Pêl-droed

RSS Icon
11 Gorffennaf 2016

Gall y Seintiau Newydd greu fwy o hanes bêl-droed Cymru?

Cynhelir rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd ar Mehefin 3, 2017 ond mae'r daith i gyrraedd y rownd honno eisoes wedi cychwyn.

Mae cynrychiolwyr Cymru, Y Seintiau Newydd, eisoes drwodd i'r ail rownd ragbrofol ar ôl curo Tre Penne 5-1 dros ddau gymal yn y rownd ragbrofol gyntaf.

Gwrthwynebwyr y Seintiau yn yr ail rownd yw pencampwyr Cyprus, APOEL. Ond fe fydd y tîm o Nicosia yn fwy o her o lawer i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru.  Yn nhymor 2011-12 mi gyrhaeddodd APOEL rownd wyth olaf Cynghrair y Pencampwyr cyn colli yn y rownd honno i gewri Real Madrid.

Bydd y gêm gymal cyntaf o ail rownd Cwpan y Pencampwyr rhwng Y Seintiau Newydd a Apoel o Cyprus yn cael ei ddangos yn fyw o Neuadd y Parc ar S4C ar nos Fawrth, Gorffennaf 12 am 6.45 (cic gyntaf 7.00).

Wedi iddo gyflwyno gemau Cymru yn fyw ar S4C yn ystod UEFA Euro 2016 yn Ffrainc, bydd Dylan Ebenezer yn dychwelyd i arwain y tîm cyflwyno ar gyfer y gêm.

Dywedodd Dylan Ebenezer: “Ar ôl mis hanesyddol i bêl droed Cymru, mi fydden ni’n gobeithio gweld Y Seintiau Newydd yn creu hanes eu hunain.

“Maen nhw wedi llwyr reoli’r Uwch Gynghrair Dafabet Cymru ers sawl blwyddyn felly fydd y gemau yma yn erbyn APOEL yn siŵr o fod yn her fawr iddyn nhw.”

Gyda'r tîm pêl-droed rhyngwladol yn denu sylw'r byd, a fydd y Seintiau Newydd hefyd yn gallu creu hanes a chymryd cam yn nes at rowndiau grŵp Cynghrair y Pencampwyr?

Y Seintiau Newydd v APOEL
Nos Fawrth, 12 Gorffennaf 6.45pm S4C                 
Sylwebaeth Saesneg                
Gwefan: s4c.cymru/sgorio
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |