Pêl-droed

RSS Icon
01 Mehefin 2016

Rhys Griffiths - enillydd cyson yr esgid aur yn rhoi ei droed ar ris newydd

Wedi sgorio 269 gôl i wahanol glybiau yn Uwch Gynghrair Cymru mae Rhys Griffiths wedi gadael Aberystwyth a mynd yn rheolwr. Gorffen ei yrfa ar Goedlan y Parc a symud i ofalu am glwb Penybont yng Nghynghrair Cymru y bydd enillydd saith esgid aur yr Uwch Gynghrair.

Rhoddodd rheolwr Penybont y gorau iddi ar ôl deng mlynedd yn eu harwain ac unwaith y clywodd y cadeirydd, Emlyn Griffiths, am benderfyniad Francis Ford aeth yn syth am Rhys Griffiths sy’n 36 oed.

“Rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi cael ein dyn,” meddai’r cadeirydd. “Mae hwn yn adeg cynhyrfus i ni ac am ein bod yn awyddus i gyrraedd Uwch Gynghrair Cymru roedden ni angen y dyn iawn i fynd â ni yn ein blaenau. Rhys oedd y dyn hwnnw.”

Gan fod Rhys yn llawn ymroddiad i arwain Penybont i bethau gwell mae’r dyn iawn ganddyn nhw wrth y llyw, meddai, nid yn unig i fynd â nhw i haen uwch ond i aildrefnu’r clwb o’r top i’r gwaelod.

Wedi chwarae i Gaerfyrddin a Hwlffordd ymunodd Rhys a Port Talbot gan ennill yr esgid aur am y tro cyntaf yn nhymor 2005-6 pan sgoriodd 28 o goliau. Yn fuan wedyn arwyddodd i Lanelli a thorri record y goliau a sgoriwyd mewn tymor i’r clwb. Cyn hir roedd ar restr y rhai oedd wedi sgorio 100 gôl i glwb Stebonheath.

Cafodd ei ddewis yn nhîm y tymor yr Uwch Gynghrair chwe gwaith rhwng 2005 a 2011. Yn yr olaf o’r rhain ef oedd chwaraewr y tymor ym marn holl reolwyr y gynghrair. Aeth yn ôl i Bort Talbot yn 2012 ond yn fuan iawn gadawodd i ymuno â Plymouth Argyle yn Ail Gynghrair Lloegr.

Fu ei arhosiad ddim yn hir ac yn Ionawr 2013 arwyddodd i Gasnewydd. Ond cafodd ei ddenu’n ôl i Bort Talbot cyn dechrau tymor 2013-4 a dechrau dysgu Cymraeg. Wedi hynny y symudodd i Aberystwyth. Cwblhaodd 348 o gêmau yn yr Uwch Gynghrair a gyda’r 269 gôl ef a sgoriodd y nifer fwyaf o goliau yn hanes y gynghrair ar wahân i Marc Lloyd Williams.

Symudiad arall yn hanes Aberystwyth yw penodi Matthew Bishop yn rheolwr newydd i ddilyn Ian Hughes. Credwyd i ddechrau mai Wayne Jones, rheolwr Hwlffordd, fyddai’n cael y gwaith ond dirprwy i Bishop fydd ef. Mae’r rheolwr newydd yn gadael Henffordd lle’r oedd yn rheolwr cynorthwyol.

Bu Matthew Bishop yn chwarae i Aberystwyth yn nau dymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru. Wedyn ymunodd â Bangor, Conwy a’r Rhaeadr. Aeth ymlaen i hyfforddi Casnewydd, Port Talbot ac Aldershot ac ar hyn o bryd mae’n cael ei gyflogi gan Gymdeithas Pêl-droed Lloegr i ddatblygu chwaraewyr ar raddfa genedlaethol. Mae’n byw ym Mhenrhyncoch.

? Fydd y blaenwr Chris Jones ddim yn chwarae i Fangor eto. Nid oedd yn gwbl hapus i adael gan fod y blaenwr o Nefyn wedi meddwl gorffen ei ddyddiau chwarae gyda’r Dinasyddion. Yn ei chwe blynedd ym Mangor sgoriodd 56 o goliau yng ngêmau’r Uwch Gynghrair. Mae’r cefnwr Iolo Hughes wedi gadael hefyd.

Mae chwech o aelodau carfan ddatblygu dan 19 oed Bangor wedi arwyddo i’r tîm cyntaf ar gyfer y tymor nesaf. Cafodd un ohonynt, Shaun Cavanagh o Gaernarfon, dair gôl i’r tîm cyntaf y tymor diwethaf pan gafodd 18 gêm, wyth o’r dechrau.

Rhannu |