Pêl-droed

RSS Icon
19 Awst 2016

Llandudno i ddangos a ellir codi’n uwch na’r trydydd safle

RHANNU’N ddwy y mae gêmau yr wythnos hon rhwng y Sadwrn a’r Sul.  Y gêm y mae Sgorio wedi ei dewis i’w dangos yw’r un ddiwedd bnawn yfory lle mae Llandudno yn croesawu’r pencampwyr.

Cystal gêm â’r un i’w dewis mae’n siŵr a Dylan Ebenezer a’r criw a gwell gobaith am gôl neu goliau i’w trafod na gêm gyntaf y tymor yng Nghaerfyrddin.

Gem ddi-sgôr oedd honno rhwng y Rhyl a Llandudno hefyd a thîm y claerwynion yn dangos fod peth mwy o ruddin ynddyn nhw ar ddechrau tymor newydd. Mi allen nhw fod wedi ennill, ond ar y llaw arall gallai Llandudno fod wedi ei chipio hi hefyd.

Ar eu tomen eu hunain ym Mharc Maesdu mi fydd tîm Alan Morgan yn fwy creadigol, o bosib’. Rhaid cofio wrth gwrs mai’r Seintiau sydd yno newydd ddechrau ar dymor arall yn ennill gêm yn erbyn Aberystwyth.  Da oedd gweld Aeron Edwards yn ôl i dîm Croesoswallt wedi’r anaf a gafodd yn yng nghystadleuaeth Ewrop ac yn bygwth unwaith eto.

Chafodd y Seintiau mo’u ffordd eu hunain yn Park Hall a 2-1 oedd hi yn y diwedd, digon i rai ddweud eu bod ar eu ffordd i ennill y bencampwriaeth unwaith yn rhagor.
Llandudno all roi rhwystr bychan yn eu ffordd yr wythnos hon.

Mi wnaethon nhw eu dal i gêm gyfartal yn eu gêm gyntaf yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf,  oddi cartref, ac yna colli o drwch blewyn 3-4 yn y gêm yn Llandudno.

Mi fydden nhw’n gwneud yn dda iawn i’w chadw hi’n gêm gyfartal y tro hwn a dal i anelu am le uwch na’r trydydd safle yn y tabl erbyn diwedd y tymor.  Er mae hynny’n obeithiol tu hwnt.

Gêm gartref sydd gan y Drenewydd eto, wedi dal y Bala i gêm gyfartal ddi-sgôr y Sadwrn diwethaf.  Oni bai am berfformiad a hanner gan golwr gwŷr Maes Tegid, Alex Lynch, oedd yn chwarae yn lle Ashley Morris, mi fyddai’r Drenewydd wedi curo. Y tro hwn Caerfyrddin sydd ym Mharch Latham a hwythau hefyd wedi rhwystro Gap Cei Connah yn y Waun Dew i’w chadw’n ddi-sgôr. Gan y Drenewydd y bydd y fantais y tro hwn ac os na fydd golwr y Cei yn llwyddo i’w hatal mi ddylai tîm Chris Hughes gael buddugoliaeth.

Trydedd gêm y Sadwrn yw honno yn y Rhyl, yn erbyn Derwyddon Cefn. Fu ond y dim i’r Derwyddon fachu gêm gyfartal ym Mangor ar noson agoriadol y tymor ond colli a wnaethon nhw o 2-1.  Mae bechgyn Huw Griffiths yn ddigon bywiog a galluog ac mi fyddan nhw’n siŵr o greu problemau i’r Rhyl.

Gan Airbus ar newydd wedd yr oedd y dasg y Sadwrn diwethaf o sodro tîm newydd yr Uwch Gynghrair, Met Caerdydd. Mi wnaethon nhw hynny er cael a chael oedd hi wrth i’r newydd-ddyfodiaid ymosod yn ddi-baid yn yr ail hanner ym Mrychdyn. 
Aberystwyth sy’n ymweld y Sul hwn ac efallai y bydd bechgyn Coedlan y Parc yn gwneud digon i gael gêm gyfartal neu hyd yn oed yn cipio’r triphwynt os bydd lwc o’u plaid.

Yr hen elynion Bangor a Gap Cei Connah sydd wrthi yn Nantporth gydag Andy Legg yn gobeithio cael y gorau ar yr Ewropeaidd Andy Morrison. Fel Airbus mae Bangor wedi gweld newid mawr a dau o’r enwau oedd yn boeth ar restr y tîm a sgoriodd iddyn nhw.

Dyna fydd galwad Andy Legg unwaith eto, i’r bechgyn newydd danio ar bedwar plwg.
Mae Met Caerdydd yn cael chwarae gartref yr wythnos hon a’r Bala yn gorfod teithio eto. Mae’n bosib y bydd gwell siap ar hogiau Colin Caton yn y gêm hon, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn well neu mi fydd y newydd-ddyfodiaid yn troi’r sgriw.

 

Rhannu |