Pêl-droed

RSS Icon
26 Ebrill 2016

Gall Llandudno fod yn Ewrop ar y cynnig cyntaf un

Chafodd tref Llandudno ddim dathlu eu bod wedi creu hanes yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair. Mi ofalodd y Seintiau Newydd am hynny gan ddangos i dîm Alan Morgan pwy oedd y meistri a phwy sy’n haeddu bod ar frig y tabl eto y tymor hwn. Rhaid i MBi Llandudno fodloni ar fod yn drydydd.

Mae hynny’n gamp ynddi’i hun a phwy a ŵyr na fyddan nhw’n chwarae yn Ewrop heb wneud dim ychwaneg os bydd y rhai a’u baeddodd y Sadwrn diwethaf yn ennill Cwpan Cymru bnawn dydd Llun nesaf. A phwy na fyddai’n amau y gall y Seintiau fachu’r Cwpan yn Wrecsam fel maen nhw wedi gwneud ddwywaith yn olynol a phum gwaith i gyd.

Y Bala a wnaeth yn siŵr o’r ail safle yn y tabl y tymor hwn eto. Dyma roi tîm Maes Tegid ar fap pêl-droed Ewrop unwaith yn rhagor yr haf hwn a doedd fawr ryfedd fod y siampên yn llifo ar gae Coleg Cambria nos Sadwrn. Roedd un gôl yn ddigon yn erbyn Gap Cei Connah i sodro’u lle tu ôl i’r Seintiau i fod y tîm gorau o Gymru yn y gynghrair.

Doedd hi ddim yn glasur o bell ffordd a chic o’r smotyn gan Lee Hunt oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm. Yn anffodus roedd Sgorio yn ei dangos yr un pryd ag yr oedd gêm gyn-derfynol Cwpan Lloegr rhwng Everton a Manchester United ar BBC1. Sawl un o ffydloniaid Dyl a Malc oedd wedi troi i weld y gêm honno yn lle’r frwydr wyllt rhwng Gap a’r Bala?

Y calondid i ddilynwyr y Bala yw fod y rheolwr Colin Caton wedi adnewyddu ei gytundeb gyda’r clwb. Mi fydd yn angor iddyn nhw eto yn eu hymgais i gamu ymlaen yng Nghynghrair Europa. Mi fydd yno hefyd i weld y newid o’r hen gae i’r 3G a’r manteision a ddaw hwnnw iddyn nhw ar ddyddiau gwlyb y gaeaf.

Dyw’r tymor ddim wedi dod i ben i sawl un arall o’r clybiau. Mae’r gêmau ailgyfle o’u blaenau, unwaith y bydd diwrnod y Cwpan drosodd. Petai Airbus yn ennill y Cwpan mi fyddai Aberystwyth yn cael cynnig mynd am Ewrop. Gan iddyn nhw roi crasfa dda i Fangor mi lwyddon nhw i orffen yn yr wythfed safle, uwchben Bangor ac is na Chaerfyrddin sy’n seithfed. Mi wnaethon nhw roi clo diflas i dymor Bangor oedd heb fod y gorau o’r dechrau’n deg.

Ond mae eu rheolwr wedi rhoi’r gorau iddi a dyfalu a fydd Ian Hughes yn cael ei ddenu i fod yn ddirprwy reolwr, neu reolwr, i Fangor sy’n nes at ei gartref yn Llangefni. Gyda chefnogwyr Bangor yn anniddig iawn ers tro fod eu clwb wedi bod allan o Ewrop mae’n siŵr ei bod yn demtasiwn i geisio denu Ian Hughes.

Yn eu gêm olaf y tymor hwn mi lwyddodd rheolwr newydd y Rhyl i ennill ei gêm gyntaf - yn erbyn Caerfyrddin. A da hynny gan fod lle i’r claerwynion yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf gan fod Port Talbot wedi eu hesgymuno, a Chaernarfon wedi eu gwrthod. Mi all Niall McGuinness ddechrau meddwl am y tymor nesaf a sut i gryfhau.

Dyw pethau ddim yn edrych mor addawol i Hwlffordd ar ôl eu tymor cyntaf yn ôl yn yr Uwch Gynghrair. Wedi gorffen ar y gwaelod mae’n ansicr eto pa glwb fydd yn cymryd eu lle. Treuni na chafodd Wayne Jones a’i dîm afael ynddi. Pe bai’r arian ganddyn nhw i ddenu chwaraewyr cryfach mi fyddai wedi bod yn stori wahanol.

Rhannu |