Pêl-droed
Angen gwneud mwy i hybu’r Gymraeg?
Gydag ychydig llai na mis wedi mynd yn y tymor newydd, a chyflawniadau tîm pêl-droed Cymru yn parhau yn fyw yn y cof, tybed faint o’n clybiau sy’n gwneud defnydd cyson o’r iaith Gymraeg ac yn magu polisi clir o gefnogi dwyieithrwydd yn eu gweithgareddau?
Wedi gweld swyddogion y Gymdeithas Bêl-droed yn defnyddio’r iaith yn gyhoeddus yn ystod yr Ewros, a ydi clybiau Cymru yn barod i ddilyn eu hesiampl yn y dyfodol?
Trwy eu cyfweliadau a chyhoeddiadau, gwnaeth y Gymdeithas fwy i hybu’r Gymraeg na wnaeth llawer mewn meysydd eraill yn ddiweddar.
Fodd bynnag, mae defnyddio’r Gymraeg am ryw fis yn Ffrainc yn un peth, ond mae’r hwb a’r her wedi ei roi i glybiau pêl-droed ar hyd a lled Cymru i efelychu hyn a dod â’r Gymraeg yn fwy amlwg yn ei defnydd ffurfiol ac achlysurol o ddydd i ddydd.
Tra mae clybiau fel Porthmadog yng Nghynghrair Undebol Huws Gray eisoes wedi bod yn eithaf blaengar yn y gwaith yma drwy gynnig gwasanaeth cyhoeddi dwyieithog drwy’r tymor diwethaf, mae clwb pêl-droed Aberystwyth yn cynnig colofn Gymraeg o fewn eu rhaglen ar gyfer eu gemau yn yr Uwch Gynghrair.
Mae clwb Wrecsam hefyd wedi bod yn arloesol yn eu defnydd o’r iaith wrth gynnig gwasanaeth dwyieithog yn y cyhoeddiadau ar y Cae Ras.
Daw’r gwasanaeth yma o dan ofalaeth Dafydd Roberts, Dylan Ellis ac Ifan Jones.
Yn ogystal, fe geir colofn Gymraeg gan Dafydd Roberts ar wefan y clwb yn achlysurol yn cyfeirio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg am ddigwyddiadau a hanes y clwb ar y Cae Ras.
Os gall ein Cymdeithas Bêl-droed ddangos y ffordd inni fel y gwnaethpwyd yn Ffrainc, yna mae’r sylfaen wedi ei osod i glybiau efelychu hyn a defnyddio’r Gymraeg yn fwy gweithredol ac yn gyson o fewn eu gweithgareddau a’u cysylltiadau cyhoeddus.
Fodd bynnag, dwi ddim mor argyhoeddedig fod y posteri sy’n hysbysu gemau yn lleol, ar hyd a lled Cymru, yn gwneud cymaint o ddefnydd o’r iaith ac y gallant a hwyrach mai dyma’r cam nesaf y gellir gwella arno.
Fe fyddai’n ddiddorol hefyd dod i ddeall faint o raglenni clybiau, fel un Aberystwyth, (a Threffynnon y tymor yma), sydd yn cynnig colofn Gymraeg i’w darllenwyr.
Faint o dimau ydych chi yn gwybod amdanynt sydd yn ymestyn allan i’w cymdeithas ac yn fwy parod i hybu’r Gymraeg, yn gyhoeddus drwy gyhoeddiadau, yn y rhaglen neu drwy eu gwefan?
Diddorol fyddai clywed eich ymateb.