Pêl-droed
APOEL Nicosia yn feistri ar y Seintiau
GORFFWYS fydd hi i'r Seintiau Newydd tan ddechrau’r tymor nesaf ar ôl eu cweir nos Fawrth. Mi ddaeth eu taith yng Nghynghrair y Pencampwyr i ben wedi ymdrech lew yn amddiffyn eu gôl yn Nicosia yn erbyn hen wariars y gystadleuaeth, heb fawr o gyfle i sgorio y pen arall.
Methodd APOEL Nicosia â chael y bêl i’r rhwyd yn yr hanner cyntaf, a rhoi hynny’n rhoi mymryn lleiaf o obaith i’r Seintiau ar gyfer yr ail hanner.
Eto, dechrau fel y gorffennodd yr hanner cyntaf a wnaeth hi gyda’r crysau melyn yn brasgamu’n rhwydd am y gôl.Mi fu’n rhaid aros am rhyw awr cyn i’r drws agor iddyn nhw. Ar un ystyr roedd hi’n anochel ond digwydd taro Routledge a wnaeth cic Alexandrou wedi i’r Seintiau glirio ac aeth heibio Paul Harrison yn hawdd.
Roedden nhw’n dal i bwyso a’u safon yn codi wrth i Alexandrou groesi o’r chwith i Sotiriou, a dwyllodd ddau gefnwr y Seintiau yn ddigon hamddenol, i’w tharo i’r gôl.
Doedd un gôl gan y Seintiau ddim digon bellach, ond doedd dim hanes ohoni’n dod beth bynnag.
Yn y gwres APOEL oedd yn rheoli pob dim a heb fod angen ildiodd Saunders gic o’r smotyn ar ddiwedd y gêm. Methu’n llwyr i arbed cic De Vincenti a wnaeth Harrison. Roedd hi’n 3-0 rhwng y ddau gymal ac ni allai neb ddweud nad oedd y tîm o Gyprus yn haeddu’r fuddugoliaeth.
Roedd y cyfan yn dangos cymaint o fwlch sydd rhwng safon yr Uwch Gynghrair – hyd yn oed gyda’r Seintiau yn broffesiyniol – a thimau gorau Ewrop. Sut mae cau’r agendor hwnnw yw’r cwestiwn?
Neithiwr roedd Gap Cei Connah yn chwarae’r ail gymal yn ail rownd gymhwyso Cwpan Europa yn erbyn FK Vojvodina o Serbia yn y Rhyl. Mi fu bron iddyn nhw ddod yn ôl nos Iau diwethaf gyda gêm ddisgôr ond mi lwyddodd y Serbiaid i sgorio ym munudau ola’r gêm.
Mae Ryan Edwards, un o ffyddloniaid canol cae Bangor, wedi gadael y clwb. Roedd wedi ei anafu y tymor diwethaf mewn gêm yn erbyn Hwlffordd ym mis Chwefror a wnaeth o ddim chwarae iddyn nhw ar ôl hynny.
Enw newydd arall fydd gan y Dinasyddion yw Jacques Kpohomouh, cefnwr o Irlam FC a welwyd yn chwarae i Fangor gyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Wrecsam.Pedwar wyneb newydd fydd ar lyfrau’r Rhyl yw Kieran Hilditch, Oliver Buckley, Mike Sharples a Tom Hartley.
Cefnwr yw Hilditch sy’n ymuno o Hotspur Caergybi a blaenwr yw Buckley o Meliden FC gyfagos. Mae Sharples wedi bod yn chwarae i Ddinbych yn y cefn. Mi gafodd yrfa amrywiol hyd yma yn dechrau yn Rhuthun cyn symud i Landyrnog a Dinbych.Mi ymunodd â’r Bala ond ei roi ar fenthyg i Rhos Aelwyd a wnaethon nhw cyn iddo symud i Gap Cei Connah a threulio cyfnod gyda’r Fflint. Ddwywaith yn unig mae o wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.Gweld Tom Hartley yn chwarae i FC United Manceinion yn ddiweddar yn erbyn y Rhyl a wnaeth eu rheolwr, Niall McGuinness.
Cefnwr chwith yw Heartley ac roedd yn nhîm Cammell Laird 1907 am y ddau dymor diwethaf.