Pêl-droed
Noson i fod yn Gymro, noson o ddiolchgarwch, noson o gyffro
Os mai barddoniaeth oedd Bordeaux, yna darlun o gampwaith celfyddydol oedd Toulouse. Fedra hyd yn oed yr hen Lautrec ddim peintio gwell bortread lliwgar ac argraffiadol o ddrama theatr y byd pêl-droed ag a gafwyd nos Lun.
Roedd y Moulin Rouges dan eu sang, a’r cefnogwyr ffyddlon yn cael eu gwefreiddio gan hudoliaeth y meistri coch a greodd y campwaith ar eu trec i gynfas gwyrdd y Stade de Toulouse.
Roedd cyflawniad celfydd y Cymry mor llachar â gwallt Aaron, mor slic â chyflymder Gareth, mor drawiadol ag amddiffyn Ashley, mor syfrdanol â gôl Neil ac mor fanwl â chynlluniau Osian a Chris.
Erbyn hanner amser roedd y Cymry ar gad garlam yn eu peisiau cochion wrth ruthro ac anrheithio’r teirw cynddeiriog o Rwsiaid oedrannus a’u cyfyngu i ddim mwy na phedestriaid yn ymlwybran o glun i glun wrth weld cysgodion y crysau coch yn hedfan fel Cymru nwydwyllt yn llawn angerdd o’u cwmpas.
Dyma noson i'w chofio, dilyniant perffaith i agoriad cymanfaol Bordeaux a noson pan oedd y ffrost, y ffrwst a’r ffair yn taro’r awyrgylch fel mellten hyd y fagddu hyll.
Noson i fod yn Gymro, noson o ddiolchgarwch, noson o gyffro, noson ddigwsg, noson o lawenydd, noson o glodfori, noson y gymanfa yn y strydoedd, noson i ofyn plîs, plîs peidiwch â gadael inni fynd adra.
Ie, daw gwawr arall yfory wrth inni redeg i Baris, i faes y tywysog, er mwyn coroni perfformiad cyflawn arall.
Allez les rouges!
Nid achub Cymru oedd tasg ein carfan mwyach, ond gwneud Cymru'n werth ei achub, ac mae hyn barod wedi ei gyflawni, gyda gwyrthiau’r arglwydd Coleman eisoes wedi eu gwireddu ar lannau’r Fenai, yr Hafren, a phob man arall o fewn y wlad.
“Be dir’ ots gennym ni am Gymru” - ydach chi o ddifrif? Hwyrach nad yw hon ar fap yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn, ond yna ym Mordeaux, Lens a hefyd Toulouse, roedd’na ddigon o Gymry yn cadw sŵn!
Dyna’r canu, Calon Lan, Hen Wlad fy Nhadau a pheidiwch dda chi a chlegar am y gymanfa ar y stryd a'r caffes.
Dyma Coleman a’i griw, dyma lyfnder a champwaith ar dir estron, a rhwng llawr a nef (ble mae bron pob Cymro erbyn hyn!), mae lleisiau a chanu ar hyd y lle.
Rwy’n simsanu ers dyddiau ac meddaf i chwi mae rhyw wladgarwch anhygoel fel yn f'orchfygu i!
Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron, Duw a'n gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
Allez les rouges, gyda’r cefnogwyr yn rhedeg i fyny ag i lawr y Champs Elysses, tydi sgwâr UEFA ddim digon mawr i Hogia ni!
Dyfod Aaron, arwr yr awron, a daw, fe ddaw'r awr i Sant Gareth a’r tîm.