Pêl-droed

RSS Icon
03 Mai 2016

Llandudno’n gadael i Airbus frwydro am le yn Ewrop

Ychydig iawn a fyddai wedi disgwyl i’r Seintiau Newydd golli rownd derfynol Cwpan Cymru. Wnaeth Airbus ddim digon i fod yn feistri arnyn nhw ar y Cae Ras. Canlyniad hyn i gyd yw fod bechgyn Brychdyn yn gorfod mynd ymlaen i gystadlu yn y gêmau ailgyfle y ddau Sadwrn nesaf.

Cyn sôn rhagor am y gêmau rheiny mae’n rhaid cofio am gamp MBi Llandudno. Gan iddyn nhw ddod yn drydydd yn y tabl ac i’r Seintiau ennill y Cwpan – a phob tlws arall sydd i’w gael am yr ail dro yn olynol – mi fydd enw tîm Alan Morgan yn yr het ar gyfer gêmau agoriadol Cynghrair Europa gan ymuno â’r Bala, a’r Seintiau wrth reswm.

Mi wnaeth Llandudno gamu o Gynghrair Undebol Cymru yn y gogledd i Uwch Gynghrair Cymru ac ar y cynnig cyntaf maen nhw yn Ewrop. All hyn ddim ond bod o les i’r clwb gan y bydd yr enillion ariannol o 200,000 euro yn gaffaeliad enfawr i’r rhai sy’n ei gynnal yn Llandudno.

Mi ellid disgwyl y gallan nhw gryfhau’r tîm ym mis Awst ar gyfer y tymor nesaf gan obeithio bod yn her wirioneddol i’r Seintiau Newydd. Fyddai neb yn gwadu fod angen cystadleuaeth well arnyn nhw a bod yn rhaid cael clwb o Gymru i’w taflu oddi ar eu clwyd.

Mi fydd un clwb arall o’r Uwch Gynghrair yn ymuno â nhw i gystadlu yn Ewrop. Mae’r ras am y pedwerydd safle yn dechrau y Sadwrn a’r Sul hwn, yn y Drenewydd a Chei Connah.

Fydd gan yr awyrenwyr o Frychdyn ddim wythnos lawn i ddod dros eu gêm yn Wrecsam ddydd Llun wrth ei anelu hi am y Drenewydd. Wedi cael pythefnos o orffwys mi ddylai tîm Chris Hughes fod yn barod iawn am y gêm hon i geisio ailadrodd eu hymgais i cyrraedd Ewrop eto eleni.

Stori ddigon rhyfedd yw’r gêmau a fu rhwng y ddau glwb y tymor hwn. Mi enillodd Airbus ddwywaith 0-3 ym Mharc Latham ac yna’r Drenewydd yn curo’r awyrenwyr gartref 1-4 ac yn cael gêm gyfartal 2-2 y tro diwethaf ym Mrychdyn. Anodd iawn yw proffwydo pa un o’r ddau dîm fydd yn mynd â hi gan nad yw mantais o fod gartref ddim yn cyfri llawer yn hanes y ddau glwb eleni. Mi fydd yn dibynnu’n llwyr ar goesau bechgyn Andy Preece, a fyddan nhw wedi dod dros eu tasg anodd ddechrau’r wythnos.

Gan mai Caerfyrddin oedd yn seithfed yn y tabl – ar ben yr ail hanner – y nhw sy’n cael mynd i wynebu Gap Cei Connah ddydd Sul. Cyn y rhaniad yn Ionawr roedd Caerfyrddin wedi curo Gap 1-0 yn y Waun Dew. Ond pan gryfhaodd tîm y Cei dan Andy Morrison yn y gêm gyntaf dan y rheolwr newydd mi gollodd yr Hen Aur yn Sir y Fflint 4-0. Gan ystyried sut yr aeth pethau wedi hynny mi fydd gan Mark Aizlewood dasg aruthrol o’i flaen i ennill y gêm y tro hwn i fynd ymlaen i’r ail Sadwrn.

Mi fydd y gêm yn y Drenewydd yn cael ei dangos ar Sgorio a’r gic gyntaf am 5.15pm. Os bydd y gêmau’n gyfartal ar y diwedd mi fyddan nhw’n mynd i amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn os bydd rhaid.

Rhannu |