dyw’r Bala ddim wedi disgleirio eto ar ddechrau’r tymor. Chawson nhw ddim gôl yn y Drenewydd mewn gêm gyfartal ac un a gawson nhw yng Nghaerdydd y Sul diwethaf, a chic o’r smotyn oedd honno.  Roedd yn ddigon iddyn nhw ennill yn erbyn y newydd-ddyfodiaid ond cael a chael oedd hi yn y diwedd.

Siawns na fydd y gêm hon mor unochrog ag a welwyd yn Llandudno y Sadwrn diwethaf ond bydd yn rhaid i Fangor fod yn llawer mwy trefnus y tro hwn i gael goruchafiaeth ar dîm yr hen law Colin Caton.

Gartref y mae’r Hen Aur yfory a’r awyrenwyr sy’n ymweld.  Dyw tymor Caerfyrddin ddim wedi dechrau’n llwyddiannus a dim ond un pwynt sydd ganddyn nhw o ddwy gêm.  Mi gollason nhw 4-2 yn y Drenewydd y Sadwrn diwethaf, a cholli a wnaeth Airbus hefyd ond eu bod gartref i Aberystwyth.  Gyda rheolwr dros dro mae gan fechgyn Brychdyn driphwynt gan iddyn nhw guro Met Caerdydd ond colli o’r un sgôr i Aber y Sul diwethaf.

Mi fydd yn rhaid i Gaerfyrddin gael y blaen arnyn nhw y tro hwn er mwyn cael rhoi eu troed yn uwch ar ysgol y tabl.

Dau sy’n newydd i’r gynghrair y tymor hwn sy’n chwarae yn nhrydedd gêm y Sadwrn hwn.  Met Caerdydd sydd yn Rhosymedre yn wynebu Derwyddon Cefn.  Mi gafodd tîm Huw Griffiths hwyl arni yn y Rhyl ac ennill eu gêm 0-3.  Maen nhw wedi dangos eu gallu ac mi fydd myfyrwyr Met Caerdydd yn gorfod ymgodymu â chriw gwydn y Derwyddon.

Mi fydd yn anodd iawn iddyn nhw gofnodi eu llwyddiant cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru, ond os gallan nhw gael gêm gyfartal mi fydd hynny’n galondid mawr iddyn nhw

Gemau dydd Sul: Gap Cei Connah v Y Drenewydd; Llandudno v Aberystwyth a’r Seintiau Newydd v Y Rhyl, i gyd i ddechrau am 3.00 o’r gloch

Llun: Andy Legg

 

Rhannu |