Pêl-droed
Ystadegau yn arwain at drin cefnogwyr fel gwartheg!
ANODD ydi deall rhai penderfyniadau o fewn y byd pêl-droed!
Ar ddiwedd mis Medi fe fydd Wrecsam yn wynebu Caer yn y Gynghrair Genedlaethol, ar y Cae Ras, mewn gêm ddarbi arall.
Ac, fel y pedair gêm ddarbi ddiwethaf yn eu hanes yn y gorffennol, mae’r gêm yma wedi ei nodi fel gêm sydd angen mwy o fesuriadau diogelwch na gemau arferol.
Golyga hyn y bydd cefnogwyr Caer yn gorfod teithio i’r gêm mewn bysiau penodol, gan gychwyn o Gaer, a derbyn eu tocyn i’r gêm ar y bws.
Waeth neb ac unrhyw un feddwl y caiff wneud ei ffordd ei hun yno, i gefnogi Caer heb deithio yn y modd yma.
Felly, os ydych yn byw ar gyrion Wrecsam, ac yn cefnogi Caer, bydd rhaid i chi dethio i Gaer, yna teithio i Wrecsam ar y bws, mynd yn ôl i Gaer, cyn teithio adref i gyrion Wecsam ar ddiwedd y dydd.
Gyda llaw, bydd yr yn drefn yn cael ei weithredu pan fydd Wrecsam yn teithio i Gaer.
Yr heddlu sydd yn gwneud y penderfyniadau yma gyda chydweithrediad y ddau glwb, er bod yna gyhoeddiad wedi ei wneud i’r perwyl os fydd y ddwy gêm rhwng y ddau dîm y tymor yma yn rhydd o unrhyw ddigwyddiad yna fe ellir ailystyried y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Dywed yr heddlu fod ymddygiad wedi gwella llawer ers i’r drefn yma ddod i fodolaeth bedair blynedd yn ôl.
Fodd bynnag, trist ydi nodi nad oes gan yr heddlu, nag unrhyw un arall, well drefn ar bethau nag i orfodi cefnogwyr cyfrifol i gael eu symud fel gwartheg i’r gemau a hyn oherwydd ymddygiad carfan fechan o bobol a fu’n achosi helynt yn y gorffennol.
Wedi’r cwbl, nid sôn am dyrfaoedd o ddegau o filoedd yr ydym yn y gemau yma, ond ychydig o filoedd.
Ond ymddengys mai’r hyn sydd yn effeithio ar ymateb yr awdurdodau ydi’r maint cyfraneddol o gefnogwyr sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai a all greu trafferth.
Er enghraifft, yn y gorffennol adnabuwyd ugain o gefnogwyr Wrecsam fel rhai a oedd gyda gorchymyn o waharddiad allan o dorf o dair mil a hanner ar gyfartaledd, a bod yna tua chant o’r math yma o gefnogwyr, o’r ddau dîm mewn gêm yn y gorffennol, sef 3%.
Hyn i’w gymharu â chwe deg o gefnogwyr a gafodd eu gwahardd o Manchester United, allan o dorf o s70,000 ar gyfartaledd (sef 0.08%).
Felly dyna’r math o ystadegau sydd yn cael eu defnyddio i benderfynu pa mor berygl ydi bod mewn gemau pêl-droed.
Yn anffodus, mae’n ymddangos fod angen hefyd i drin, i ddefnyddio esiampl Wrecsam a Chaer, 97% o gefnogwyr cyfrifol sy’n parchu’r gyfraith fel pobol sy’n cael eu trin gan yr awdurdodau fel pobol ddirmygus, na chwaith yn derbyn parch na chwrteisi.
Ar ddiwedd y dydd, mae’n bwysig inni nodi, fod yr awdurdodau yn credu fod angen yr holl fesurau, nid i drin â 3% o bobol (sef yr ystadegau), ond i drin a thua dim mwy o bosibl na chant!
Tra bo angen sicrhau diogelwch pawb sydd yn mynychu gemau pêl-droed, siawns y gellir hefyd sicrhau parch at y rhai sydd am deithio i’r gemau a bod yna well trefniant ar gael nac a geir yn y cynlluniau presennol ar gyfer y gemau rhwng Wrecsam a Chaer.
Wedi’r cwbl, mae’r heddlu ac awdurdodau eraill yn disgwyl cael eu trin gyda pharch a chwrteisi, hwyrach y dylai hwythau hefyd feddwl am barchu pobol eraill sydd erioed wedi creu trafferthion, yn yr un modd.
Y tymor diwethaf, roedd torf o ryw chwe mil a hanner ar y Cae Ras ar gyfer y gêm gyfatebol ym mis Mawrth.
Fe fyddai’r ystadegau felly yn dangos , o ystyried cant o gefnogwyr trafferthus, mai dim ond tua 1.5% o bobol a fyddai’n creu helyntion.
Y sylw amlwg i wneud, os na dwi’n hollol naïf, ydi synnu na all yr heddlu a/ neu’r awdurdodau ymdrin â thua chant o bobol, heb yr angen am yr holl drefniadau teithio sydd ger ein bron yn y gemau yma.