Pêl-droed

RSS Icon
27 Gorffennaf 2016

Dod yn ol

WRTH i’r chwaraewyr fu’n rhan o gyffro Ewro 2016 gymryd seibiant byr cyn dychwelyd i’r paratoi go iawn am y tymor newydd, mae yna un aelod o garfan Cymru wedi dychwelyd i’w famwlad yn dilyn cyfnod gyda Fulham.Mae cyn-chwaraewr Abertawe, Jazz Richards, wedi ymuno gyda Chaerdydd gyda Scott Malone yn mynd i’r cyfeiriad arall tra, yn ôl y ddau glwb, bydd dim arian i’w dalu am y naill na’r llall.

Treuliodd Richards ran o’i ieuenctid gyda chlwb y Brifddinas cyn gwneud 51 ymddangosiad i’r Elyrch a chwarae mewn 22 gornest i Fulham y tymor diwethaf.

Er taw dim ond un cyfle, fel eilydd yn erbyn Slofacia, y cafodd Richards i arddangos ei ddoniau draw yn Ffrainc yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ef a Paul Trollope, rheolwr newydd yr Adar Gleision, wedi cael cyfle i gydweithio gyda charfan Cymru dros y misoedd diwethaf.

Yn ôl y sôn, mae perchennog clwb Caerdydd, Vincent Tan, wedi argymell Trollope i ddenu mwy o chwaraewyr ifanc Cymreig i ddod i lechweddau Lecwydd ac mae arwyddo Richards yn gychwyn ar y symudiad hwnnw.Yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol yn cyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016, mae `na ysbryd mwy gwladgarol i’w weld ym mhob haen o’r gamp yma yng Nghymru ac, er gwaetha’i gyfnod gydag Abertawe, mae’n amheus a fydd rhaid i Richards ddioddef llawer o ddirmyg a gwawd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.Tra bod y cyfnod o gemau “cyfeillgar” yn mynd rhagddo, gallwn edrych ymlaen at fwy o fynd a dod ymhlith y clybiau, gyda Kit Symons (gafodd ei eni yn Basingstoke ym 1971 pan oeddwn innau’n byw a gweithio’n y dref honno yn Swydd Hampshire) ar fin dychwelyd hefyd yn rhan o griw hyfforddi’n tîm cenedlaethol dan reolaeth Chris Coleman.

Gydag ond pythefnos cyn gêm gyntaf Caerdydd yn y tymor newydd, oddi cartref yn Birmingham, tybed a fydd aelod arall o garfan Cymru, David Cotterill, yn chwarae dros y gwrthwynebwyr y diwrnod hwnnw neu nôl gyda chlwb y ddinas lle cafodd ei eni a’i fagu? Amser, fel arfer, a ddengys…

Rhannu |