Pêl-droed

RSS Icon
07 Gorffennaf 2016

Diwedd y daith ond dechrau un arall

Daeth taith Cymru yn Euro 2016 i ben neithiwr wrth golli 2-0 i Bortiwgal yn y rownd gynderfynol.

Roedd goliau, yn gynnar yn yr ail hanner, gan Ronaldo a Nani yn ddigon i ddiffodd fflam y Dreigiau ar y noson, ond mae perfformiad y tîm, ar ac oddi ar y cae pêl-droed, wedi uno a chodi gobaith y genedl.

A nawr mae'r sylw yn troi ar gemau cymhwyso Cwpan y Byd Rwsia 2018, gyda thîm ifanc Chris Coleman yn Grŵp D, sy'n cynnwys Moldova, Gweriniaeth Iwerddon, Awstria, Serbia a Georgia.

Mae Portiwgal nawr yn symud ymlaen i'r rownd derfynol, lle bydd Ffrainc neu'r Almaen yn eu hwynebu.

Ar ddiwedd noson emosiynol dywedodd  Chris Coleman: "Rydym i gyd wedi ein siomi ond mae'n rhaid i ni gyd fod yn falch.

"Y modd rydym wedi bihafio, y modd mae'r cefnogwyr wedi ymddwyn. Rydym wedi cael ein siâr o ennill, nawr rydym yn cael ein siâr o golli.

"Fe wnaethom ei chael yn anodd yn erbyn eu canol cae nhw… ond allwn i ddim â bod wedi gofyn mwy o'r chwaraewyr."

Ychwanegodd Gareth Bale: "Yn amlwg rydym yn siomedig. Rydym eisiau diolch i'r cefnogwyr.

"Yn amlwg nhw gafodd y gôl gyntaf, ac roedd yr ail yn siomedig.

"Rydym yn genedl falch ac yn falch o beth rydym wedi ei wneud,

"Mae'n rhaid bod yn falch, rydym yn siomedig o beidio â chyrraedd y ffeinal ond rydym yn falch o'r hyn rydym wedi ei wneud, a byddwn yn ail ddechrau ar ôl hyn."

Lluniau gan Andrew Orchard

 

Rhannu |