Pêl-droed

RSS Icon
01 Gorffennaf 2016
Gan ANDROW BENNETT

Hanes dau Gareth

Cymru 1 Gogledd Iwerddon 0

“It was the best of times, it was the worst of times”.

Nôl ym mis Hydref y llynedd, dyfynnais y frawddeg uchod yng nghyd-destun y brodyr Ayew yn sgorio yn erbyn ei gilydd pan enillodd Abertawe oddi cartref yn Aston Villa, ond doeddwn i ddim wedi rhagweld cyfle arall i’w defnyddio mor fuan.

Brawddeg agoriadol nofel Charles Dickens “A Tale of Two Cities” yw hi, fel y bydd llawer yn cofio ac, o feddwl mai Paris yw un o’r ddwy ddinas yn nheitl y nofel, roedd y temtasiwn i gyfeirio at y frawddeg unwaith eto’n rhy gryf i’w anwybyddu yn dilyn digwyddiadau nos Sadwrn diwethaf.

Dwy wlad fechan, yn hytrach na dwy ddinas, oedd yn wynebu ei gilydd yn y Parc des Princes amser te ddydd Sadwrn a ninnau Gymry yn gweld trigolion pob rhan o’r Ynys Werdd yn gyfeillion a chefndryd Celtaidd, pa beth bynnag yw eu daliadau gwleidyddol neu grefyddol.

Er cefnogi Cymru, wrth reswm, roedd llawer o ddilynwyr Cymreig yn siomedig i weld y Gwyddelod o Ogledd yr Ynys Werdd yn gadael Ewro 2016 wrth i rai o fawrion y Cyfandir barhau yn y gystadleuaeth ar draul rhai o’r bychain.

Ac, i gyfiawnhau defnyddio’r frawddeg `na o waith Dickens, roedd dau chwaraewr o’r enw Gareth yn herio’i gilydd ar y cae ym Mharis a’r canlyniad yn sicr o arwain yn siom i un ohonyn nhw.

Cyn y digwyddiad allweddol arweiniodd at hynny, fe’n gorfodwyd ninnau Gymry i ddioddef cyfnodau hirion o nerfusrwydd wrth i’r Gwyddelod arddangos tipyn o ysbryd ac, ar adegau, fwy o awch nag Ashley Williams a’i griw.

Mae Chris Coleman a’i gyd-hyfforddwr, Osian Roberts, wedi dweud fwy nag unwaith fod chwaraewyr Cymru’n perfformio’n well pan nad ydyn nhw’n cael eu cyfri’n ffefrynnau cyn y gic gyntaf.

Yn ôl llawer o wybodusion, roedd ein tîm cenedlaethol yn meddu ar fwy a gwell adnoddau ar y cae na’r gwrthwynebwyr cyn y gêm ym Mharis, ond, wrth i’r ornest fynd rhagddi, dechreuodd y fantol wyro i gyfeiriad y Gwyddelod o bryd i’w gilydd.

Er i’r Gwyddelod lwyddo i ffrwyno Gareth Bale a gweddill tîm Cymru am ran helaeth o’r gêm, mae gan chwaraewr mwyaf costus y byd y ddawn i ddyfalbarhau ac i fod yn amyneddgar wrth aros i gyfle ddod i’w ran.

Yn y cyfamser, ryn ni wedi gweld chwaraewr Portiwgal a chydymaith Bale yn nhîm Real Madrid, Cristiano Ronaldo, yn ymddangos yn hynod rhwystredig tan gêm gyfartal, 3-3, ei dîm yn eu gêm olaf yng Ngrŵp F, yn erbyn Hwngari, pan sgoriodd cyn-chwaraewr Manchester United ddwywaith.

Tra bod Ronaldo yn amlwg yn botsiwr o’r radd uchaf, y dyddiau hyn yn ymddangos fel ei fod yn dibynnu i raddau cynyddol ar waith caled ei gymdeithion, mae Bale yn weithiwr dygn ar y cae, yn cyflawni ei ddogn o’r gwaith caib a rhaw ar hyd y 90 munud ym mhob gornest.

Gorfodwyd Bale a’i gyd-chwaraewyr yn bellach a phellach yn ôl i’w hanner eu hunain dro ar ôl tro dan bwysau’r Gwyddelod, ond roedd Williams, ynghyd â seren y gêm, James Chester, a Ben Davies, yn barod a’u taclo grymus i gadw Wayne Hennessey rhag cael ei fygwth yn ormodol.

Do, bu rhaid i Hennessey arddangos ei allu anhygoel i arbed ymdrechion gwych Stuart Dallas a Jamie Ward yn ystod yr hanner cyntaf ac, wrth i’r munudau dician heibio, cael a chael oedd hi pwy oedd yn mynd i ennill y dydd.

Gorfodwyd Aaron Ramsey a Chymru i ddioddef siom enfawr yn yr hanner cyntaf hefyd wedi iddo gael ei ddyfarnu’n camsefyll ar yr un achlysur pan gurwyd golwr y Gwyddelod, Michael McGovern, i hebrwng y bêl i gefn y rhwyd.

Tyfodd hyder Cymru wedi’r egwyl a gwelwyd un croesiad ardderchog gan Ramsey yn cael ei gwastraffu wrth i Sam Vokes benio’r bêl heibio’r postyn de heb beri unrhyw drafferth i McGovern.

McGovern oedd arwr y Gwyddelod pan gyfyngwyd mawrion yr Almaen i sgôr o 1-0 yng ngornest olaf Grŵp C ac fe gynyddodd y gofid y gallai’r golwr hambygio pob ymdrech Gymreig hefyd ac arwain ei wlad yntau i rownd yr wyth olaf.

Pan gafodd Bale gyfle unwaith eto yn ail hanner y gêm ym Mharis i arddangos eu allu anhygoel yntau â chiciau rhydd o ychydig lathenni y tu allan i gwrt y gwrthwynebwyr, roedd McGovern yn barod gydag un o’r arbediadau gorau a welwyd hyd yn hyn yn Ewro 2016.

Yn y pen draw, er yr holl gyffro a gweld ein gobeithion yn codi a gostwng dros awr-a-chwarter o chwarae, fe ddeilliodd y canlyniad terfynol o weithredoedd “dau Gareth”.

Nerth Hal Robson-Kanu ar gyrion y cwrt ddenodd sylw sawl amddiffynnwr a chaniatáu iddo basio’r bêl i Ramsey a hwnnw’n canfod Bale yn rhydd ar ochr chwith y cwrt.

Datblygodd Bale yn un o groeswyr gorau’r gamp erbyn hyn ac roedd ei ymdrech y tro hwn ymhlith ei orau a gwelwyd Gareth McAuley yn gwyro’r bêl heibio McGovern i gefn y rhwyd.

Does `na ddim amheuaeth na fyddai Robson-Kanu, a oedd yn union wrth ochr amddiffynnwr y Gwyddelod, wedi sgorio’i hunan petai McAuley heb ei guro at y bêl a hynny’n arwain at yr un canlyniad tyngedfennol.

Rhaid cydnabod i’r gwrthwynebwyr barhau i frwydro’n galed ar hyd munudau ola’r ornest ac amddiffyn Cymru’n llwyddo i glirio pob ymdrech a sicrhau lle ymhlith yr wyth olaf am y tro cyntaf mewn twrnamaint rhyngwladol mor fawr.

Yn anffodus, gwelwyd un digwyddiad ofnus yn ystod y munudau olaf pan neidiodd Ashley a Jonny Williams am un bêl uchel a’r capten yn syrthio’n drwsgl ar ei fraich dde, ond gwrthododd adael y cae er ei fod yn amlwg mewn poen.

Wedi iddo dderbyn tipyn o ofal a thriniaeth dwys ar hyd y dyddiau canlynol, cyhoeddwyd y byddai Ashley yn holliach ar gyfer wynebu Gwlad Belg heno, pan fydd y gwrthwynebwyr yn ffefrynnau, yn arbennig wedi iddyn nhw roi crasfa o 4-0 i Hwngari nos Sul.

Does dim modd osgoi cyfeirio at fuddugoliaeth Ynys yr Iâ o 2-1 dros Loegr yn Nice nos Lun ac at ddathliadau carfan Cymru a welwyd ar y cyfryngau ers hynny.

Fel y crybwyllwyd uchod, gwlad fechan yw Cymru, ond y wlad leiaf o bell ffordd, ond yn meddu ar ryw 330,000 o drigolion, yw’r Ynys Ogleddol a doedd `na ddim rhyfeddod o gwbl o weld carfan Coleman yn mwynhau gweld un arall o’r mawrion yn gadael y gystadleuaeth.

Oni fydda’i un o’r rhyfeddodau mwyaf erioed yn hanes pêl droed petai Cymru ac Ynys yr Iâ yn wynebu ei gilydd yn ffeinal Ewro 2016 wythnos i drennydd?

Mae’r freuddwyd yn parhau!


 

Rhannu |