Pêl-droed

RSS Icon
15 Awst 2016

All Llandudno gyrraedd yr uchelfannau unwaith eto?

Mae cyn chwaraewr Cymru Owain Tudur Jones yn credu y bydd MBi Llandudno yn wynebu tasg anodd i gyrraedd yr un uchelfannau â'u tymor cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru, wrth iddyn nhw ddechrau eu hail dymor yn y gynghrair.

Gorffennodd tîm Alan Morgan yn y drydydd safle y llynedd i ennill eu lle yng Nghwpan Europa UEFA.

Colli yn y rownd gyntaf yn erbyn cewri Sweden IFK Gothenburg oedd hanes Llandudno yn eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop.

Bydd Tudur Jones, y cyn-chwaraewr canol cae dros Fangor, Abertawe ac Inverness Caledonian Thistle, ar yr ystlys ym Mharc Maesdu ar gyfer Sgorio, wrth i Landudno groesawu'r pencampwyr, Y Seintiau Newydd, ar ddydd Sadwrn, 20 Awst (cic gyntaf, 5.15).

Meddai Owain: "Mae Llandudno yn mynd i'w ffeindio hi'n anodd gwneud yn union fel 'naethon nhw'r tymor diwethaf.

"Mae lot o dimoedd eraill wedi buddsoddi mewn chwaraewyr dros yr haf ac wedi cryfhau eu carfan.

"Y nod yw peidio â sefyll yn stond ond i gymryd cam ymhellach.

"Ond os gallan nhw chwarae efo'r un rhyddid ag y gwnaethon nhw'r llynedd, pan oedden nhw'n chwa o awyr iach yn y gynghrair, mae ganddyn nhw gyfle i orffen ymhlith y safleoedd uchel."

Y cewri o Groesoswallt, Y Seintiau, fydd yr ymwelwyr i Barc Maesdu, lle byddan nhw'n gobeithio parhau â'u dechrau da i'r tymor, wrth iddynt anelu at ennill eu chweched bencampwriaeth yn olynol.

"Mae'r Seintiau mewn sefyllfa ddigon tebyg i Landudno, lle mae'n rhaid iddyn nhw symud ymlaen.

"Mae cwpl o chwaraewyr wedi'u gadael, ond maen nhw wedi dod â Tom Matthews, Steve Saunders a Jon Routledge i mewn.

"Ac weithiau mae angen gwneud newidiadau er mwyn symud ymlaen.

"Yn sicr, nhw yw'r tîm i guro ond maen nhw'n gorfod ymdopi efo'r pwysau yna.

"Ond, mae Llandudno yn dîm cryf gartref, a dwi'n rhyw ddisgwyl gweld y gêm yn gorffen dwy gôl yr un."

Ers ymddeol o'r gamp ym mis Ionawr 2015, mae Owain wedi mwynhau ei rôl newydd yn trin a thrafod pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru.

"Dwi wrth fy modd achos dyna'r peth agosaf at chwarae, ac mae'n golygu fy mod i'n dal i  baratoi at gêm bob penwythnos," meddai Owain o Benrhosgarnedd, ger Bangor.

"Roedd gweithio yn Ffrainc a gweld Cymru yn creu cymaint o hanes yn Euro 2016 wedi ei gwneud hi'n fwy sbesial i fi hefyd."

Yn ogystal â'r gemau byw ddydd Sadwrn, bydd Sgorio hefyd yn dangos uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru Dafabet mewn rhaglen wythnosol bob nos Lun.

Bydd y gyfres uchafbwyntiau hefyd yn cynnwys y gorau o gynghrair La Liga gan ddilyn hynt a helynt tymor Gareth Bale gyda Real Madrid a'r goliau gorau o Sbaen.

Sgorio: Llandudno v Y Seintiau Newydd
Dydd Sadwrn 20 Awst 5.00, S4C   (Cic gyntaf, 5.15)

Sylwebaeth Saesneg ar gael
Gwe ddarllediad am 4.30 ar s4c.cymru                  

Hefyd, Sgorio bob nos Lun am 6.30, S4C     

Ar-lein ar alw ar s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill   

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |