Pêl-droed

RSS Icon
08 Awst 2016

Awr fawr myfyrwyr Caerdydd ar gychwyn ym Mrychdyn

Tymor newydd a threfn newydd yw hi y tro hwn. Un gêm nos Wener, dwy ddydd Sadwrn a thair dydd Sul ac ar y Sadwrn a’r Sul y bydd gweddill gêmau y mis hwn nes y bydd gêmau ar nos Fawrth yn dechrau hefyd.

Yn sicr yr enw newydd, a dim ond un sydd, yw’r dirgelwch y tro hwn. Metropolitan Caerdydd yw hwnnw, y peth agosaf i glwb proffesiynol y medrwch ei gael meddai rhywun. Myfyrwyr ydyn nhw a hyfforddwyr gyda graddau hyd y gwelwch chi sy’n eu harwain. Eu rheolwr yw’r Athro Robyn Jones sydd â’i wreiddiau yn yr Wyddgrug ac Ysgol Maes Garmon.

Prin yw’r wybodaeth amdanyn nhw. Wrth fynd o linc ar safle we yr Uwch Gynghrair iddyn nhw mae neges yn dod i’r golwg yn egluro nad oes hawl i fynd ymhellach heb rhyw glo cyfrin i’w hagor. Clic arall ar wefan yr Uwch Gynghrair a dyw’r clwb ddim yn cael ei gynnwys nac enwau’r chwaraewyr, er nad yw’r newidiadau diweddar wedi eu cynnwys yn y clybiau eraill.

Ar dudalen Facebook Y Clwb Pêl-droed Cymraeg maen nhw wedi cofio am Cardiff Met. Mi aethon nhw i gael gair gyda golwr y clwb, Will Fuller. Yn bendant, maen nhw wedi bod yn paratoi ac yn teimlo’n eiddgar i ddechrau cymal newydd yn eu hanes. Mae’n ymddangos mai wynebu’r Seintiau fydd eu hawr fawr. Bryd hynny y cawn ni weld pa mor ddawnus yw bechgyn Cyncoed, y sefydliad mae rhai fel Dai Davies, y golwr gynt, yn ei gofio mor dda.

Mi gawson ni eu gweld ar y teledu y tymor diwethaf, yng Nghwpan Cymru. Gap Cei Connah oedd yno a thîm Andy Morrison aeth a hi y diwrnod hwnnw ond roedd digon o ysbryd yn y tîm o Gaerdydd i roi her i unrhyw glwb.

Taith i Frychdyn sy’n eu wynebu y Sul hwn i brofi blas Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf. Mae tipyn o newid wedi bod yn rhengoedd Airbus, er iddyn nhw ennill eu gêm gyfeillgar ddiwethaf yn erbyn Morcambe. Mi wnaeth Met Caerdydd hynny hefyd, yn rhoi eithaf cweir i Bort Talbot, coffa da amdanyn nhw, 5-1.

Fabio Bassangue yw un enw newydd sydd gan Airbus a all roi mwy o fin yn eu chwarae. Yn ôl Andy Preece mae wedi dewis dod atyn nhw yn hytrach na chlybiau mwy.

Bangor sy’n cael y fraint o agor y tymor drwy chwarae nos Wener yn erbyn Derwyddon Cefn sy’n ôl yn yr Uwch Gynghrair wedi blwyddyn yn absennol. Mae Huw Griffiths, a fu ym Mangor ar un cyfnod, wedi ailwampio peth ar y Derwyddon. A fydd yn ddigon i roi Bangor yn eu lle yw’r cwestiwn.

Doedd y nodyn a darodd Andy Legg am ei dîm newydd ddim yn un gor-ganmolus. Dydyn nhw ddim digon ffit, meddai, o’r olwg gyntaf a gafodd yn eu gwylio. Soniodd yn arbennig am Jamie Reed sydd newydd arwyddo i’r Dinasyddion am yr ail dro. Mae dau neu dri o enwau newydd yno hefyd a gwaith y dyn plaen ei eiriau fydd mowldio tîm o’r chwaraewyr sydd ganddo i ddewis ohonyn nhw.

Yn rhyfeddol, mae Bangor yn chwarae gartref bum gwaith yn olynol ar ddechrau’r tymor. Os na fyddan nhw’n siapio, yn sicr mi fydd y dorf yn siwr o roi gwybod i Andy Legg yn ddigon buan.

Gêm gyntaf Sgorio yw’r un yng Nghaerfyrddin ddiwedd bnawn Sadwrn pan fydd Gap Cei Connah yn ymweld. Wedi eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop mi fydd gwynt yn hwyliau tîm Andy Morrison. Does dim newid mawr yn hanes Caerfyrddin ond mi fydd Mark Aizlewood yn disgwyl i’w dîm ddangos eu dannedd ar ddiwrnod cynta’r tymor.

Gêmau eraill: Y Drenewyd v Y Bala (Sadwrn). Dydd Sul: Y Rhyl v Llandudno; Y Seintiau Newydd v Aberystwyth.

 

 

 


 

Rhannu |