Pêl-droed
Clod i’r clwb a gadwodd yr awyrenwyr o Ewrop
Pwy ddywedodd fod angen gemau ailgyfle? Petai’r pedwar cyntaf yn y tabl wedi eu dewis ar eu hunion i chwarae yn Ewrop yr haf hwn fyddai hi ddim wedi gwneud dim gwahaniaeth. Y pedwar cyntaf a gamodd ymlaen i bethau gwell beth bynnag i gynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa.
Am y tro cyntaf yn hanes y clwb mi fydd Gap Cei Connah yn chwarae yn erbyn un o glybiau eraill Ewrop. Y nhw a ddaeth yn bedwerydd yn y tabl yn nhrefn naturiol pethau gan ddangos yn y diwedd bod y pedwerydd yn well na’r chweched clwb a’u bod yn llawn haeddu ennill y 200,000 euro.
Fyddai neb yn medru dweud fod eu gêm yn erbyn Airbus i gael camu i Ewrop yn bictiwr o gelfyddyd bel-droedaidd ond roedd yr un gôl a sgoriwyd yn ddigon i brofi mai nhw oedd yr enillwyr a hynny heb fynd i amser ychwanegol na chiciau o’r smotyn.
Rhaid oedd dygymod â storm o gyfeiriad y crysau glas am y rhan fwyaf o’r hanner cyntaf. Ddaeth bechgyn Andy Preece ddim yn agos i sgorio serch hynny a chyn diwedd y 45 munud roedd Gap wedi cael dau gyfle posibl yn erbyn llif y chwarae ac i’w gweld yn codi eu calonnau.
Roedd hynny’n ddigon i Andy Morrison osod sylfaen i’r tîm ar gyfer yr ail hanner. Bron na ellid dweud fod Airbus wedi chwythu eu plwc ac wedi ymdrechu yn rhy galed ar eu lles ar ddechrau’r gêm.
Bechgyn Gap oedd yn cael gafael arni erbyn hyn ac yn gyrru ymlaen. O un o’r ymosodiadau rheiny y daeth y gôl pan daflodd Les Davies bêl hir am y gôl a honno’n dod yn ôl iddo
Ciciodd hi i gyfeiriad pennau ei gyd-chwaraewyr ac aeth am yn ôl ond yn ddigon pell i’r dde i Wes Baynes fynd am ergyd isel. Aeth y bêl drwy goesau James Coates, golwr Airbus a tharo chwaraewr arall Airbus ac i mewn i’r gôl.
Hwn oedd uchafbwynt y gêm ac er i Airbus bwyso drwy gicio ymlaen am y gôl bob gafael wnaeth tîm y Cei ddim ildio. Mi wnaethon nhw lynu fel gelain at eu tasg a rhwystro pob bygythiad.
Pan aeth y chwiban olaf, a phedwar munud ychwanegol wedi ei chwarae, mi aeth y lle’n wyllt. Er mai 904 yn unig oedd yno mi wnaethon nhw eu rhan yn ystod y gêm ac ar ei hôl i roi Cei Connah ar fap pêl-droed Ewrop.
Mae’n amhosibl peidio â chanmol ymdrech Andy Morrison i gywain tîm a’u rhoi ar ben y ffordd i godi i’r pedwerydd safle yn y tabl a mynd â’i glwb i Ewrop am y tro cyntaf erioed.
Ymhen y mis (20 Mehefin) mi gawn ni weld pa un o’r enwau a ddaw o’r het a sut y byddan nhw’n medru dygymod â’r her o fod yn yn yr Europa am y tro cyntaf.
? Mi fydd Wayne Jones yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf. Er iddo fethu gyda Hwlffordd mae’n cael camu i esgidiau Ian Hughes yn rheoli Aberystwyth. Bu’n rheolwr yn Hwlffordd ers 2013 ac ar un cyfnod bu’n rheoli Castell Newydd Emlyn. Treuliodd amser yn chwarae gyda Hwlffordd a Chaerfyrddin.
? Ym Mangor y bydd MBi Llandudno yn chwarae eu gêm gartref yng Nghynghrair Europa. Maen nhw wedi derbyn benthyciad di-log o £30,000 gan Gyngor Conwy i’w cynorthwyo i dalu am eu taith Ewropeaidd cyn y daw 200,000 euro at ddiwedd y flwyddyn. Roedd y cynghorwyr o’r farn y bydd y sylw a gaiff y clwb yn llesol i’r dref wyliau.