Pêl-droed
Dangos y drws i reolwr a gododd yr ysbryd ym Mangor
GWTA dair wythnos cyn dechrau’r tymor mae un o glybiau ffyddlon yr Uwch Gynghrair wedi colli ei reolwr.
Mae hi’n ddigon posibl fod hynny i’w ddisgwyl yn hanes Neville Powell a Bangor am fod gan y clwb berchnogion newydd ers deufis. Dechrau gyda llechen lân maen nhw am ei wneud mae’n siŵr er mor hwyr yn y dydd yw hi.
Yn eu gêm gyfeillgar y Sadwrn diwethaf roedd rhai yn holi ble roedd y rheolwr. Erbyn pnawn Llun daeth yr ateb. Roedd yr un a enillodd sawl cwpan a’r bencampwriaeth unwaith wedi ffarwelio â Nantporth wedi rhoi blynyd-doedd o wasanaeth i’w glwb.
Fel cyn-chwaraewr i Fangor symudodd o fod yn rhe-olwr yng Nghei Connah am bedair blynedd ar ddeg i reoli Bangor yn 2007. Mi welodd ddyddiau da a llewyrchus. Am dair blynedd yn olynol rhwng 2008 a 2010 mi enillodd y clwb Gwpan Cymru. Flwyddyn wedi hynny mi gipion nhw’r bencampwriaeth am y tro cyntaf o afael y Seintiau Newydd a does neb wedi gwneud hynny wedyn.
Oherwydd eu buddugoliaethau mi gawson nhw gyfnod cyson yng nghystadlaethau Ewrop. Powell oedd yr unig reolwr a chwaraewr i Fangor i ennill un o’u rowndiau yng Nghynghrair Europa.
Ond wnaeth y dyddiau da ddim para ac yn y blynyddoedd diwethaf mi fethodd Bangor a mynd i Ewrop ac aeth yr arian yn brinach oherwydd hynny. Mae’r perchnogion newydd – o ardal Caer – am weld y clwb yn cael hwyl arni yn y gynghrair er mwyn mynd i Ewrop eto.
Dyw hi ddim yn dechrau’n rhy dda iddyn nhw oherwydd y sôn yw fod tri o’r chwaraewyr a arwyddodd iddyn nhw yn ddiweddar wedi gadael cyn i’r tymor ddechrau. Mi fydd yn ras i ddod o hyd i rai yn eu lle os na fydd cyfaddawdu.
Mi fydd gêm dysteb i Neville Powell ym Mangor cyn diwedd y tymor. Er fod llawer o’r cefnogwyr yn credu ei fod wedi aros yn rhy hir mi fydd yn siŵr o gael torf dda i’r gêm honno i ddiolch iddo am ei gyfraniad gloyw i’r clwb.
O safbwynt clybiau Cymru yn Ewrop eleni, daeth y bennod honno i ben nos Iau diwethaf yn y Rhyl.
Mi fethodd Gap Cei Connah â chael y gorau ar dîm ifanc FK Vojvodina o Serbia. Ar ddiwedd y gêm roedd hi’n 1-2 a 3-1 dros ddau gymal. Mi fyddai rhai’n dweud fod Cei Connah wedi bod yn anlwcus gyda’r ddwy gôl yn y Belle Vue ond drwodd a thro doedden nhw ddim yn ddigon da i fynd ymlaen.
Mae symud o hyd rhwng y clybiau. Mynd yn ei ôl i’r Drenewydd y mae Andy Jones a fu’n gapten ym Mharc Latham cyn symud at Airbus ddwy flynedd yn ôl.
Newid gwaith yw’r rheswm a bod y Drenewydd yn fwy cyfleus i’r cefnwr sydd wedi chwarae 106 o gêmau yn yr Uwch Gynghrair.
Ar grwydr eto y mae Jamie Reid a fu ar lyfrau Llandudno y tymor diwethaf wedi bod yn Aberystwyth a chlybiau eraill cyn hynny.
Yn sgoriwr o fri, mi fu ym Mangor rai tymhorau’n ol ac roedd yn ei ôl yno y Sadwrn diwethaf yn chwarae iddyn nhw mewn gêm gyfeillgar.
Ddechrau’r wythnos roedd yn dal heb arwyddo iddyn nhw. Fydd golwr Airbus ddim yn aros ym Mrychdyn.
Mae James Coates wedi ymuno â Droylsden a Ryan Neild wedi arwyddo yn ei le – enw newydd i’r Uwch Gynghrair sy’n dod o Witton Albion.