Pêl-droed

RSS Icon
09 Mai 2016

Un o glybiau Sir y Fflint i ennill y crochan aur

Yn y gogledd ddwyrain y byddan nhw’n setlo pwy fydd y pedwerydd clwb i gynrychioli Cymru yn Ewrop yr haf hwn. A dau dîm o Y Fflint sy’n cystadlu am y wobr fawr a ddaw wrth ymddangos yng Nghynghrair Europa. Gan mai Gap Cei Connah a enillodd eu gêm y Sul diwethaf, a’u bod yn uwch yn y tabl, yng nghae Coleg Cambria y mae’r gêm dyngedfennol y Sadwrn hwn.

Yr Hen Aur a Gap oedd ail gêm y gemau ailgyfle a Chaerfyrddin yn ildio gôl yn gynnar wedi i’w golwr fethu dal tafliad gan Les Davies a Nick Rushton yn manteisio. Tan ganol yr ail hanner 1-0 oedd hi yng Nghei Connah pan lwyddodd Wes Baynes i daro’r ail gôl o ymyl y cwrt cosbi.

Cyn hir daeth goleuni i Gaerfyrddin pan gafwyd cic o’r smotyn wedi i Danny Harrison gael cerdyn coch am ei dacl. Mi lwyddodd John Rushton i’w dal. Er sawl ymdrech arall wnaeth yr Hen Aur ddim sgorio a daeth y gêm i ben yn 2-0 a thaith hir i chwaraewyr Caerfyrddin yn ôl heb olwg am wobr ariannol ar ei diwedd.

Airbus oedd y tîm gorau y diwrnod cynt, er mai dwy gic o’r smotyn a gawson nhw i’w gwneud yn 2-1 yn y Drenewydd. Does dim dwywaith mai taran Shane Sutton oedd y digwyddiad mwyaf cofiadwy yn yr holl gêm. Methu cael ail a wnaeth y Drenewydd ac mi fydd yn rhaid byw heb y 400,000 euro eleni – y swm a gawson nhw o ddwy gêm y llynedd.

Pwy felly sydd am fynd â hi o flaen camerau Sgorio y Sadwrn hwn? Mi fydd gan Gap Cei Connah fantais sylweddol eu bod yn cael chwarae ar eu cae eu hunain. Mae hi wedi bod yn eithaf agos rhwng y ddau glwb yn ystod y tymor, er mai Gap a enillodd eu gêm gartref 2-1 y mis diwethaf. Mae’r rheolwr Andy Morrison wedi rhoi mwy o ruddin yn y tîm a dydyn nhw ddim yn rhai hawdd i’w curo.

Gwelwyd beth oedd lle yn y rownd derfynol yn ei olygu i Andy Preece, rheolwr Airbus, ar ddiwedd y gêm yn y Drenewydd. Fyddai ei ymateb ddim wedi bod ddim gwahanol petai wedi ennill y gynghrair. Mi gân nhw wythnos lawn i ddod dros y gem ac roedd Tony Gray, eu prif sgoriwr, yn awgrymu fod eu coesau’n dioddef erbyn y diwedd y Sadwrn diwethaf. Roedd hynny am eu bod wedi chwarae am Gwpan Cymru yn Wrecsam y dydd Llun cynt.

Wnaeth Tony Gray, ail brif sgoriwr yr Uwch Gynghrair, ddim cystal yn erbyn y Drenewydd. Er iddo gael digon o gyfle i sgorio yn ail hanner y gêm, methu’r targed a wnaeth bob gafael. Mi fydd Andy Preece yn rhoi ei ddwy law ynghyd y tro hwn gan obeithio y bydd yn medru anelu’n well os caiff y cyfle.

Mi fydd hon yn gêm galed oherwydd y crochan aur ar ei diwedd. Mi all fynd i amser ychwanegol, a chiciau o’r smotyn, ond mae’n bosib iawn mai Gap Cei Connah aiff â hi.

? Wedi blwyddyn allan ohoni mae Derwyddon Cefn yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru. Caernarfon a ddylai fod yno i roi hwb ymlaen i’r gynghrair ond doedd eu gwaith papur ddim yn ei le a chawson nhw mo’r drwydded.

? Dyddiau chwynnu a chyflogi yw hi yn Park Hall. Mae’r Seintiau wedi cyhoeddi fod saith o’u chwaraewyr yn gadael a’u bod wedi cyflogi chwaraewyr o Queens Park Rangers a Wigan yn eu lle. Mike Wilde a Kai Edwards yw dau o’r rhai sy’n mynd.

Rhannu |