Pêl-droed
Andy Legg yw'r un all roi sbarc yn y gynghrair i Fangor
Glywsoch chi am griw o gefnogwyr Cymreig o'r gogledd yn cyfarfod Andy Legg yn Ffrainc adeg yr Euros?
Yr unig le yr oedd wrth ei fodd yn mynd pan oedd yn chwarae a rheoli Llanelli oedd Bangor, meddai, am ei fod yn cael ymateb cadarn gan y dorf.
Doedd yr un o'r criw yn meddwl y bydden nhw'n clywed mai Andy Legg fyddai rheolwr newydd Bangor wythnos go dda cyn dechrau tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru.
Am yr ail wythnos yn olynol clwb Bangor sy'n denu sylw.
Yr wythnos diwethaf am fod Neville Powell wedi mynd, a'r wythnos hon am fod rheolwyr newydd y clwb wedi tynnu cwningen annisgwyl o'r het.
Yr unig le fyddai'n ei ddenu'n ôl i fod â rhan mewn pêl-droed oedd Bangor, oedd sylw Andy Legg.
Dyma'r dyn a gipiodd gwpan Cymru oddi ar Fangor yn 2011 neu mi fydden nhw wedi ei hennill am y pedwerydd tro.
Mae'n ddifyr iawn fod y bobl newydd sydd wrth y llyw ym Mangor wedi ymwrthod â'r demtasiwn o fynd i'r dwyrain i chwilio am olynydd Powell.
Mi fydd Legg yn gorfod dygymod â'r chwaraewyr sydd wedi eu dewis yn barod.
Efallai y bydd y rhai oedd yn pendroni cyn arwyddo y tymor hwn yn llawer hapusach eu byd wrth weld pwy fydd yn eu harwain.
Does dim dwywaith nad yw Andy Legg yn gymeriad ond un gyda phrofiad blynyddoedd yn gefn iddo.
Chwaraeodd i Abertawe, Notts County, Birmingham City, Ipswich Town, Reading, Peterborough United a Chaerdydd.
Mi gafodd chwech o gapiau i Gymru a'r nodwedd hynotaf o'i chwarae oedd ei dafliad aruthrol o hir.
Ymunodd â Llanelli fel chwaraewr yn 2007 ac mi ddaeth yn rheolwr ddwy flynedd wedyn, hyn i gyd pan oedd wedi cael canser cyn troi atyn nhw.
Yn 2012 doedd o ddim yn teimlo ei fod yn cael cefnogaeth ei gadeirydd ac mi adawodd.
Wnaeth o ddim a phêl-droed ers hynny tan yr wythnos hon.
Yn barod mae wedi cael croeso brwd gan gefnogwyr Bangor a'r gêm ac Andy Legg yw un o'r bobl rheiny all roi sbarc o'r newydd yn Uwch Gynghrair Cymru heb sôn am Fangor.
Does ond gobeithio y bydd yn medru denu digon o ddilynwyr i lenwi tipyn ar y terasau gwag.
Ei gêm gyntaf yn ôl yn UGC fydd wythnos i heno pan fydd Bangor yn chwarae gartref yn erbyn Derwyddon Cefn sydd yn dychweld i'r gynghrair wedi blwyddyn o absenoldeb.
Mi fydd yn noson ddifyr yn Nantporth.
* Mae cryn symud wedi bod ymhlith y chwaraewyr cyn dechrau'r tymor.
Bachodd Huw Griffiths, rheolwr Derwyddon Cefn dri o chwaraewyr newydd.
Er iddo adael y Rhyl y tymor diwetha mae'r blaenwr mawr Aaron Bowen yn ôl yn yr Uwch Gynghrair gyda'r Derwyddon.
Dau arall sydd yno o'r newydd yw Fisnik Hajdari, 19 oed a fu ar lyfrau'r Seintiau Newydd, a Kyle Parle a fu yn y Bala am ddau funud.
Gyda Gap Cei Connah oedd o ddiwethaf.
Wedi i Carl Lamb a Josh Bull ymuno ag Aberystwyth wythnos yn ôl mae tri arall wedi eu dilyn - Kurtis March o Port Talbot a Dominic Richards a Ryan Wollacott o Stourport Swifts yng nghynghrair Canolbarth Lloegr.