Pêl-droed

RSS Icon
05 Gorffennaf 2016
Gan LYN EBENEZER

Cymru wedi ennill parch ac edmygedd Ewrop a’r byd

BETH bynnag fydd y canlyniad rhwng Cymru a Phortiwgal nos fory  gall Cymru ddal ei phen yn uchel – yn chwaraewyr, yn Gymdeithas Bêl-droed ac yn gefnogwyr.

Ar y daith enillodd pawb galonnau’r wasg, trigolion y gwahanol drefi lle cynhaliwyd y gemau a chefnogwyr y gwledydd eraill. Beth bynnag fu’r canlyniad ar y cae mae’r Cymry’n enillwyr.

Ar ôl brolio’u tîm aeth y wasg Saesneg ati, yn ôl eu harfer, i ladd ar eu chwaraewyr eu hunain. A’r feirniadaeth honno, mi dybiaf fi, yn gwbl haeddiannol.

Ac aeth mwy nag un ati i gymharu Undeb Pêl-droed Lloegr, agwedd eu chwaraewyr a’u cefnogwyr i’w cymheiriaid Cymreig. Yn y Mail on Sunday cafwyd ymsoddiad di-flewyn ar dafod gan Oliver Holt ar agwedd y Saeson. Tra mae chwaraewyr Cymru’n cymysgu’n rhydd a phawb roedd gan chwaraewyr Lloegr, meddai, bob un ei warchodwr diogelwch eu hunan.

Problem fawr Lloegr, meddai, yw eu hymdeimlad o hawl i ennill, rhyw ddwyfol hawl. Wedi’r gêm drychinebus yn erbyn Gwlad yr Iâ roedd carfan o newyddiadurwyr yn disgwyl am y chwaraewyr er mwyn eu holi. Gwthiwyd pob ‘seren’ fud drwodd gan y gwahanol warchodwyr. Esboniad un o swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Lloegr oedd bod yn rhaid i’r chwaraewyr fynd heibio’n ddiymdroi

 Roedd dau fws yn aros y tu allan ac roedd hi’n bwysig iddynt fyrddio’r bws iawn. Ar un bws, meddai Holt, roedd hysbyseb mewn llythrennau breision yn cyhoeddi ‘Come on, Iceland!’ Hyd yn oed i’r twpaf o Sais a fedrai ddarllen doedd dim perygl iddo fyrddio’r bws anghywir.

Dydi’r agwedd drahaus ddim yn gorffen gyda’r chwaraewyr a’r swyddogion. Sylw cyflwynydd ITV, Mark Pougatch cyn y gêm oedd, “Dydi ni ddim am fod yn nawddoglyd, ond cofiwch mai Lloegr yn erbyn Gwlad yr Ia yw’r gêm hon.” Hyd yn oed pan aeth Lloegr ar ei hôl hi, cwestiwn Pougatch oedd, “A ddylai Hodgson adael Joe Hart allan yn y rownd go-gyn derfynol?”

Ac meddai Lee Dixon cyn y gêm, a chyn troi at gystwyo tîm Lloegr wedi’r chwibaniad olaf, “Fe wnawn ni eu curo nhw’n hawdd heno.” Dim rhyfedd i Loegr droi i fod yn gyff gwawd. 

Enillodd Cymru, ar y llaw arall, edmygedd pawb. A dyma’i chi wahaniaeth mawr arall. Awgrymodd criw o newyddiadurwyr Saesneg mai peth da fyddai i garfan Lloegr ymweld ag un o fynwentydd rhyfel y Somme. Ni ddaeth ateb. Ond pan oedd carfan Cymru yng Ngwlad Belg dro’n ôl ymwelwyd â Pilkem Ridge. Cwestiwn cyntaf Gareth Bale oedd, ‘Where’s the poet’s grave?’ Fe wyddai am hanes Hedd Wyn. Roedd ei fam wedi adrodd yr hanes hwnnw wrtho.

A dyma’i chi stori ddadlennol. Pan gynhaliwyd pencampwriaeth Cwpan y Byd yn Ne Affrica yn 2010 trefnwyd i chwarewyr Lloegr gyfarfod â Nelson Mandela. Gwrthododd rhai ohonynt fynd.

Mae swyddogion Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi dangos i’r byd beth yw ystyr cysylltiadau cyhoeddus. Mae swyddogion fel Jonathan Ford, Ian Gwyn Hughes a Gwyn Derfel i’w canmol a’u hedmygu.

Yn wir mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru lawer iawn i’w ddysgu i Undeb Rygbi Cymry ar fater Cymreictod, yn arbennig y defnydd o’r iaith Gymraeg mewn hyrwyddo. Bu ymweliad y Cymry â Ffrainc yn chwa o awel iach, y chwaraewyr, y swyddogion a’r cefnogwyr.

Wrth gwrs, hyd yn oed wrth  feirniadu a gwawdio Lloegr mae’n rhaid i ohebwyr Seisnig codi crachen cenedligrwydd rhai o chwaraewyr Cymru. Pwysleisir fod Robson-Kanu, Ashley Williams a Sam Vokes wedi eu geni yn Lloegr.

Ni ofynnwyd pam na wnaeth Lloegr eu dewis. Dim sôn chwaeth am genedligrwydd cyn-chwaraewyr Lloegr fel Terry Butcher (Singapore), Owen Hargreaves (Canada), Rob Jones (Cymru), Tony Dorigo (Awstralia). Luther Blisset a John Barnes (Jamaica). A beth am Raheem Sterling (Jamaica) sydd yn y garfan bresennol? 

A bore dydd Llun cafwyd stori anhygoel am reolwr cysylltiadau cyhoeddus Undeb Pêl-droed Lloegr, Andy Walker yn brolio’r bywyd moethus a fwynhaodd adeg arhosiad Lloegr yn Ffrainc. Yn hytrach na chywilyddio mewn sachliain a lludw disgrifiodd y profiad fel un a wna hybu ei yrfa yn y dyfodol.

Beth bynnag wna ddigwydd i Gymru, bu’r bencampwriaeth Ewropeaidd yn ymarferiad perffaith mewn cyfeillgarwch ac urddas. 

Os na wnawn ennill Pencampwriaeth Ewrop, fe wnaethom ennill parch ac edmygedd Ewrop a’r byd.

Rhannu |