Pêl-droed

RSS Icon
15 Mehefin 2016
Gan GLYN GRIFFITHS

All geiriau byth grynhoi nac egluro’r Cymreictod a’r cyfeillgarwch a welwyd ym Mordeaux, na’r dathlu a’r llawenydd a rannwyd

WEL! Roedd hi fel trip ysgol Sul! Llond maes awyr Manceinion o Gymry, i gyd ar y daith, yr hen, yr ifanc, teuluoedd, unigolion, cariadon, taid, nain, Anti Meri a phawb arall. ’Dwi ’rioed wedi clywed gymaint o Gymraeg ar awyren yn fy nydd erioed.

Yna roedd cyrraedd Bordeaux fel cyrraedd canol stryd fawr Porthmadog neu Gaernarfon, gyda’r crysau cochion ym mhob man, mwy o Gymraeg ar y stryd nac mewn eisteddfod a lliw’r gwin lleol yn cyfuno’n berffaith gyda lliw’r crysau. Wel, wir, roedd hi’n helo Bordeaux go iawn!

Rownd pob cornel roedd hi’n gymanfa o ddathlu, dathlu cyrraedd Ffrainc, Dont Take Me Home, Calon Lân  a Hen Wlad Fy Nhadau yn cael eu morio gan y miloedd ar filoedd a wnaeth y daith, ar y trên, ar awyrennau, yn y camper fans,  mewn ceir, drwy sawl gwlad, dros y sianel, heibio’r gwinllannoedd, ac i’r Gymru newydd a sefydlwyd dros dro ar lan afon y Gardonne. 

Roedd y Ddraig  ar daith, ac yn ein mysg enwogion pêl-droed y genedl yn crwydro’n hamddenol yng nghanol y bwrlwm. A phob un a welwyd yn ysgwyd llaw, dymuno’n dda ac yn gwenu mewn gobaith wrth gael tynnu eu lluniau yn y selfies diri. Ie, roedd awyrgylch dirdynnol, croesawgar, gorfoleddus Bordeaux yn brofiad bythgofiadwy, 

Ni ellir byth anghofio chwaith ymddygiad, awch, brwdfrydedd a gobeithion yr holl gefnogwyr a deithiodd, yn gosod esiampl o frawdgarwch gyda’r Ffrancwyr lleol. Y Slofaciaid a ddaeth i wrthwynebu Cymru, yn dangos eu gwerthfawrogiad at gymorth helpwyr heddiw (sef gwirfoddolwyr EURO 2016) a oedd mor barod eu cymwynas. Yna, cyd ganu gyda chefnogwyr Slofacia ar y tram i’r stadiwm, (pwy sydd angen Llangollen?) a daeth ar awr, y funud a’r eiliad hir ddisgwyliedig pan gamodd tîm Cymru ar y cae mewn ffeinals am y tro cyntaf ers dyddiau fy magwraeth ym Mhorthmadog mor bell, bell yn ôl.

Mae dros hanner canrif ers i mi fynd i’r ysgol fel pob rhyw fachgen bach da, drwy niwl a glaw, boed aeaf neu boed ha’. Ac yn yr ysgol mi ges lesyns history, geography ac ambell i lesyn am ymdrechion John Charles a’i dîm yng Nghwpan y Byd yn Sweden am mai Cymro bach ydw’i.  Dwi’n dal i gofio Mr Williams a Mr Pritchard yn  mynd i mewn ac allan o’r dosbarth i wrando ar y newyddion diweddaraf o gemau Cymru ar y radio, rhywle yn yr ysgol (cwt Mr Thomas y gofalwr oedd rhywun yn ei amau!)  ac yn dod â’r diweddara i ninnau yn y dosbarth.

Wn i  ddim ble roeddwn i pan glywsom fod ‘na rhyw fachgen bochgoch bach difai o’r enw Pele wedi torri ein calonnau wrth grafu’r bêl heibio Jack Kelsey yn y gôl, a sgorio’i gôl gyntaf erioed i Frasil a oedd yn ddigon i guro Cymru yn yr wyth olaf cyn mynd ymlaen i gipio Cwpan y Byd a gwneud  enw enfawr iddo’i hyn yn fyd eang.

Ond, Dydd Sadwrn diwethaf, Bordeaux a gafodd y “lesyns history, geography” a’r Welsh chwarae teg, am mai Cymry ‘roeddem ni! Rhyddhawyd rhwystredigaeth mynyddoedd o flynyddoedd mewn cymanfa côr y Cymry a lenwodd y Stade de Bordeaux i weld Gareth, Aaron, Joe, Ben, a’r gweddill yn croesi’r môr coch a choroni’r achlysur gyda buddugoliaeth fythgofiadwy gan ein harwain yn nes at wlad yr addewid a gwyrdroi holl ddelwedd Cymru ar hyd a lled y cyfandir.

All geiriau byth grynhoi nac egluro’r Cymreictod a’r cyfeillgarwch a welwyd ym Mordeaux, na’r dathlu a’r llawenydd a rannwyd. Ond mae un peth yn sicr, fe ddylai’r  enw Bordeaux gael ei fabwysiadau a’i dderbyn gan eiriaduron swyddogol y Gymraeg fel gair sydd yn gyfystyr â chroeso, gwladgarwch a dathliadau bythgofiadwy. Ie, roedd hi’n Bordeaux o benwythnos!

Wel helo yn wir Bordeaux a merci, merci beaucoup am y croeso, a diolch i’r holl Gymry a wnaeth y daith, ac a wnaeth y gwaith ar y cae! Pleser oedd bod yn eich mysg a bod cymaint yn rhan o hanes a diwylliant newydd Cymru yma mewn cornel fechan o Ffrainc dros y dyddiau hir melyn tesog yna. Ymlaen â hogia ni! Plîs, plîs peidiwch â gadael i unrhyw un fynd adre eto, mae’n rhy fuan!

Rhannu |