Pêl-droed

RSS Icon
03 Mehefin 2011
Androw Bennett

Hanesyddol

HANESYDDOL! Bendigedig! Anhygoel! Anghredadwy! Bythgofiadwy. Dim ond rhai o’r negeseuon testun yn fy nghyrraedd ar fy ffôn lôn o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn yr oriau wedi buddugoliaeth syfrdanol Abertawe yn erbyn Reading bnawn dydd Llun yn Wembley. Er i sawl perthynas a chyfaill anfon eu negeseuon yn syth wedi’r chwiban olaf, bu raid aros bron ddwyawr cyn eu derbyn, cymaint oedd y pwysau ar y rhwydweithiau’n dilyn buddugoliaeth yr Elyrch o 4-2.

Fel y crybwyllodd y rheolwr, Brendan Rodgers, dros yr wythnosau diwethaf, bydd Uwch Gynghrair Lloegr dipyn cyfoethocach o weld y clwb Cymreig cyntaf ymhlith y mawrion ers ffurfio’r Cynghrair ym 1992. Siom i lawer, wrth gwrs, yw nad oes ’na ddau glwb o Gymru wedi codi i’r entrychion, ond falle bod ’na well argoelion i’r Adar Gleision nawr bod eu cymdogion a’u gelynion pennaf wedi dangos y ffordd.

Tra’r oedd 40,000+ o gefnogwyr yr Elyrch yn tyrru ar hyd y Ffordd Olympig i Wembley ar ei newydd wedd am y tro cyntaf, daeth y newyddion fod Caerdydd wedi ymddiswyddo Dave Jones a bod clwb y Brifddinas yn chwilio am reolwr newydd. Dangosodd Abertawe ddydd Llun, fodd bynnag, fod gan glwb ar yr ymylon i bob pwrpas yr awch a’r gallu i godi o’r pydew gan wneud hynny mewn modd syfrdanol ac o fewn cyfnod byr iawn.

Ymhlith y miloedd yn Wembley, y mwyaf emosiynol oedd y rheiny fu yn y Vetch wyth mlynedd yn ôl pan fu’r Elyrch o fewn trwch blewyn i golli’u statws yn y prif gynghreiriau. Adleisiwyd y sgôr o 4-2 ar y diwrnod hwnnw yn 2003 gyda hat-tric Scott Sinclair yn erbyn Reading y tro hwn yn hel atgofion am gamp gyffelyb James Thomas yn sgorio tair yn erbyn Hull.

Gyda Stephen Dobbie’n sgorio i’r Elyrch hefyd ddydd Llun, dydy’r sgôr yn ei hunan ddim yn cyfleu’r cyffro a’r nerfusrwydd, yn arbennig ar ddechre’r ail hanner pan sgoriodd Reading eu dwy gôl ar 49 a 57 munud ar ôl i Abertawe fod ar y blaen o 3-0 ar yr egwyl ac yn edrych fel buddugwyr cyfforddus.

i ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |