Pêl-droed
Digwyddodd, darfu, megis seren wib, ac ymlaen â ni i Lille
Ar ôl profiadau Bordeaux a Toulouse, ‘roedd bron yn amhosib gwella’r emosiwn!
Anghywir! Mi lwyddais i redeg i Baris dros nos a chyrraedd fore Sadwrn (wel ar y bws i fod yn gywir) ac yna cael y wefr o weld Cymru’n cadarnhau eu lle yn Ewrop er waethaf y newyddion dros nos nad oedd rhai o'n cydwladwyr llawn mor awyddus o fod yn aelodau o unrhyw gyfundrefn debyg.
Ond dechreuodd y noson mewn dim mwy na gobaith ac artaith o fethu â chael ticed.
Gadael Wrecsam am wyth y nos heb sôn am unrhyw diced o unrhyw fath yn y byd.
Yna, yng nghanol y nos, neges ar fy ffôn gan fy ngwraig a oedd wedi trio drwy gydol y noson, i ddweud fod aelod o'r teulu yn methu â mynd i Baris a bod ei diced ar gael i mi drwy ei frawd, a oedd yno yn barod.
Taith a ddechreuodd mewn ffydd a gobaith, a mwy o freuddwyd ffantasi na gobaith ac a orffennodd yn y cariad teuluol mwyaf dwys a fu erioed ac ecstasi pur wrth ddarganfod fy hun yng nghanol palas y tywysogion Ffrengig.
“Sacre bleu!”, os oeddwn wedi meddwl na allwn fod mor emosiynol â'r wythnos ddiwethaf, yna meddyliwch eto!
Fe ddylwn egluro, nad ydw i yn un am yfed cwrw, a dweud y gwir mae'n gas gen i'r stwff, ond erbyn diwedd nos Sadwrn roeddwn innau, fel nifer o Gymry eraill yn canu nerth fy mhen am gael aros yn Ffrainc ac yfed eu cwrw i gyd gan nad oedd lawer o awydd mynd adre arna i!
Rown hefyd wrthi’n cyhoeddi yng nghanol y gymanfa bêl droedaidd nad oeddwn eisiau mynd adre i weithio mwyach!
Yna fe ddaeth eiliad sobrwydd a dos o realiti drosof wrth sylweddoli yng nghanol yr heip o siantio afreolaidd mai pensiynwr ydw’i, a doedd na ddim gwaith imi fynd adre iddo fodd bynnag.
Ie, roedd y byd wedi ei droi ben i lawr a phob synnwyr wedi diflannu mewn rhyw ‘Je ne sais quoi’ anhygoel.
Fel nifer o gefnogwyr eraill o Gymru, unwaith ym Mharis a derbyn y ticed, fe wnes fy ffordd i dafarn o’r enw Joe Allen.
Siawns nad oedd perchennog y tarfan yma wedi llwyr wirioni o ddysgu fod yna chwaraewr gyda’r un enw yng ngharfan tîm Cymru, a hyn yn denu’r cefnogwyr mewn torfeydd i ymweld i yfed ei gwrw, gan wneud iddo feddwl na fyddant hwythau, fel fi, ar frys i fynd adre wrth i fand pres y Parisons gyrraedd o rywle gan arwain y Cymry mewn mor o ganu o dan drwynau Ffrancwyr edmygus.
Ar y llaw arall, roedd y ddynes a oedd yn berchennog ar y boutique ddillad y drws nesa wedi ei ffieiddio'n llwyr gan na allasai unrhyw un ddod i mewn i brynu'r "coutour" unigryw Ffrengig a oedd ar werth yno!
‘C’est la vie’ meddwn i"! "C’est ma boutique" medda hi!
Doedd Madame ddim yn ddynes hapus!
Wel, tasa hi di gwerthu rhyw ddilledyn Cymreig, fe fyddai hithau hefyd, fel ei chymydog, wedi gwneud ffortiwn!
Rown am ddeud wrthi ei bod braidd yn hwyr i godi pais ar ôl piso, ond doedd fy Ffrangeg i ddim digon da!
Yna, y gêm, Llangollen arall tu allan i'r stadiwm, gyda'r miloedd yn gyd ganu, cyd gyfarch, ac yn diolch i'r gendarmes a'r swyddogion Ffrengig am sicrhau ein diogelwch, a hwythau wedi eu syfrdanu wrth weld y cyfeillgarwch Celtaidd a oedd yn cael ei arddangos o flaen eu gynnau.
Ond dyna ni, buddugoliaeth arall dros ein cefndryd Celtaidd, diolch i fflach o athrylith gan Gareth unwaith eto; digwyddodd, darfu, megis seren wib, ac ymlaen â ni heno i Lille, i’r wyth olaf yn erbyn Gwlad Belg a byddai “ deja-vu” fach arall yn dderbyniol iawn.
Ond fe fyddai’r “deja-vu” o ganu a’r dathlu cymanfaol yn sicr o barhau gyda chalon lân yn llawn daioni, tecach fydd na'r Lille dlos, a dim ond Coleman Lân all ganu, canu'r dydd a chanu'r nos!
Felly, pwy a’m dwg drwy’r quarter final, lle fydd Joe’n arlwyo gwledd, a fydd Gareth a’i sancteiddrwydd, yn creu hanes newydd wedd?
Ac unwaith eto, peidiwch â gadael inni fynd adre ac o am aros, o am aros yn yr Ewros ddyddiau foes, yn yr Ewros ddyddiau f’oes!.
Unwaith eto dwi’di mynd dros ben llestri and ymlaen â hi, noswaith arall o ffydd, gobaith, cariad a thensiwn.
“Fait accompli” arall yn erbyn y Belgiaid? Dyna be’ fyddai Bale-lille-ia!