Pêl-droed

RSS Icon
28 Gorffennaf 2016

Colli Allen i Stoke

MAE `na dipyn o wahaniaeth rhwng y £13m a dalwyd gan Stoke City a’r £8m gynigiwyd gan Abertawe a’r gwahaniaeth hwnnw yw’r prif reswm pam fod chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, wedi symud o Lerpwl i ymuno gyda thîm Mark Hughes yn hytrach na dychwelyd i’w hen gynefin.

Roedd hi’n amlwg i ddilynwyr y bêl gron, yma yng Nghymru a thu hwnt i Glawdd Offa ac ymhell cyn ei berfformiadau clodwiw yn Ewro 2016, na fyddai Allen yn aros ar lannau’r Afon Merswy, o feddwl na chafodd fawr o gyfle i arddangos ei ddoniau dan reolaeth Jürgen Klopp yn Anfield.

Tra byddai £8m wedi ei weld, i raddau, yn bris teg am Allen cyn ei ymdrechion yn Ffrainc o gofio taw dim ond blwyddyn oedd yn weddill ar ei gytundeb gyda Lerpwl, ond, wedi iddo gael ei enwebu ymhlith chwaraewyr gorau Ewro 2106, does `na ddim amheuaeth nad yw gwerth y chwaraewr o Sir Benfro wedi cynyddu’n sylweddol.

I bawb sydd wedi dilyn gyrfa Allen ers iddo chwarae ambell gêm yn nyddiau rheolaeth Kenny Jackett, bu’n amlwg iddo fod yn dalent arbennig. Fel Cymro, bu rheolwr Stoke, cyn-reolwr Cymru, Mark Hughes, yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad chwaraewr sy’n gaffaeliad gwerthfawr i’r Potwyr.

Mae Allen yn ymuno gyda charfan gyffrous yn Stoke â’r atgof yn fyw am gyd-chwaraewr canol cae newydd iddo, Xherdan Shaqiri, yn sgorio gôl ryfeddol i’r Swistir yn erbyn Gwlad Pwyl yn Ewro 2106. Er gwaetha’r siom o weld methiant Abertawe i ddenu Allen nôl i Dde Cymru, mae’n rhaid i bawb ohonom ddymuno’r gorau i’r Cymro Cymraeg, yn y gobaith y gall ei brofiad gynyddu er budd i’n tîm cenedlaethol, ond iddo beidio cael diwrnod llewyrchus yn Stoke ar 29 Hydref pan fydd yr Elyrch yn teithio yno i herio’r Potwyr.

 

Rhannu |